Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Taf-od
Hoffwn eich croesawu i Taf-od, adran cyfrwng Cymraeg Gair Rhydd lle bydda i- Nansi Eccott, Gracie Richards, Steffan Leonard a’n pennaeth Nel Richards yn rhannu’r newyddion diweddaraf o Gaerdydd, Cymru a thu hwnt. Cewch gyfleoedd i gyfrannu hefyd drwy leisio eich barn yn ein hadran ‘Barn y Bobl’ neu drafod pwnc o’ch dewis yn ‘Pryd o Daf-od.’ Cadwch olwg ar grwpiau Facebook Cyfranwyr CMCC a Gair Rhydd Contributors (2021/2022) am wybodaeth wythnosol i chi fedru cymryd rhan. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y papur a’r brifysgol.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC)
Mae eleni’n flwyddyn gyffrous wrth i’r brifysgol ail-gydio yn UMCC. Annell Dyfri fydd yn llywyddu’r undeb drwy sicrhau cysylltiad cryf rhwng Undeb y myfyrwyr, y myfyrwyr a chymdeithasau Cymraeg y brifysgol. Yn ôl gwefan yr Undeb, eu nod yw “sicrhau fod y Gymraeg a’i siaradwyr yn cael chwarae teg o fewn Undeb y Myfyrwyr a’r brifysgol” drwy gynnig “ystod eang o ddigwyddiadau a gwasanaethau Cymraeg” i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg Caerdydd.
Y Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym)
Y Gym Gym yw canolbwynt bywydau cymdeithasol Cymry’r brifddinas. Cewch amryfal gyfleoedd i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg boed ar ‘crôls’ o amgylch tafarndai Caerdydd, teithiau blynyddol i Ddulyn neu Caeredin, neu, drwy gystadlu mewn Eisteddfodau Rhyng-golegol yn erbyn prifysgolion eraill y wlad. Yn ogystal â’r ochr gymdeithasol, mae’r gymdeithas hefyd yn flaenllaw yn y maes chwaraeon. Mae’r timau pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd yn edrych ymlaen at groesawu aelodau newydd ac yn gobeithio am flwyddyn arall o fuddugoliaethau.
Clwb y Mynydd Bychan
Os ydych chi’n dilyn cwrs gradd yn y maes meddygaeth a gofal iechyd, yna Clwb y Mynydd Bychan yw’r gymdeithas i chi. Mae’r gymdeithas yn trefnu nosweithiau cymdeithasol yn ogystal â sesiynau adolygu i’w haelodau. Lowri James yw’r Llywydd am y flwyddyn academaidd yma a’i bwriad yw hybu’r Gymraeg a Chymreictod o fewn gofal iechyd.
Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (CMCC)
Mae cyfryngau cyfrwng Cymraeg y brifysgol wedi ffynnu dros y blynyddoedd diwethaf a nod y pennaeth eleni, Anni Davies, yw sicrhau eu bod yn parhau i fynd o nerth i nerth. Cewch gyfle i gynhyrchu a chyflwyno rhaglenni ar donfeddi Xpress Radio, gorsaf radio’r brifysgol, sy’n gartref i nifer fawr o sioeau a phodlediadau poblogaidd cyfrwng Cymraeg. Os mai cyflwyno sy’n cymryd eich pryd, yna mae cyfleoedd hefyd ar gael i gyfrannu a chyflwyno cynnwys ar gyfer CUTV, sianel deledu’r brifysgol. Cyfleoedd di-ri!
Aelwyd y Waun Ddyfal
Wrth ymuno ag Aelwyd y Waun Ddyfal, cewch gyfle i fod yn rhan o gôr llwyddiannus y brifysgol. Mae’r côr yn cystadlu’n Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol yn ogystal â chynnal perfformiadau yn y brifddinas megis cyngherddau Nadolig. Elin Griffiths ydy’r cadeirydd dros y flwyddyn nesaf- gobeithio daw cyfle i bawb ganu gyda’i gilydd eto yn fuan.
Heb os, diddiwedd yw’r posibiliadau i gymdeithasu, ymestyn ar brofiadau a sgiliau, neu geisio rhywbeth newydd yma yng Nghaerdydd. Cyfrannwch, joiwch a chymerwch bob cyfle posib!
Add Comment