Tarddiad: Shirokazan drwy Flickr
Taf-Od

A yw llywodraethau yn gwneud digon i gefnogi ieithoedd lleiafrifol?

Gan Osian Wyn Morgan a Liam Ketcher

Chwe mis yn ôl, cyhoeddwyd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi terfyn ar y gyllideb o £150,000 y flwyddyn a roddir i gefnogi’r iaith Gernyweg. Roedd y Gernyweg wedi derbyn y swm blynyddol hwn ers 2003, pan gydnabuwyd y Gernyweg fel iaith leiafrifol a rhanbarthol.

Deillia’r Gernyweg, ynghyd â’r Gymraeg a’r Llydaweg, o’r iaith Frythoneg, felly mae cysylltiadau ieithyddol agos rhwng y tair iaith. Fodd bynnag, gydag oddeutu 500 o siaradwyr iaith gyntaf, a rhyw dair mil sy’n maeddu ar ryw sgiliau yn yr iaith, mae’n deg awgrymu nad yw’r Gernyweg wedi goroesi cystal â’r Gymraeg, sydd â 562,000 o siaradwyr, a’r Frythoneg, sydd â thros 200,000 o siaradwyr. Er bod niferoedd y siaradwyr Cernyweg yn llai na’i chwiorydd ieithyddol, mae hi’n cael ei siarad gan gannoedd o bobl yn ddyddiol, ac mae’r iaith yn parhau i fod yn rhan bwysig o ddiwylliant a hunaniaeth Cernyw, ac adlewyrchir hynny yn yr ymatebion angerddol yn erbyn penderfyniad y llywodraeth i roi terfyn ar ei gyllideb.

Lluniwyd deiseb i erfyn ar y llywodraeth i barhau gyda’r gefnogaeth ariannol i’r Gernyweg, ac mae bellach wedi cael ei lofnodi gan 10,000 o bobl, sy’n golygu bod rhaid i’r llywodraeth ymateb i’r ddeiseb.

Perodd penderfyniad y llywodraeth Dorïaidd i gael gwared ar y gyllideb wrthwynebiad tanbaid gan wleidyddion yr wrthbleidiau hefyd. Ysgrifennodd Tim Farron, arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn San Steffan, lythyr personol i David Cameron, y Prif Weinidog ar y pryd, i’w ddarbwyllo y byddai diddymu’r gyllideb yn “atal cenedlaethau’r dyfodol rhag y mynediad i gyfleoedd a buddion lleol yr iaith.” Dywedodd “mae gan y bobl Gernyweg hanes balch ac amrywiol a chaiff ei ymgorffori yn yr iaith unigryw, sy’n rhan annatod o’u hunaniaeth”, cyn ychwanegu “byddwn yn ymgyrchu yn lleol ac yn genedlaethol am newid a fydd yn rhoi parch i’r iaith sy’n bwysig ac annwyl i lawer o bobl, ac sy’n ased i’r Deyrnas Unedig.”

Fodd bynnag, er bod sefyllfa’r Gernyweg yn sylweddol wannach na’r Gymraeg, mae hi’n parhau i fod yn iaith fywiog, sy’n bwysig i’r bobl sy’n ei siarad. Cawsom gyfle i siarad gyda Sam Brown, myfyriwr MA mewn Astudiaethau Celtaidd, sy’n rhugl yn y Gernyweg a’r Gymraeg.

Dywedodd: “Yng Nghernyw does yna ddim un gymuned sy’n defnyddio’r iaith ar y strydoedd fel yng Nghymru. Mae’n rhaid i siaradwyr Cernyweg drefnu cyfarfodydd er mwyn siarad yr iaith, os nad ydynt yn ddigon lwcus i fod yn un o’r ychydig o bobl sy’n gweithio gyda’r iaith neu yn ei defnyddio gyda’u teulu.

“Mae siaradwyr Cernyweg yn edrych ar y Gymraeg fel y gôl ddelfrydol. Mae’r Gymraeg yn iaith addysg, mae yna deledu a radio Cymraeg pob dydd ac mae pawb sy’n dŵad i Gymru yn gwybod ar unwaith bod y Gymraeg yn bodoli achos ei phresenoldeb ym mhob cornel y byd cyhoeddus.

“Tua un awr o Gernyweg yr wythnos sydd i’w chlywed ar y radio ac mae arwyddion Cernyweg wedi dechrau ymddangos yn ddiweddarach. Fodd bynnag, mae llawer o wrthwyneb gan bobl ddi-Gernyweg, ac mae gan y Gernyweg ffordd hir i fynd er mwyn cyrraedd yr un sefyllfa â’r Gymraeg, ond dwi’n obeithiol.”

Wrth ystyried y bygythiad newydd o ddiffyg cyllideb i’r Gernyweg, ymddengys bod sefyllfa’r Gymraeg yn un cryf wrth gymharu. Er bod rhai o’r Cymry yn gweld sefyllfa’r iaith fel un bregus, i bobl, fel Sam, sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol eraill, mae sefyllfa’r Gymraeg yn un cadarnhaol.

Ychydig o wythnosau yn ôl cyhoeddwyd cyllideb ddrafft gan Gynulliad Cymru, a fydd yn golygu y bydd Cymraeg i Oedolion a’r Asiantaeth Iaith Genedlaethol yn derbyn £5m ychwanegol. Nid oes modd dadlau yn erbyn y ffaith fod y Gymraeg yn derbyn llawer mwy o gyllideb a buddsoddiad na’r Gernyweg. Fodd bynnag, gellir dadlau nad yw’r buddsoddiad yn y Gymraeg yn ddigonol chwaith. Yng Ngwlad y Basg, caiff 1% o gyllideb llywodraeth ddatganoledig y wlad ei wario ar y Fasgeg, canran sylweddol uwch na’r hyn a chaiff ei wario yng Nghymru. Er y byddai rhai yn dadlau nad yw’r Cynulliad yn gwneud digon dros y Gymraeg, i gymharu â rhai ieithoedd lleiafrifol eraill, mae’r Gymraeg yn cael llawer o sylw a chyllideb gan ei lywodraeth.

Cymerwch y Llydaweg fel enghraifft, mae llywodraeth Ffrainc yn enwog am weithredu yn erbyn lleiafrifoedd ethnig ac ieithoedd lleiafrifol o fewn ei gwlad. Nid yw llywodraeth Ffrainc yn cydnabod y Llydaweg fel iaith swyddogol, ac nid yw ysgolion Llydaweg eu hiaith yn derbyn cyllideb gan lywodraeth Ffrainc.

Ymddengys, felly, bod y ffordd y trinnir y Gymraeg gan ei lywodraeth, yn llawer cryfach na’r ffordd y trinnir ieithoedd lleiafrifol eraill gan eu llywodraethau hwythau. Er nad yw sefyllfa’r Gymraeg cystal a dylai hi fod, ac er bod llawer mwy y gall, ac y dylai, cynulliad Cymru wneud dros y Gymraeg, ymddengys nad yw’e sefyllfa mor anobeithiol ac y gall fod. Er nad yw’r Gymraeg wedi goroesi cystal ag y byddai llawer o Gymry wedi gobeithio, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod bod y Gymraeg wedi goroesi yn llawer gwell na rhai o’i chwiorydd ieithyddol (er nad yw hynny’n esgus i beidio â pharhau i gryfhau sefyllfa’r Iaith, yn amlwg!).

Mae’n peri gofid i feddwl nad yw rhai pobl sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol yn cael yr un cyfle i ddefnyddio a dathlu eu hieithoedd yn yr un modd ag yr ydym ni yn yng Nghymru. Felly, pan ddefnyddiwch eich Cymraeg o ddydd i ddydd, gyda’ch ffrindiau, wrth wylio S4C, neu wrth ddarllen y Taf-Od, cofiwch pa mor lwcus yr ydych fod gennych iaith fywiog, brydferth a chyfoethog i’w siarad.

Ymgyrchwch dros y Gymraeg. Anogwch bobl i’w ddysgu. Gweithredwch tuag at Gymru gwbl ddwyieithog. Ond ar yr un pryd, mwynhewch ei siarad. Cymerwch ran yn y diwylliant llewyrchus sydd ynghlwm â hi. A chofiwch pa mor lwcus yr ydym i allu siarad ein heniaith hardd pob dydd.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php