Taf-Od

“Cynllunio iethyddol ar gefn pecyn sigaréts?”

Gan Osian Morgan

Ar y 1af o Awst eleni, cyhoeddwyd dogfen ymgynghori gan Alun Davies, y Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes, ar ei strategaeth ddrafft i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Chwarae teg iddo, meddyliais, a chwarae teg i’r llywodraeth hefyd. Am unwaith, ymddengys fel petai’r llywodraeth am fynd ati o ddifri i gryfhau sefyllfa’r iaith, a chynyddu nifer y siaradwyr gan anelu i greu miliwn o Gymry Cymraeg. Er nad oedd y strategaeth mor gynhwysfawr a manwl a fyddai’n ddisgwyliedig i ddogfen sy’n anelu at ddyblu, bron, y nifer o siaradwyr Cymraeg fod, des i’r casgliad bod yr egwyddor, a’r weledigaeth, y tu ôl i’r strategaeth, yn un da, a dylem gymeradwyo’r llywodraeth am eu gweledigaethau a’u hamcanion.

Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf, darllenais golofn Huw Onllwyn Jones, ar wefan Pobl Caerdydd, ynglŷn â’r strategaeth, a ddisgrifiwyd hi fel “Cynllunio ieithyddol ar gefn pecyn sigaréts”. Yn yr erthygl, ymateba ‘Huw O’ i’r strategaeth, gan amlinellu ei bryderon amdani, a chynnig ambell gwestiwn (neu 25 ohonynt, i fod yn union gywir), y byddai’n gofyn i Alun Davies. Mae hi’n erthygl hynod ddiddorol, doniol a choeglyd, ac os nad ydych wedi cael cyfle i’w darllen hi, awgrymaf yn gryf eich bod yn gwneud (Ar ôl gorffen gorffen darllen y Taf-od, wrth gwrs!)

Perodd yr erthygl hon i mi ystyried cynlluniau’r llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yn fanylach, gan beri i mi gwestiynu os mai ymgais o ddifrif gan y llywodraeth i gynyddu’r nifer o siaradwyr yw’r strategaeth hon, neu os mai ymgais i gadw Cymdeithas yr Iaith, a’r ‘radicaliaid’ Cymraeg yn dawel am gwpl o flynyddoedd ydyw?

Bydda lawer yn dadlau nad yw’r llywodraeth wedi cefnogi’r Gymraeg yn ddigonol dros y degawdau diwethaf, gan olygu bod y Cymry Cymraeg, a mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith, wedi gorfod ymgyrchu’n ddiflino, ac weithiau’n dreisgar, dros y Gymraeg. Oherwydd hyn, felly, pan ddechreuais ddarllen colofn Huw O, roeddwn ychydig yn betrusgar ei fod mor feirniadol o gynlluniau’r llywodraeth, yn hytrach na chroesawu gweledigaeth y llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Fodd bynnag, wrth i mi ddarllen ymhellach, sylweddolais nad oedd Huw O yn rhy afresymol ei feirniadaeth, oherwydd amlinella llawer o wendidau yn y strategaeth. Un o’r gwendidau hyn oedd yr amwyster ynghylch y term ‘siaradwr Cymraeg’. Yn ei golofn, hola Huw O “pa fath o siaradwr Cymraeg mae Alun am eu cynnwys yn ei darged o 1 miliwn o siaradwyr?” Â Huw yn ei flaen i ddatgan y creda y “dylai anelu at greu miliwn o siaradwyr sydd oll yn rhugl – ac yn defnyddio’r iaith adref ac efo’u ffrindiau”.

Coda Huw O bwynt diddorol a phwysig yn fan hyn. Sut yn union y ddiffinnir ‘siaradwr Cymraeg’? Ai rhywun sydd yn rhugl yn y Gymraeg ac yn ei ddefnyddio yn ddyddiol? Neu rhywun “sy’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, ond ddim yn ddigon rhugl i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas call”? Mae hynny’n ddadl ar gyfer erthygl arall, ond y pwynt y mae Huw O yn ei wneud yn fan hyn, yw nad yw’n ddigonol i greu miliwn o bobl sy’n gallu siarad rywfaint o Gymraeg os nad ydynt yn ei ddefnyddio bob dydd.

A fyddai’n ddigonol, pe darganfyddwn ein hunain, yn y flwyddyn 2050, mewn Cymru lle mae miliwn o bobl yn gallu siarad rywfaint o Gymraeg, ond nad ydynt yn ei siarad yn naturiol o ddydd i ddydd? Fyddai hyn yn gryfhad wirioneddol o’r sefyllfa bresennol – yn ateb i ‘weledigaeth’ y llywodraeth – neu ai ystadegyn fyddai, er mwyn profi fod y strategaeth y llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus?

Dyma’r amwyster, felly, ynglŷn â strategaeth Alun Davies – ai creu miliwn o siaradwyr gwbl rugl sy’n ei ddefnyddio yn naturiol o ddydd i ddydd gyda’u teulu a’u ffrindiau yw ei weledigaeth? Neu creu miliwn o siaradwyr sy’n ddigon galluog eu Cymraeg i dicio blwch yn y cyfrifiad yn dweud eu bod yn ei siarad, ac sydd yna’n anghofio am y Gymraeg tan ddaw’r cyfrifiad nesaf drwy eu blychau post?

Mae’r ddau fath hyn o siaradwr yn dra gwahanol. O’r 562,000 person a ddywedodd eu bod yn siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad 2011, 318,800 sy’n ystyried eu hunain yn rhugl, ac 87,000 sy’n defnyddio’r Gymraeg gyda’u ffrindiau, yn ôl Huw O. Byddwn wrth fy modd pe taswn yn deffro ar y 1af o Ionawr, 2050, mewn Cymru gyda miliwn, neu hyd yn oed mwy na miliwn, o siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, hoffwn ddychmygu mai Cymru gyda miliwn o siaradwyr sydd yn hyderus i’w ddefnyddio o ddydd i ddydd y bydd, nid Cymru gyda miliwn o bobl sy’n ticio’r blwch Cymraeg mewn cyfrifiad.

Nid dyna’r unig amwyster ynglŷn â’r strategaeth. Fel y cwestiyna Huw O – pam Miliwn? A pham y flwyddyn 2050? Byddair llygaid craff yn eich plith yn sylweddoli nad yw teitl strategaeth y Llywodraeth, ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’, yn rhy annhebyg i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith, ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’, lle amlinellent eu gweledigaeth o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2051. Awgryma Huw O fod Cymdeithas yr Iaith bellach yn ‘llywio polisi’r llywodraeth’, cysyniad sy’n eironig ac estron iawn i unrhyw un sy’n ymwybodol o hanes y berthynas ‘diddorol’, dywedwn ni, rhwng y gymdeithas a’r llywodraeth.

Pam, felly, yw’r llywodraeth wedi creu strategaeth sydd mor debyg i un o ymgyrchoedd Cymdeithas yr iaith. Byddai rhai yn dadlau, mai ymgais gan y llywodraeth i dawelu Cymdeithas yr iaith a fodola fan hyn, gan ei fod anoddach i’r Gymdeithas feirniadu a phrotestio yn erbyn llywodraeth sydd wedi ‘ymrwymo’ i ddyblu, bron, y nifer o siaradwyr Cymraeg. A sut all y gymdeithas feirniadu strategaeth sydd mor debyg i’w strategaeth hwy?

Fodd bynnag, siawns fydd y llywodraeth yn parhau i fod yn atebol i’r gymdeithas, a siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol, ac os na lwydda’r strategaeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, byddai’r llywodraeth wedyn mewn sefyllfa wael a bregus iawn?

Wel dyna’r broblem gyda strategaeth tymor hir, fel y dywed Huw O, fydd Alun Davies yn 86 mlwydd oed erbyn 2050, ac mae’n dra thebygol na fydd un o’r Aelodau Cynulliad presennol yn parhau i eistedd yn y siambr (Wel, efallai fydd Dafydd Ellis-Thomas dal yno – ond mae hynny hefyd yn fater i erthygl arall!). Pwy a ŵyr, efallai nid Llafur fydd yn rheoli’r Cynulliad, ac efallai bydd gwedd a strwythur y Cynulliad yn gwbl wahanol?

Sut felly, gall pa lywodraeth bynnag fydd yn rheoli, yn y flwyddyn 2050, fod yn atebol i strategaeth a luniwyd 34 mlynedd yng nghynt? Hyd y gwelwn i, pe na tasai’r strategaeth yma’n llwyddiant, byddai sefyllfa Cymdeithas yr Iaith yn un gwan yn 2050, gan fyddai unrhyw unigolyn a all fod yn atebol dros y strwythur hwn yn ei 80au neu 90au. Yn amlwg, fydd modd mesur y strategaeth fel yr â hi yn ei blaen, ac os na welwn unrhyw gynnydd yn nifer y siaradwyr mewn rhyw ddeg mlynedd, dywedwch, gallwn dybio na fydd y strategaeth yn llwyddiant, a chaiff y llywodraeth fod yn atebol i hynny. Fodd bynnag, credaf wrth lunio strategaeth tymor hir, yr hyn y mae Alun a’i gyd-lafurwyr wedi ei wneud, yw osgoi atebolrwydd.

Ddim bwriad yr erthygl hon oedd beirniadu’r llywodraeth am gynllunio i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Yn wir, rwy’n gefnogol o’u bwriad, ac rwyf yn wir gobeithio mai gweledigaeth wirioneddol yw hon, a’u bod am fynd ati o ddifrif i’w gwireddu. Fodd bynnag, ni allaf osgoi’r teimlad nad yw hynny’n wir.

Ar ôl darllen colofn Huw Onllwyn Jones, ni allaf osgoi’r teimlad mai ymgais gan y llywodraeth i dawelu’r Cymry Cymraeg ‘ymgyrchgar’, ac osgoi atebolrwydd dros y Gymraeg, yw’r strategaeth hon. Gobeithiaf fy mod yn gwbl anghywir, a gobeithiaf y deffroa Alun Davies, ar ei ben-blwydd yn 86 mlwydd oed, mewn Cymru sydd â miliwn, neu fwy, o siaradwyr Cymraeg sydd yn ei defnyddio’n naturiol bob dydd.

Felly beth yw’r strategaeth? Gweledigaeth wirioneddol, neu “cynllunio ieithyddol ar gefn pecyn sigaréts”? Wel, bydd rhaid i ni aros tan y flwyddyn 2050 mae’n debyg, a byddai’n 53 erbyn hynny, felly siawns na fyddaf yn olygydd ar y Taf-od! Yn y cyfamser, un ffordd neu’r llall, mai’n gwbl bosibl mai’r 34 mlynedd nesaf bydd y cyfnod pwysicaf yn hanes yr iaith..

Tags

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php