Tarddiad: Radio Things
Taf-Od

BBC yn hybu agenda wrth-Gymraeg?

Gan Liam Ketcher

Mae’n hen bryd i ddod â’r ddadl yma i ben. Dyma ni unwaith eto yn delio gyda’r un rhagfarnau ag erioed. Radio 4 sydd wedi ennyn yr ymateb yma ar ôl ei rhaglen ‘Any Questions’ lle gofynnwyd i’r panel a fydden nhw’n blaenoriaethu ariannu’r Gymraeg neu wasanaethau gofal. Nid dyma’r tro cyntaf i’r BBC wneud rhywbeth o’r fath, gwnaethant yr un peth ar raglen BBC Radio 2 y llynedd, pan roeddent yn chwilio am bobl i rannu eu barnau am bam ddylai’r llywodraeth gadael i’r iaith Gymraeg i farw.

O blaid ariannu gwasanaethau gofal oedd Nia Griffith sef llefarydd amddiffyn y Blaid Lafur a chyn-ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb. Dywedodd Ms Griffiths “yn sicr” y bydd hi’n dewis gyllideb ar gyfer y gwasanaethau gofal, oherwydd “gofal yw’r brif flaenoriaeth mewn cymdeithas”. Cytunodd Stephen Crabb gyda Nia wrth awgrymu bod arian sy’n cael ei wario ar gynhyrchu deunydd dwyieithog yn cael ei ‘wastraffu’.

Ond wrth gefnogi’r iaith Gymraeg anghytunodd Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth, a Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, gan ddweud ni ddylai fod yn fater o ddewis rhwng un neu’r llall. A gytunaf gyda hyn, tro ar ôl tro yn y ddadl hon y disgwylir dewis rhwng un neu’r llall. Nid dweud ydwyf fod rhaid ariannu’r Gymraeg dros y gwasanaethau gofal, ond mae’n rhaid cael tegwch wrth ymdrin gyda’r pynciau yma yn wleidyddol. Ac nad oes rheswm yn fy marn i, i ddweud pam na allai fod rhaniad teg rhwng y ddau achos, oherwydd yn fy marn i a nifer o’r Cymry Gymraeg mae’r ddau yr un mor bwysig â’r llall.

Yn ystod y ddadl dywedodd Syr Emyr Parry Jones nad oes angen dewis rhwng y naill neu’r llall, a gan gyfeirio yn uniongyrchol at Stephen Crabb, dywedodd Leanne Wood: “Os ydych chi’n caru’r iaith Gymraeg, rhaid i chi weithredu ar eich gair. Pe baech chi’n torri pob ceiniog sy’n cael ei gwario ar y Gymraeg, fyddai’n gwneud dim gwahaniaeth o gwbl i’r gyllideb ofal.” Dyma yn union sydd yn bwysig i’w chofio, gan dorri cyllideb tua’r iaith Gymraeg fyddi’n cael dim gwahaniaeth ar sefyllfa ariannu’r gwasanaethau ofal.

Roedd yna ymateb angerddol i weld ar Trydar, gydag ymatebion yn dod gan @YesCymruLlundian, a ddywedodd “Unwaith eto mae BBC yn hybu agenda wrth Gymraeg.” Felly mae’n amlwg i weld bod nifer o bobl wedi dechrau sylweddoli ar agwedd y BBC tuag at y Gymraeg yn ddiweddar. Ymatebodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd, gan gwestiynu “Beth am: NHS neu’r iaith Saesneg?”. Gellir dadlau mai’r un ddadl sydd i weld y fan hyn.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php