Neil Thompson, Literature Wales
Taf-Od

Cyfweliad gyda Huw Stephens

Beth sydd ar y gweill ar gyfer cerddoriaeth Cymru yn 2016?

Er bod Huw Stephens ond yn 34 mlwydd oed, mae un peth yn sicr- mae Stephens wedi gwthio mwy i mewn i’w amser ar ein tonfeddi hyd yn hyn nag y gallai’r rhan fwyaf o DJs eraill ei wneud mewn gyrfa gyfan. Caiff ei adnabod ar draws y DU, a hyd yn oed o gwmpas y byd o ganlyniad i’w sioe nosweithiol, ac ardderchog yn fy marn i ar Radio Un. Ymunodd â’r BBC ym 1999 yn 17 mlwydd oed, yn ei wneud, ar y pryd, y cyflwynydd ieuengaf erioed yn hanes yr orsaf. Enillodd slot cenedlaethol yn ôl yn 2005, pan ddaeth yn eilydd ar gyfer y cyflwynwr anhygoel, John Peel. Fel rhan o strand Cerddoriaeth Radio Un, aeth ymlaen i gyflwyno’r sioe brynhawn ar benwythnosau, a rhaglen gerddoriaeth newydd ar nosweithi Iau. Ar hyn o bryd, cyflwyna o ddeg y nos hyd un y bore o ddydd Llun i ddydd Mercher, a chrea ‘podcast’ arbennig o dda yn wythnosol. Gellir hefyd ei weld ar Lwyfan Cyflwyno Cerddoriaeth Newydd yng Ngŵyl Reading a Leeds, Glastonbury, Y Big Weekend , T yn y Parc i enwi ond rhai o’i gampau. Mae Huw Stephens hefyd wedi cyfrannu at nifer o erthyglau a cholofnau ar gyfer papurau a chylchgronau megis The Western Mail, The Independent, ac NME. Golygodd flog cerddoriaeth y Guardian dros dro hefyd.

O ran teledu, cyflwynodd gyfres o’r enw Bandit ar S4C, a oedd yn arddangos talent newydd cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg. Yn 2007, sefydlodd ŵyl gerddoriaeth newydd, Sŵn, ar gyfer ei dref enedigol a gynhaliwyd ar draws 13 o leoliadau yng Nghaerdydd. Mae’r ŵyl yn dod â rhai o’r bandiau, DJs a pherfformwyr newydd mwyaf cyffrous ledled Cymru at ei gilydd yn flynyddol. Caiff ei ystyried yn un o hyrwyddwyr mwyaf dylanwadol ein talent gerddorol newydd yn y DU. Llynedd, cyflwynodd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru – does dim diwedd i’w lwyddiant!

Yng Ngŵyl Sŵn, cefais y fraint o ddal fyny â Huw Stephens. Ar ôl hunlun cyflym (dwi’n hollol broffesiynol, onest!) cawsom sgwrs ddifyr. Dechreuais drwy ofyn am yr hyn a daniodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth.

“Dwi ‘di hoffi cerddoriaeth ers pan oeddwn i’n fach, a dechreuais wrando ar y mathau o gerddoriaeth roedd fy chwiorydd yn hoff ohonynt. Yna, wrth i mi dyfu’n hŷn, wnes i ddarganfod bandiau yr oeddwn i’n eu hoffi, a dechrau gwrando arnynt ar y radio. Dyma i ddweud y gwir oedd sbardun fy niddordeb cynyddol yn y radio. Blynyddoedd yn ddiweddarach, dechreuais gyflwyno ar y radio ysbyty Rook Wood Sound yn Llandaf yng Nghaerdydd.”

Er ei fod ar hyn o bryd yn rywfaint o ffefryn ar radio cenedlaethol, mae Huw wedi caru a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg erioed. Fe’i magwyd i siarad Cymraeg yn rhugl, ac yn ogystal â’i sioe ar Radio Un, cyflwyna hefyd strand gerddorol ar BBC Radio Cymru C2 bob nos Lun. Arno, o ganlyniad i bobl fel Huw, caiff cerddoriaeth fodern Cymru ei chwarae, ac o ganlyniad, mae’n parhau i dyfu mewn poblogrwydd. Dywed:

“Mae llawer o gerddoriaeth wych yn dod o Gymru ar hyn o bryd. Mae bandiau cyffrous yn dechrau dod i’r brig megis Icious, Estrons, Peasant’s King, We’re No Heroes, cerddoriaeth electronig amrywiol gan bobl fel Ifan Dafydd a Bodhi, yn ogystal â sŵn gwerin ac acwstig. Ar y cyfan, mae tipyn o fandiau da! Mae hi bob amser yn braf cwrdd â bandiau newydd sy’n dechrau eu ‘taith gerddorol’ fel petai. Rwyf wedi cwrdd â llawer o fandiau newydd, sydd yn aml yn gwneud eu cyfweliad cyntaf oherwydd eu bod yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd.

“Mae’n bwysig iawn i’r artistiaid hyn yn cael y cyfle i ddarlledu eu gwaith ar radio cenedlaethol. Mae’r BBC a Radio Un yn hyrwyddo cymaint o gerddoriaeth newydd ag y gallant, a dyna yn fy marn i sy’n cadw’r diddordeb mewn cerddoriaeth newydd. Rhaid i fandiau ifanc gael rhyw fath o lwyfan er mwyn ennill cynulleidfa. Mae’n bleser cael bod yn rhan o hynny.”

Er ei fod yn gweithio gydag ac yn cyfweld â nifer o sêr byd-eang o ddydd i ddydd ar ei sioeau, cyfaddefodd Huw fod adegau pan gaiff ei synnu’n llwyr ganddynt,

“Gwelais Beck (y canwr/cyfansoddwr Americanaidd) unwaith yn un o’r stiwdios, ac o’n i ‘di synnu gan weld e, ond doeddwn i ddim am siarad ag ef – roeddwn yn rhy nerfus! O ran fy hoff westeion a pherfformiadau, wnes i fwynhau cyfweld Ludovico Einaudi yn ddiweddar, y chwaraewr piano Eidaleg. Roedd ei berfformiadau ar gyfer ein ‘Sesiynau Piano’ yn hollol anhygoel. Gilly Gonzales oedd gwestai gwych arall. Rydw i wedi gweld rhai datblygiadau mawr mewn artistiaid ar hyd y blynyddoedd, a chlywed rhai caneuon anhygoel. Os oedd rhaid i mi ddewis fy ffefryn, yn ddiweddar, mae cân o’r enw ‘Pecyn Cymorth Cyntaf’ gan Emmylou (deuawd gwerin o Sweden) yn gân wych!”

Gan droi yn ôl at y Gwobrau Cerddoriaeth Cymraeg, gofynnais i Huw, a wnaeth cyd-sefydlu’r Wobr gyda Phrif Weithredwr y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, John Rostron yn 2011, beth oedd ei deimladau ynghylch llwyddiant y Wobr, ac ymhellach, yr artistiaid sydd wedi ei ennill, a beth yw ei obeithion ar gyfer cerddoriaeth Cymru yn 2016?

“Rydym mor falch bod y wobr yn dal i fynd! Ei phwrpas yw dathlu’r albwm gorau o Gymru dros gyfnod o flwyddyn – mor syml â hynny. Hyd yn hyn, mae Gruff Rhys (cefnder Huw), Dyfodol y Chwith, Georgia Ruth, Joanna Erchyll a Gwenno wedi ei ennill – pump o berfformwyr a bandiau hollol wahanol. Mae’n wych. Gwnaeth enwebeion y llynedd gynnwys perfformwyr megis Catfish And The Bottlemen (y band roc gwych o Landudno), ffigwr hollbwysig mewn cerddoriaeth Gymreig, Geraint Jarman, ac wrth gwrs, yr enillydd terfynol, Gwenno, sy’n hynod dalentog. Dengys yr amrywiaeth anhygoel ac amrywiol sydd gan gerddoriaeth Gymreig i’w gynnig. Mae’r rhestr yn amrywiol iawn, ac mae hynny’n beth da. Nid yw’r un math o gerddoriaeth yn cipio’r Wobr dro ar ôl tro, ac mae’r rhestr yn adlewyrchu hyn. Yn sicr, dengys bod cymaint o dalentau gennym yma yng Nghymru, ac mae hynny’n rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono.

“Yn bersonol, rwy’n edrych ymlaen at weld a chlywed mwy wrth yr Estrons (band roc o Gaerdydd). Hefyd, mae Ifan Dafydd wedi addo albwm newydd- hwre!”

Cyn i Huw gael ei alw i’r llwyfan ar gyfer llun, roedd gennyf amser am un cwestiwn olaf. Gofynnais beth yw ei gyngor i’r rhai sydd am ddilyn gyrfa ym myd radio. Ei ymateb oedd:

“Mwynhewch! Gwrandewch ar DJs eraill, ond ceisiwch ddod o hyd i’ch arddull eich hun. Mae ymarfer wrth gwrs yn beth da! Ewch amdani, a chofiwch fod yn neis i bobl, dyna sy’n hollbwysig.”

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php