Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Beth yw’r diwrnod a phwy sy’n ei ddathlu?
Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn annog pobl Cymru (a thu hwnt) i geisio ymdrechi i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd – boed yn y gweithle, yn y byd lletygarwch, addysg neu’n gymdeithasol. Bydd eleni’n nodi’r 9fed dathliad yn olynol, gyda’r diwrnod yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yn 2013.
Dyma ddiwrnod i bawb dathlu, sgwrsio a rhannu’r iaith Gymraeg. Gwelwyd dathliadau’r gorffennol yn cael eu cynnal dros hyd a lled Cymru yn ogystal â Lloegr a’r Ariannin. Pwysig yw nodi amcan sylfaenol y diwrnod sef atgyfnerthu’r syniad bod y Gymraeg yn perthyn i bawb- siaradwyr rhugl, a dysgwyr o bob gallu. Rhaid cael yr awydd i ddysgu a cheisio rhywbeth newydd gyda’r bwriad yn eu tro bydd hyder unigolion a’r defnydd eang o’r Gymraeg ar gynnydd. Y gobaith yw gallu dechrau pob sgwrs yn y Gymraeg bob dydd.
Y trefnwyr
Cydlynwyr y diwrnod yw Dathlu’r Gymraeg – grŵp ymbarél o 26 o fudiadau a chymdeithasau Cymraeg sy’n cydweithio i hyrwyddo gweithgareddau a dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae yn flynyddol. Mae’r rhwydwaith yn gweithio i ddathlu Cymreictod a sicrhau ffyniant yr iaith am flynyddoedd i ddod. Rhai o’r mudiadau sydd yn hybu’r dathliadau ledled y wlad unwaith eto eleni yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru. Yn ôl eu gwefan, mae Mudiad Dathlu’r Gymraeg yn galw am
“Sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau; Diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol a neilltuo adnoddau ychwanegol i sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg.”
Cymryd rhan
Defnyddio’r Gymraeg sy’n hanfodol, gyda’r gobaith o annog a chodi hyder eraill i ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd. Mae llu o adnoddau ar wefan Diwrnod Shwmae Su’mae i ddysgwyr, rhai sydd am wella geirfa Cymraeg neu’r rheiny sydd am gynnal gweithgareddau neu ddigwyddiadau eu hunain. Fe fydd syniadau pellach ar sut i gymryd rhan ar dudalennau Facebook a Twitter @ShwmaeSumae a sicrhewch i ddefnyddio #SHWMAESUMAE21 i ailgysylltu gyda’r Gymraeg.
Disgrifia Anni Davies, pennaeth Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, Diwrnod Shwmae Su’mae fel “cyfle i ni ddod at ein gilydd fel siaradwyr Cymraeg a hefyd i annog dysgwyr newydd. Mae’n dangos bod yr iaith yn perthyn i ni gyd, dysgwyr, siaradwyr rhugl neu rheini sydd angen bach mwy o hyder. Mae’n ymarfer da i bobl sy’n dysgu’r iaith ond yn bwysicach yn gyfle i ni fwynhau ei ddefnyddio gyda’n gilydd.” Cadwch lygad ar Gyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd a sianel deledu y brifysgol – CUTV am gynnwys i ddathlu’r diwrnod.
Yr her i ni felly yw dechrau pob sgwrs gyda shwmae neu su’mae a hybu ein defnydd ni ac eraill o’r iaith Gymraeg. Ewch amdani!
Add Comment