Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Mae campws Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd yn profi gwaith uwchraddio a buddsoddiad sydd wedi’u disgrifio fel y mwyaf ers cenhedlaeth. Mae’r datblygiadau yn golygu buddsoddiad o £600 miliwn i drawsnewid y campws a dyfodol y brifysgol. Caiff £300 miliwn ei gwario i greu Campws Arloesedd a £260 miliwn ar addysgu, dysgu a phrofiad y myfyrwyr. Buddsoddwyd y £40 miliwn arall mewn ‘mentrau i sbarduno twf yn yr economi a’r sector diwydiannol.’
Adeiladu’r ganolfan
Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, sydd gwerth £50 miliwn, yn ganolbwynt i’r datblygiadau arloesol ar gampws y brifysgol. Mae’r adeilad wedi’i leoli yng nghalon y ddinas gyferbyn â phrif adeiladau’r brifysgol ar Park Place. Dechreuodd gwaith ar y ganolfan, sydd wedi’i ddylunio gan y practis pensaernïol Feilden Clegg Bradley Studios, yn gynnar yn 2018 ac mae disgwyl i’r gwaith amgylchfyd cyhoeddus gael ei gwblhau erbyn Ionawr 2022. Adeiladwyd i fod mor gynaliadwy â phosib gyda’r bwriad o gyflenwi ynni effeithlon, lleihau ar y defnydd o’r ynni yma a lleihau ôl troed carbon yr adeilad lle bu modd. Mae’r prosiect, sydd ar y cyd gydag Undeb y Myfyrwyr, yn ffocysu ar wasanaethau i fyfyrwyr ac wedi’i ddisgrifio megis drws blaen i’r Undeb a gweddill campws Cathays.
Y cyfleusterau sydd ar gael
Mae’r ganolfan ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 8:00 ac 20:00 ac yn cynnig lleoliadau astudio cymdeithasol di-ri yn ogystal â mannau astudio tawel ac ystafelloedd ymgynghori. Cewch hefyd o hyd i ddarlithfa gyda lle i 550 o fyfyrwyr yn yr adeilad.
Fe fydd y ganolfan yn gartref newydd i holl adnoddau a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae’r brifysgol wedi ymrwymo i fuddsoddi amser ac arian i wella’r cymorth a chyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr gan gynnwys ffocysu ar iechyd meddwl a lles. Fe fydd y cyfleusterau yma ar gael ar-lein 24 awr y dydd fel rhan o’r trawsnewidiad yma. Yn ôl eu gwefan mae Prifysgol Caerdydd am wella’r cyfleusterau yma er mwyn “sicrhau bod ein myfyrwyr yn teimlo’r gefnogaeth i lwyddo drwy gydol eu taith myfyriwr, o ymgeisydd â diddordeb i gynfyfyriwr balch Prifysgol Caerdydd.” Mi fydd cymorth priodol ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd angen cefnogaeth gydag astudio, cyllid, iechyd a lles, byw yn y ddinas a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Mae’r adeilad arloesol yma yn crisialu ymrwymiad y brifysgol i les ei myfyrwyr a datblygiad addysg, economi a diwylliant y brifddinas.
Add Comment