John C Bullas, Flickr
Taf-Od

A yw dwyieithrwydd yn dda i’r ymennydd?

Ymchwil newydd yn dangos y gall ddwyieithrwydd lleihau dirywiad meddyliol mewn henaint

Gan Dan Heard

Erbyn heddiw, mae ein poblogaeth fydol yn gynyddol ddwyieithog, neu hyd yn oed yn gallu siarad mwy na dwy iaith. Mae’r ‘trend’ newydd hwn, yn ôl ymchwil yn cael effaith positif ar ein cyfarwydd-der gwybyddol. O ganlyniad i’r gallu i siarad mwy nag un iaith, mae’r ymennydd yn gallu, yn ôl ymchwil, gweithio’n gyflymach, a chanlyniad hynny yw ein gwneud i dalu mwy o sylw at waith a lleihau’r amser mae’n ei gymryd i ddatrys problemau o gymharu ag ymennydd unieithog. Ar ben hynny, gall fod yn ddwyieithog gael effeithiau positif ar ddau begwn y sbectrwm oedran, gyda phlant dwyieithog mor ifanc â chwech neu saith fis oed yn medru ymdopi’n well i newidiadau yn eu hamgylchedd, ac felly, gall henoed dwyieithog brofi llai neu braidd dim dirywiad gwybyddol na phroblemau sy’n codi’n naturiol o ganlyniad ei oedran. Rydyn ni fel bodau dynol yn cael ein hamgylchu, fel petai, gan iaith ac ieithoedd bob munud o bob dydd. Rydym yn defnyddio iaith nid yn unig i fynegi ein teimladau, ond hefyd i gysylltu â phobl eraill sy’n rhoi teimlad o hunaniaeth i ni fel unigolion yn ogystal â’n cynorthwyo i ddeall y byd o’n gwmpas yn well.

Mae yna 6800 o ieithoedd gwahanol ar draws y byd, ac wrth gwrs, gan nad oes dewis gennych yn y mater o ble cewch chi eich geni, mae yna ddisgwyliad naturiol i ddysgu iaith mor gynted â phosib ar ôl cael eich geni yn y man hwnnw. Awgryma arbenigwyr bod y dalent o fedru dechrau dysgu iaith mor fuan yn eich bywyd yn diflannu’n gyflym – mor fuan â naw mis wedi’ch genedigaeth – wrth i ddarnau’r ymennydd sy’n gallu ymdopi â dysgu ieithoedd newydd fynd yn fwy ac yn fwy di-werth. Serch hynny, mae’r ffaith bod y gallu gennym i ddysgu iaith newydd yn yr ysgol uwchradd (Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Gymraeg ail iaith yn fwyaf tebygol yng Nghymru) yn beth rhyfeddol i mi. Fodd bynnag, mae hyn yn elwa eich ymennydd mewn sawl gwahanol ffordd felly byddwn yn erfyn ar unrhyw un i ymgymryd i ddysgu iaith newydd pa bryd bynnag y gallant yn eu bywydau. Mae ymchwiliadau newydd diweddar yn dangos fod ymennydd dwyieithog hefyd yn gallu adfer anghytundebau a hyd yn oed gwrthsefyll clefydon yr ymennydd fel ffurfiau gwahanol o orddryswch, dementia ac Alzheimer’s am gyfnod hwy mewn bywyd. Mae’r sylweddoliadau hyn wedi achosi i nifer o ysgolion cynradd, uwchradd a hyd yn oed rhai colegau a phrifysgolion i ail-feddwl eu polisi ar ddysgu ieithoedd yn ogystal â chyhoeddi gwersi a gweithgareddau i annog dwyieithrwydd mewn pobl ifanc. Mantais sydd gan Gymru yma felly am fod gwersi Cymraeg yn rhan hanfodol o’r cwricwlwm.

Yn bersonol, rydw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pan oeddwn yn bedair blwydd oed, ac nid yw erioed wedi teimlo fel sialens, nac ychwaith yn dasg anodd. Mae hi wedi bod yn broses hollol naturiol. Yn wahanol i’r Gymraeg, teimlais fod astudio Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol uwchradd wedi bod dipyn yn fwy o sialens. Wrth edrych ar fy sefyllfa heddiw yn y brifysgol, rwy’n astudio at radd mewn newyddiaduriaeth. Rwy’n astudio dau fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at swydd ym myd cyfryngau – trwy gyfrwng y Gymraeg gobeithio. Mae dwyieithrwydd wedi agor cymaint o ddrysau i mi fel unigolyn, a gyda’r newyddion ei fod yn dda i’r ymennydd hefyd, rwy’n falch iawn o fedru dweud fy mod yn ddwyieithog!

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php