Taf-Od

Dadorchuddio cerflun Betty Campbell

Cerflun benywaidd cyntaf Cymru: Betty Cambell, Y pennaeth ddu cyntaf yng Nghymru. Tarddiad: Jack Robert Stacey
Mae Cymru newydd anrhydeddu Betty Campbell, pennaeth ysgol ddu cyntaf Cymru.

Gan Nel Richards I Pennaeth Taf-od

Cafwyd arolwg o gerfluniau ledled y DU ei chynnal yn 2018, a darganfuwyd mai dim ond un o bob pum cerflun ym Mhrydain oedd o ferched, gyda’r mwyafrif ohonynt yn gymeriadau ffuglennol neu ffigurau dienw. Llynedd, mewn archwiliad a gomisiynwyd yn sgil protestiadau Black Lives Matter, daeth i’r amlwg nad oedd cerfluniau o unrhyw unigolion o dreftadaeth ddu mewn mannau cyhoeddus awyr agored yng Nghymru, gyda dim ond “grŵp o gerfluniau anhysbys ym Mae Caerdydd”.

Dadorchuddiwyd cerflun Rachel Elizabeth Campbell – o’r enw Betty – yn y Sgwâr Canolog, yng nghanol Caerdydd ddydd Mercher 29ain o Fedi.

Roedd hwn fod i ddigwydd yn 2020, ond cafodd ei ohirio oherwydd y pandemig. Pleidleisiodd miloedd dros gerflun o Ms. Campbell oddi wrth restr fer o bum menyw o Gymru. Fe’u rhestrwyd ar ôl i banel o arbenigwyr wneud rhestr o 50 o ferched hanesyddol Cymru, ar ôl darganfod nad oedd cerfluniau’n dathlu arwresau yng Nghymru.

Dywedodd Helen Molyneux, sylfaenydd Monumental Welsh Women, ei bod yn gobeithio y byddai’r cerflun yn “ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched yng Nghymru”.

“Bydd y cerflun a grëwyd gan Eve Shepherd yn sicr o gyflawni hynny. Mae’n ddarn wirioneddol eiconig, hardd a fydd yn denu sylw’r byd i Gaerdydd.”

Betty Campbell oedd y ddynes ddu gyntaf i ddod yn bennaeth ar ysgol yng Nghymru. O dan ei harweiniad, daeth ysgol gynradd Mount Stuart yn Butetown, Caerdydd, yn fodel ar gyfer arfer cydraddoldeb ac addysg amlddiwylliannol ledled y wlad.

Yn ogystal, roedd y dadorchuddio hefyd yn bwysig gan mai dyma’r cerflun gyntaf o ddynes mewn man cyhoeddus awyr agored yng Nghymru. Dywedodd merch Campbell, Elaine Clarke, y byddai ei mam, a fu farw yn 2017 yn 82 oed, wedi bod yn falch o’r cerflun. Roedd hi’n cofio rhywun yn dweud wrthi fel plentyn yn tyfu i fyny yn ardal Tiger Bay yng Nghaerdydd, y na allai dynes dosbarth gweithiol ddu fyth gyrraedd yr uchelfannau academaidd yr oedd hi’n dyheu amdani – ond roedd hi wedi eu profi’n anghywir.

“Mae’r cerflun hwn yn crynhoi etifeddiaeth Betty o benderfyniad, dyhead ac ysbrydoliaeth” meddai.

Dywedodd ei hwyres Rachel Clarke, wrth y Guardian, fod Campbell wedi “ysgwyd cymdeithas”, gan ychwanegu: “Roedd hi o flaen ei hamser.” Dywedodd fod Campbell wedi gwylio Mount Stuart yn cael ei hadeiladu o’r cychwyn cyntaf a’i bod yn sicr mai hi oedd y person i’w harwain.

Yn ystod ei chyfnod ym Mount Stuart, cafodd Campbell ei hysbrydoli gan fudiad hawliau sifil yr Unol Daleithiau a dysgodd ei disgyblion am gaethwasiaeth a hanes pobl ddu. Yn ddiweddarach, daeth yn aelod o bwyllgor cynghori hiliol y Swyddfa Gartref, gweithiodd i’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a chynorthwyodd i sefydlu Mis Hanes Pobl Ddu – y mis hwn.

Comisiynwyd y cerflun yn dilyn ymgyrch “Hidden Heroines” a drefnwyd gan Monumental Welsh Women, a ddarlledwyd ar BBC Cymru. Llwyddodd Campbell i ennill pleidlais gyhoeddus i benderfynu pwy ddylai fod yn destun y cerflun cyntaf o fenyw.

Roedd hi wedi creu hanes. Ac yn awr roedd hi eisiau i’w disgyblion wybod eu hanes.

Wedi’i hysbrydoli gan daith i America, lle dysgodd stori’r cyn-gaethwas a diddymwr Harriet Tubman ac actifyddion hawliau sifil eraill, rhoddodd Betty ddiwylliant du ar ei chwricwlwm yng Nghaerdydd.

Mewn araith a wnaeth yn ddiweddarach yn y Cynulliad Cenedlaethol, eglurodd:

 “Roeddwn yn benderfynol fy mod yn mynd i ddod yn un o’r bobl hynny oedd am wella  ysbryd a diwylliant pobol ddu i hyd eithaf fy ngallu.”

Fel yr esboniodd unwaith: “Edrychais ar hanes pobl ddu, y Caribî, Affrica a chaethwasiaeth a’r effeithiau. Roedd yna bobl a ddywedodd: ‘Ni ddylech fod yn dysgu hynny.’ Pam lai? Roedd y pethau yma wedi digwydd. Dylai plant gael eu gwneud yn ymwybodol. ”

Ymledodd enwogrwydd Betty y tu hwnt i Gymru wrth i’w hysgol ddod yn dempled ar gyfer addysg amlddiwylliannol. Tyfodd ei dylanwad ar fywyd cyhoeddus pan ddaeth yn aelod o bwyllgor cynghori hiliol y Swyddfa Gartref ac yn aelod o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.

Profodd hefyd yn eiriolwr angerddol dros bobl Butetown fel cynghorydd, wrth i’r gymuned wynebu newid sylweddol trwy ddatblygiad Bae Caerdydd.

Parhaodd yn ymrwymedig i dreftadaeth Butetown a phwysigrwydd ei amlddiwylliannedd trwy gydol ei hoes: “Yn ein ffordd unigryw ein hunain roeddem yn sefydlu ardal lle nad oedd crefydd na’ lliw o bwys – roeddem i gyd yn parchu ein gilydd fel pobl.”

Ni frwydrodd neb yn galetach i ddathlu amrywiaeth Cymru na’ Betty Campbell.

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php