Tarddiad: ‘Biggs’ drwy Flickr)
Taf-Od

Cloffni Llenyddol Cymru: amddifadu’r Cymoedd?

Gan Morgan Owen

Gall ysgrifennu am Gymru fod yn gyfystyr â chloffni llenyddol. Gall ymddangos weithiau fod popeth a ddwg yr enw ‘llenyddiaeth Gymreig’ yn sefyll rhwng deupen ystrydebau gwirion. Ar y naill ben mae Cymru fynyddig wyllt a’i phobl oriog awenyddol, lle mae’r Sul yn dywyll gan ddu a brown defodol gwisg capel, lle mae corau persain yn melysu bywydau byrion a chaled y lofa: meddylier am Gymru’r telynegion. Ar y pen arall y mae’r llenor sydd yn melltithio’r Gymru ddychmygol hon, y delw-ddrylliwr ffrom, sydd, ysywaeth, yn ddibynnol ar Gymru’r sentimentalwr am ei ddeunydd a’i ergyd: meddylier am R. S. Thomas, er y gallai ef ar droeon fod yn sentimental bost. Efallai nad oes dianc rhag hon, ond mae’n werth ein hatgoffa ein hunain o’r fframwaith sy’n ein cyfyngu. Caethiwed llenyddol ydyw, a chaethiwed i’r gorffennol; ac er nad oes dim newydd yn y llinellau uchod, nid ydys eto wedi archwilio’r Cymoedd a’r ffordd y’u portreadir hwy o safbwynt ystrydebau ein llên. Neu o’r hyn lleiaf: nid ydys wedi tafoli’r Cymoedd fel y maent heddiw yn ôl y raddfa hon, ac os caf fod mor hy, cynigiaf ambell sylwad i’r perwyl hwn.

Darllen am gwymp yr Undeb Sofietaidd a ysgogodd y meddyliau hyn a’r modd y mae pobl y gwledydd a’i ffurfiodd yn ymbalfalu yn rwbel ei chwalfa am eu hunaniaeth. Yn benodol, darllen Second-hand Time gan Svetlana Alexievich, llyfr yr argymhellwn i bawb. Fel ninnau yng Nghymru, fe’u gorfodwyd hwy i weld eu gwlad fel y mae, ac fe ddinoethwyd hi o’i gorffennol cysurus a chelwyddog yn hollol ddidrugaredd. Nid mawredd a fu, ond diymadferthedd pobl a drochwyd drosodd a thro mewn trychineb. Adfeilion oedd plasau’r chwedlau, ac fe guddiwyd eu diffeithwch gan niwl rhamantaidd. Fel ninnau, roeddent yn ddibynnol ar ddiwydiant, a phan aeth hwnnw ar ddisberod ynghyd â’r byd a’r meddwl Sosialaidd (tybiedig) a’i cynhaliodd, daethant wyneb yn wyneb â chyfalafiaeth eithafol a’i chael yn anghyfarwydd ac estron, a chael eu gadael y tu ôl. Nid wyf yn honni o gwbl ein bod wedi dioddef fel y bobl hynny; sarhad iddynt fyddai honni felly, mor foethus oedd ein rhawd ni o gymharu â nhw. Ond, serch hynny, rhannwn un peth, sef ein bod wedi colli’n sydyn ein myth genedlaethol a’i holl ystrydebau canlynol. Rydym ni yng Nghymru yn garcharorion i ryw sentimentaleiddiwch na fynnwn mo’i hepgor, er ein bod yn gweld trwyddo. Rydym yn gwegian ar ymyl dadrithiad, ond nid oes gennym mo’r galon i’w gredu. Dwysawyd hyn yn y Cymoedd trwy golli’r Gymraeg, cyfrwng y dyddiau hynny sy’n dal i’n diffinio.

A dyma ni yn dod at y Cymoedd. Teithio i Gaerdydd o Ferthyr ac yn ôl oeddwn wrth ddarllen am gwymp yr Undeb Sofietaidd, ac ar y ffordd, gwelais elfennau o’r ddwy Gymru ystrydebol, begynol. Gwelais fynyddoedd grugog, coedwigoedd, hynt sarffaidd Afon Taf a defaid. Gwelais hefyd ffatrïoedd gweigion, pensaernïaeth adfeiliog y gweithfeydd, tomenni slag a thai a adawyd am byth. Nid Eden y rhamantydd ydyw, mae hynny’n sicr. Nid yw’r gwyrddni adfywiedig wedi llwyddo hyd yma i guddio’r creithiau diwydiannol. Ond nid yw’n gloddfa ffrwythlon i’r delw-ddrylliwr ychwaith, am fod y gorffennol eisoes yn deilchion. Collwyd gobaith i raddau helaeth, ac mae ymdeimlad o ymostwng i dynged arw yn pwyso’n drwm ar bopeth: nid oes dim ar ôl i’w ddryllio. Ymbellhawyd oddi wrth hanes y lle hwn. Ychydig o bobl yn wir sy’n gwybod rhyw lawer ohono. Neu fe benderfynwyd ei anghofio.

O ran ein llên, felly, gwelwn fod y Cymoedd heddiw yn gorwedd y tu hwnt i’r ddau begwn. Nid oes lle i’r rhan hon o Gymru ar raddfa ein sentimentaleiddiwch a’n hystrydebau, ac o’r herwydd, fe’i hanwybyddir; yn y Gymraeg yn enwedig, chaiff odid ddim sylw. Yr unig dro y clywch am y Cymoedd yn y Gymraeg yw naill ai yn nhermau y gorffennol dychmygol a drafodwyd uchod na fodolodd erioed, neu fel rhyw ffagl gobaith, y lle llwm a thlodaidd sydd rywsut heb droi’n baith digyfraith, a lle mae ambell berson hyd yn oed yn siarad Cymraeg!

Gair ymhellach am hyn. Nid wyf yn ymosod ar y sawl sy’n ceisio diffuant sôn am y Cymoedd mewn termau cadarnhaol. Yn hytrach, dweud yr wyf eu bod yn adweithio i’r rhagdyb eu bod yn llefydd geirwon, tlawd a cholledig, a thrwy ymateb i’r amgyffred hwn o’r lle, yn ei gyfiawnhau. Afraid dweud y bydd ambell un a ysgrifennodd am y Cymoedd i’w hamddiffyn yn brochi wrth ddarllen hwn. I chithau dywedaf: er eich dygn ymdrech, ni adawsoch i’r Cymoedd siarad dros eu hunain; ni wnaethoch eu gwneud yn ganolbwynt eich ymchwilio, ond yn hytrach, eu trafod megis o’r tu allan. Nid aethoch i sefyll ar yr un gwastad â nhw.

Nid yw cylchoedd llenyddol Cymru am glywed am y Cymoedd cyfoes go iawn, Cymoedd y diwreiddio, y tlodi, yr ymgodi a’r llithro yn ôl, y chwerwder a’r gobaith ystyfnig, y gwyrddni a’r diffeithwch, a’r brawdgarwch a’r cydberthyn. Ond, gall y Cymoedd ddwyn anadl einioes i esgyrn sychion ein llên. Ni ellir ysgrifennu’n onest yn y Gymraeg am y Cymoedd fel y maent heb fwrw ymaith ein hualau llenyddol, y ddau begwn hyn a phopeth rhyngddynt. Heb yr ymdrech hon, ni fydd llên Gymraeg ond ymdrybaeddfa rhamantiaeth dwp, breuddwydion liw dydd dosbarth canol ac efelychiadau ymhongar o lên Saesneg. Yng nghyswllt y Cymoedd, nid yw hyn yn golygu gorliwio tlodi na dim a ystyrir yn negyddol; byddai hynny yr un mor gyfyng, ac nid yw’r Cymoedd mor dlawd a garw ag mae nifer yn credu, er maent yn dlotach na’r rhan fwyaf o lefydd yng Nghymru: fe’m maged yma’n hollol ddedwydd a hapus fy myd. Golyga drafod y lle hwn fel y mae, yn Gymraeg.

Nid yw hyn ychwaith yn golygu ildio i realaeth slafaidd, ddiflas. Efallai fy mod yn cynnig rhywbeth nad oes byth fodd ei wireddu, sef ymwrthod â phob moesoli confensiynol yng nghyswllt y Cymoedd. Yn y cyd-destun hwn, felly, rhaid cydnabod hanes a chymeriad y Cymoedd, ond eu tafoli o safbwynt organig y Cymoedd yn unig. Gwreiddyn y drwg yw ein bod yn amlach na heb yn eu gweld fel rhan o bethau eraill, a’u hieuo’n anghymarus. Yr unig ffordd y bydd rhywle a gollodd ei hunaniaeth i raddau helaeth yn ailgodi yw trwy ei sadio. Felly, lenorion â diddordeb yn y Cymoedd, ymwrthodwch â phob disgwrs a gafwyd hyn yma (er para ohonoch yn ymwybodol ohonynt) ac oedwch. Pan adewir i’r Cymoedd siarad, diau y cewch drysorau.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php