Taf-Od

Cymru yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn

gwyn
Y Rhuban Gwynvia Source: Smuconlaw (via Wikimedia Commons)
Ar y 25ain o Dachwedd nodwyd Dydd y Rhuban Gwyn sef Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. Caiff y diwrnod hwn ei gynnal yn flynyddol gan y Cenhedloedd Unedig a mae’n dechrau cyfnod 16 diwrnod o hyd o weithredu i ddiddymu trais yn erbyn menywod.

Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae 1 o bob 3 merch yn profi trais a cham-drin gan gynnwys cam-drin domestig, treisio a thrais rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, cam-fanteisio rhywiol, aflonyddu, stelcio, a thrais yn seiliedig ar ‘anrhydedd.’

Mae elusen Rhuban Gwyn y DU yn annog dynion i wneud “addewid y Rhuban Gwyn” sef i beidio â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. Cynhaliwyd gwylnos ‘Nid yn fy enw i” ar risiau’r Senedd ar nos Lun yr 22ain o Dachwedd gan Senedd Cymru er mwyn nodi pwysigrwydd y diwrnod. Mae’n gyfnod i ni allu addysgu ein gilydd a chodi ymwybyddiaeth ar y materion sy’n effeithio ar nifer fawr o fenywod ledled y wlad yn ddyddiol; yn ogystal â chynnig cymorth a chefnogaeth i oroeswyr camdriniaeth a thrais.

Y Llywodraeth yn gweithredu

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n gwerthuso’i gwaith wrth geisio atal trais yn erbyn menywod, gan gynnwys trais domestig a thrais rhywiol. Er mwyn cynyddu ar a gwella’r gwaith hanfodol yma, fe fydd y Llywodraeth hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o’r 7fed o Ragfyr. Canolbwyntia’r ymgynghoriad ar y modd y gall Cymru gryfhau ei gweithredoedd i derfynu trais yn erbyn menywod, Cam-drin a Thrais Domestig yn enwedig dros y pum mlynedd nesaf. Fe fydd ffocws y strategaeth ar drais yn erbyn menywod a merched ar strydoedd Cymru, mewn gweithleoedd ac yn y cartref. 

Mewn datganiad fideo ar Twitter, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mai “problem gymdeithasol sy’n gofyn am ateb cymdeithasol” yw trais yn erbyn menywod a merched y wlad.  

“Rydyn ni’n cryfhau ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol er mwyn gwneud mwy i fynd i’r afael â thrais gan ddynion a’r cynnydd parhaus mewn aflonyddu ar fenywod a merched yn eu cartrefi ac ein strydoedd” meddai Drakeford. 

“Rwyf yn annog pob dyn i wrando ar fenywod a dysgu eu cefnogi, fel y gallwn roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, byth ei esgusodi, nac aros yn dawel amdano.”

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Cymru, Jane Hutt wrth y BBC bod “trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer.”

“Mae angen gweithredu ar y ddwy ochr er mwyn mynd i’r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod; rhaid i ni gefnogi goroeswyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad” ategodd y Gweinidog. 

Nansi Eccott Taf-od 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php