Taf-Od

Addysg i arwain ni ‘Miliwn o Siaradwyr’

Gan Liam Ketcher

Cyhoeddwyd cynlluniau’r llywodraeth y llynedd sydd yn targedu i godi’r nifer o siaradwyr y Gymraeg i filiwn erbyn 2050. Mae Gweinidog y Gymraeg Alun Davies wedi deud eisoes hoffai weld targedau pum mlynedd yn cael ei sefydlu er mwyn ategu tuag at y broses er mwyn sicrhau bod y llywodraeth yn bwrw’r targed o filiwn. Ond mae yna nifer fawr wedi cwestiynu’r cynlluniau hyn yn ddweud nad oes digon o strwythur i’r cynlluniau, a ffordd o ddistawi’r nifer sydd yn brwydro dros yr iaith ydy’r targed ‘miliwn o siaradwyr’. Yn ôl nifer nid oes ddigon o gefnogaeth a phwyslais ar addysg Gymraeg gan y llywodraeth. Er rydym fel myfyrwyr wedi gweld newidiadau mawr yn y Brifysgol yn ddiweddar gyda lansiad Polisi Iaith y Brifysgol ym mis Tachwedd, a darlith feddygol trwy gyfrwng y Gymraeg gyntaf ar ddechrau mis Ionawr eleni mae’r targed o filiwn o siaradwyr yn bell i ffwrdd. Un o’r prif sectorau mae nifer yn gweld fel canolbwynt i ffrwd yn y niferoedd o siaradwyr Gymraeg ydy addysg cyfrwng Cymraeg.

Yng ngogledd Powys mae yna bryderon ynglŷn ag addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd. Pryder y gantores Siân James, fod yna ddiffyg o ysgolion uwchradd Cymraeg yn yr ardal a bod hyn iddi yn bryder at ddyfodol yr iaith. Mae ysgol uwchradd yr ardal Ysgol Caereinion ond yn cynnig addysg dwy ffrwd. Felly mae yna gal war gyfer addysg gyfrwng Gymraeg yn unig yn yr ardal.

Cytunwyd Dr Gwenllïan Lansdown Davies gyda sylwadau Siân James ar sefyllfa addysg Gymraeg Sir Drefaldwyn “Dwi’n cytuno cant y cant, mae angen i ni gael ysgol benodedig cyfrwng Cymraeg i ateb y galw am addysg Gymraeg yn Sir Drefaldwyn a dweud y gwir mae angen mwy nag un ysgol benodedig Gymraeg ac mae hwnnw’n gyfrifoldeb sy’n perthyn i’r cyngor sir. Mae’n dipyn o gywilydd mewn ffordd mai hon yw’r unig sir yng Nghymru sydd heb ysgol uwchradd benodedig Gymraeg.”

Gwelwyd fod yna dadleuon tebyg yn y Brifddinas. Mae yna wedi bod galw ar gyfer deg ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghaerdydd erbyn 2021. Mae’r Archesgob Barry Morgan wedi galw ar gyfer Gyngor Caerdydd, ar y cyd gyda nifer o enwogion Cymraeg eraill i agor fwy o ysgolion cynradd Gymraeg. Caerdydd sy’n cynnwys dros 10% o boblogaeth Cymru, a dyma ganran sydd dal i gynyddu. Yn ôl Owain Rhys Lewis, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r galwad am ddeg ysgol yn ymddangos yn uchelgeisiol, ond does dim lle yn ysgolion presennol y ddinas, ac mae hanes twf addysg Gymraeg yn y ddinas yn dangos y byddai’r ysgolion yma, o gael eu hagor mewn cymunedau ar draws y ddinas, yn llenwi.”

Felly mae’n amlwg fod addysg yw ganolbwynt i lwyddiant targed o filiwn o siaradwyr, gobeithiaf yn awr byddir y llywodraeth yn ymateb i’r pryderon hyn ac yn gwneud fwy i wella safonau addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y wlad.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php