Gan Gracie Richards | Golygydd Taf-od
Mae’r DU yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu o’r 1af i’r 31ain o Hydref. Beth mae Cymru yn gwneud i ymuno yn y dathliadau bwysig?
Mae’n fis i ddathlu Hanes a Threftadaeth Affrica trwy ddigwyddiadau fel darlithoedd, cynadleddau, cyngherddau a rhaglenni arbenigol mewn amryw o ganolfannau cymunedol, Ysgolion ac Amgueddfeydd.
Mae’r Mis yn bwysig i bwysleisio unigolion a chymunedau Affricanaidd a Charabiaidd y Deyrnas Unedig (DU) sydd wedi bod yn sylfaenol i ddiwylliant Prydain am ddegawdau.
Mae ei bwysigrwydd fel dathliad mis o hyd hefyd yn tynnu sylw at symudiadau fel ‘Black Lives Matter,‘ mudiad a sefydlwyd i ddileu goruchafiaeth wen yn dilyn rhyddfarn llofrudd Trayvon Martin. Mae’r symudiad yn dod a phobl o bob cefndir at ei gilydd i adeiladu pŵer yn erbyn trais hiliol.
Maent hefyd yn dod a sylw tuag at y Genhedlaeth Windrush, Unigolion o wledydd Carabiaidd a theithiodd i’r Deirnas Unedig rhwng 1948-1971.
Yng Nghymru:
Ar draws Cymru mae yna amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n dathlu Mis Hanes Pobl Dduon. Mi fydd rhain yn para tu hwnt i ddiwedd y mis. Am fwy o wybodaeth cer i wefan ‘Mis Hanes Pobl Dduon.’
Betty Campbell
Mae cofeb o Betty Campbell, y pennaeth du cyntaf yng Nghymru wedi’i godi yng Nghaerdydd.
Hon yw’r gofeb gyntaf, ffeithiol o Gymraes i’w gael ei godi i gymharu gyda’r nifer gwrywaidd a welir ardraws y ddinas. Wneir hyn yn bosib gan ymdrechion y grŵp menywod Cymraeg ag ymgyrchwyd dros gael heneb fenywaidd.
Mae’r gofeb yn atgoffeb parhaol o’i waith i wella bywydau nifer o bobl a hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru.
Pwy yw Betty Campbell?
“An inspiration to other black and ethnic minority people.” – Carwyn Jones
Anwyd yn 1934, cafodd ei fagu mewn tlodii ym Mae Teigr, Caerdydd.
Wynebwyd Campbell gwahaniaethau ar sail hil yn ifanc iawn. Dywedir ei hathro iddi hi ni fyddir yn cyflawni ei dyheadau fel merch ifanc du.
Erbyn hyn cydnbwyd ei waith yn fyd-eang gyda hi’n cwrdd a Nelson Mandela yn 1998 ar ei unig taith i Gymru. Derbynodd MBE am ei wasanaethau i addysg a bywyd cymundeol yn 2003.
Bu farw yn 2017 yn 82 mlwydd oed.
Amgueddfeydd Cymru
Yn ystod y mis mae Arddangosfa Windrush Cymru yn teithio o gwmpas Amgueddfeydd Cymru. Dengys yr arddangosfa hanesion y genhedlaeth Windrusha’r farc maent wedi gwneud ar Gymru trwy eu swyddi a’u gyrfaoedd, trwy fagu plant, a thrwy gyfrannu at ein cymunedau a’n diwylliant.
Maent yn cynnwys streuon o dros 40 genhedlaeth yn geiriau eu hunain.
Bydd yr arddangosfa yn teithio i’r lleoliadau yma:
- Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – 2 Hydref i 31 Hydref 2021
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – 4 Tachwedd 2021 i 2 Ionawr 2022
- Amgueddfa Lechi Cymru – 8 Ionawr i 23 Ionawr 2022
- Amgueddfa Wlan Cymru – 28 Ionawr i 14 Chwefror 2022
- Big Pit Amgueddfa Loafol Cymru – 19 Chwefror i 6 Mawrth 2022
Add Comment