Tarddiad: William Photo drwy Flickr
Taf-Od

Aberfan: Cofio un o ddiwrnodau tywyllaf ein gwlad

Gan Osian Wyn Morgan

Roedd hi’n fore tywyll a gwlyb yn Aberfan, pentref glofaol yng Nghymoedd De Cymru, ar yr 21ain o Hydref, 1966. Am 9:15 y bore, roedd disgyblion Ysgol Gynradd Pantglas newydd ddychwelyd i’w dosbarthiadau ar ôl eu gwasanaeth boreol, ar y diwrnod olaf o ysgol cyn yr hanner tymor. Nid oeddent yn ymwybodol y byddai eu hysgol wedi ei orchuddio mewn glo o fewn 5 munud, mewn digwyddiad erchyll a fyddai’n lladd cenhedlaeth gyfan yng nghymuned Aberfan. I 116 o ddisgyblion yr ysgol, a 28 o oedolion, y digwyddiad erchyll hwn fyddai eu hatgof olaf.

Yn y cymoedd, nid oedd yn anghyffredin i’r rwbel o’r pyllau glo gael ei adael mewn tomenni ar ochrau’r mynyddoedd, a dyma yn union a ddigwyddodd yn Aberfan. O dan un o’r tomenni hyn, fodd bynnag, roedd dwy ffynnon yn rhedeg. Yn ystod y diwrnodau yn arwain i fyny at yr 21ain o Hydref, cafwyd llawer o law trwm. O ganlyniad i’r glaw hwn, gorlifodd y dŵr yn y ffynhonnau, gan beri i’r domen ansefydlogi, ac fe lithrodd oddeutu 150,000 metr ciwbig o rwbel hylifol tuag at Ysgol Pantglas, ar gyflymderau o oddeutu 40 milltir yr awr. Llyncwyd fferm a sawl tŷ gan yr ‘afalans’ hwn cyn iddo gyrraedd yr ysgol gynradd.

Ond pwy oedd ar fai? Cred lawer bod y digwyddiad arswydus hwn yn ganlyniad i anniofalwch y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a bentyrrodd y gwastraff o’r pyllau glo uwchben dwy ffynnon danddaearol. Ychydig o fisoedd ar ôl y digwyddiad, lansiwyd ymholiad, a chyhuddwyd y Bwrdd Glo am fod yn gwbl gyfrifol am y digwyddiad trychinebus hwn.

Ychydig o wythnosau yn ôl, roeddwn yn ymweld â fy Nhaid, sy’n byw yn gyfagos i bentref Aberfan, felly penderfynais ymweld â’r pentref, i weld, gyda llygaid fy hun, lleoliad yr erchylltra hwn. Tra’n sefyll yno, yn yr union fan lle saif ysgol ers talwm, a lle claddwyd 116 o blant yn fyw yn gwbl ddidrugaredd, edrychais o’m cwmpas ar bentref Aberfan. Crëwyd, a datblygwyd y pentref hwn am un rheswm, ac un rheswm yn unig; glo.

Mae glo wedi cael dylanwad anfesurol ar hanes Cymru, boed yn hanes diwydiannol, economaidd, cymdeithasol neu ddemograffig. Cyflogwyd cannoedd o filoedd o Gymry gan y diwydiant glo. Rhoddodd glo Gymru ar y map fel gwlad fodern a diwydiannol. Fodd bynnag, tra roeddwn yn sefyll yno, yn syllu ar resi o feddi a daliwyd ynddynt eirch maint plant, meddyliais i fy hun; a oedd o werth o?

Er ei fod yn ddadleuol y cafwyd y chwyldro diwydiannol effaith gadarnhaol ar Gymru fel gwlad, a oedd hyn yn cyfiawnhau dioddefaint y Cymry, fel dioddefaint ac aberth trigolion Aberfan? Nid Aberfan oedd yr unig gymuned i ddioddef, mae hanes diwydianeiddio Cymru yn llawn trychinebau, fel y ffrwydrad yn Senghenydd yn 1913, lle lladdwyd 439 o ddynion a bechgyn. Yn ychwanegol i drychinebau fel hyn, lladdwyd degau o ddynion yn ddyddiol o ganlyniad i doeon yn syrthio, a nwy yn gollwng.

I’r glowyr na brofodd farwolaethau sydyn a barbaraidd, roedd gweithio yn y pyllau glo yn golygu gwaith caled a chorfforol, am oriau hirion. Byddai rhai plant yn dechrau gweithio pan oeddent yn bum mlwydd oed. Y tu allan i’r gwaith, roedd cyflwr byw y glowyr yr un mor wael. Roedd strydoedd y cymoedd wedi eu gorlenwi, ac roeddent yn fudr ac yn llawn clefydau. Ym Merthyr Tydfil, roedd y disgwyliad oes yn llai na 18 mlwydd oed, yn sylweddol llai na 50, y cyfartaledd ym Mhrydain ar y pryd.

Roedd buddion economaidd y chwyldro diwydiannol yn syfrdanol. Ar un pryd, roedd Cymru yn allforio 57 miliwn tunnell o lo bob blwyddyn, oddeutu chwarter o gynhyrchiad glo y byd. Gwau hynny, ai pobl Cymru, y cannoedd o filoedd o lowyr Cymreig, oedd y bobl a elwodd fwyaf o werth economaidd glo Cymru? Roedd cyflogau’r glowyr yn gymharol isel, gyda’r rhan helaeth o’r elw o lafur y glowyr yn mynd at berchenogion y pyllau glo.

Wrth ystyried gwerth y glo a oedd yn nhir y cymoedd ers talwn, onid y dylai pobl y cymoedd fod yn manteisio ar y cyfoeth hwnnw heddiw? Onid y dylent fod yn elwa’n economaidd o lafur eu cyndeidiau? Yn hytrach, dengys ffigyrau yn 2012 mai’r Cymoedd oedd ardal dlotaf Prydain. Mae pobl y cymoedd, ar gyfartaledd, yn tueddu i dderbyn llai o gymwysterau economaidd na chyfartaledd Prydain, ac mae ffigyrau diweithdra’r cymoedd yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Deallaf, fodd bynnag, nad yw’r cymoedd yn eithriad i’r rheol, a bod dwsinau o gymunedau ôl-ddiwydiannol ym Mhrydain heddiw sy’n dioddef o dlodi. Er hyn, yn bersonol, mae’r cymoedd yn ardal sy’n agos iawn i’m calon. Mae’r rhan fwyaf o fy nheulu yn dod o’r cymoedd – gweithiodd fy nhaid mewn pwll glo – a theimlaf gysylltiad cryf gyda’r lle. Mae pobl y cymoedd yn bobl balch. Ymfalchïaf yn fy nghysylltiadau gyda hwy, ac mae’n anrhydedd i wybod bod y gwaed a lifwyd drwy wythiennau rhai o’r glowyr ers talwm, bellach yn llifo drwy fy ngwythiennau i. Oherwydd hyn, mae’n boendod i mi nad yw pobl y cymoedd, yn ogystal â phobl Cymru yn gyffredinol, wedi elwa o’u cyfraniad i’r chwyldro diwydiannol.

Nid wyf yn awgrymu am eiliad yr oedd y chwyldro yn gwbl wael i bobl Cymru. Cydnabyddaf ei bwysigrwydd i Gymru, ac rwy’n hynod falch i alw’r Gymru ôl-ddiwydiannol yn gartref i mi. Er hyn, wrth i mi deithio drwy’r cymoedd ychydig o wythnosau yn ôl, ni welais y buddion economaidd o’r miliynau o dunelli o lo a fwyngloddwyd yno gan ei bobl. Ni welais y cymoedd cyfoethog, llewyrchus a dylai wedi bod. Ni welais sut oedd trigolion y cymoedd yn elwa o lafur eu cyndeidiau. Â phob gonestrwydd, ni welais sut yr oedd pobl Cymru wedi elwa o gwbl o’r chwyldro diwydiannol.

Mae trychineb Aberfan yn sefyll allan fel digwyddiad erchyll, mewn pennod anodd a llafurus o hanes Cymru. Gallaf ond gobeithio, y bydd y bennod nesaf yn hanes y wlad brydferth hon, yn un gwell, yn un tecach, a bydd pobl y Cymoedd, a phobl Cymru yn gyffredinol, ryw ddydd, yn byw yn y llewyrch y maent yn ei haeddu.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php