Tarddiad: Osian Morgan
Taf-Od

Dau enaid ond un iaith

Gan Osian Morgan

Mae gennym ni yng Nghymru ddelfryd am ryw ‘Gymru fach’ yn yr Ariannin. Delfryd o ryw ddarn bach o Gymru yn Ne America, lle Cymraeg yw iaith naturiol y gymdeithas, mae pawb yn ystyried eu hunain yn Gymry, a phawb yn darllen Dafydd ap Gwilym yn y gwely bob nos. Mae’r enw ‘Y Wladfa’ (the colony), hyd yn oed, yn awgrymu ei fod yn ryw fath o estyniad i’n Cymru fach ni. Yn sicr, dyma’r ddelfryd yr oedd gennyf i cyn imi fynd draw yno, ond mewn gwirionedd, nid ‘Cymru fach’ yw’r Wladfa, ac nid Cymry mo’r bobl. Er bod Cymru a Phatagonia yn rhannu iaith, mae’r ddau yn llefydd gwbl wahanol, gyda chymdeithasau, diwylliannau ac eneidiau gwbl wahanol.

Fel y bysech yn disgwyl, mae’r Ariannin yn wlad wahanol iawn i Gymru, ac mae’r gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol yn enfawr. Mae popeth – y bwyd, y gerddoriaeth, y bobl, y ddiod, yr ysgolion, yr arferion – yn wahanol iawn i beth yr ydym ni yng Nghymru wedi arfer â. Ac er bod yr iaith yn ryw fath o dir cyffredin rhyngom – yn ryw gadwyn dros yr Iwerydd sy’n cynnal y berthynas rhyngom – mewn gwirionedd, nid yw’r ddigon i drechu’r gwahaniaethau rhwng dau ddiwylliant gwbl wahanol. O ganlyniad, nid yw’n cymryd llawer o amser ar ôl cyrraedd yno i sylweddoli, er gwaetha’r iaith, nad ydych yng Nghymru, ond y n hytrach, mewn gwlad gwbl ddiarth a gwahanol 7,000 o filltiroedd i ffwrdd o adref.

Mae’r gwahaniaethau rhwng y ddau le yn amrywio o wahaniaethau enfawr fel eu cenedligrwydd, i rai bychain fel gwahaniaethau ieithyddol bychain. Yn wir, er bod iaith gyffredin rhyngom ni a Phatagonia, nid yw’r iaith yn union debyg chwaith. Nid yw’n syndod fod yr iaith ychydig yn wahanol ym Mhatagonia, wrth ystyried y gwahaniaethau tafodieithol enfawr sydd i’w cael rhwng Caerfyrddin a Chaernarfon hyd yn oed. O ganlyniad i’r ffaith fod rhan helaeth o siaradwyr Cymraeg y Wladfa wedi dysgu’r Gymraeg yng Nghymru, neu gan athrawon o Gymru, mae’r dafodiaith ‘frodorol’ yno wedi dirywio a gwanhau dros y degawdau diwethaf. Fodd bynnag, mae dylanwad y Sbaeneg ar yr acen yno yn gymharol amlwg, ac er ei fod yn ddigon hawdd i’w dallt yn siarad, mae’r acen yn ddigon gwahanol i sylweddoli nad â Chymro neu Gymraes yr ydych yn siarad â.

Fodd bynnag, y prif wahaniaeth rhwng y Gymraeg yng Nghymru a’r Gymraeg ym Mhatagonia, yw diffyg dylanwad y Saesneg ar yr iaith yno. Mae’n siŵr eich bod chi, fel fi, yn pentyrru geiriau ac ymadroddion Saesneg i mewn i’ch iaith lafar naturiol. Fodd bynnag, oherwydd nad yw’r rhan helaeth o’r trigolion yno yn siarad Saesneg, yn amlwg nid ydynt yn defnyddio geiriau Saesneg wrth siarad Cymraeg. Yn wir, mae’r Gymraeg mor lân a phur yno, roeddwn yn teimlo ychydig o gywilydd fod rhaid imi, rhywun sy’n astudio gradd yn y Gymraeg, orfod canolbwyntio’n galed iawn ar sicrhau nad oeddwn yn defnyddio geiriau Saesneg wrth siarad!

Gwahaniaeth arall am y bobl yno wrth gymharu â ni’r Cymry, yw pa mor dda y maent yn gwybod eu hanes – boed yn hanes cenedlaethol neu eu hanes teuluol. Mae pob siaradwr Cymraeg ym Mhatagonia yn gwybod eu hanes teuluol yn wych. Maent yn gwybod enw a hanes pob cenhedlaeth o’u teuluoedd ers i’r Mimosa fynd draw yno, ac mae pawb yn gwybod o le yng Nghymru y daw eu teuluoedd, gan enw’r sir, pentref, ac enw’r fferm, hyd yn oed.

Yn ogystal, mae eu gwybodaeth o hanes y Gymraeg yn y Wladfa yn wirioneddol anhygoel. Yn amlwg mae hanes Cymru llawer mwy meintiol na hanes y Wladfa, sydd ychydig dros 150 mlwydd oed yn unig, ond mae brwdfrydedd pobl y Wladfa dros eu hanes, a’u diddordeb yn eu gwreiddiau a’r dreftadaeth, yn wirioneddol ysbrydoledig. Yn gyffredinol, teimlaf fod ein hymwybyddiaeth o’n hanes a’n gwreiddiau yn gymharol wael – nes i ddysgu mwy am Harri’r VIII ac Adolf Hitler yn yr Ysgol na nes i am Llywelyn ac Owain Glyndŵr, sydd yn gwbl wahanol i’r Wladfa, lle mae pawb yn ymwybodol iawn o’u hanes.

I ychwanegu at hyn, nid yn unig ydynt yn fwy ymwybodol o’u hanes na ni yng Nghymru, ond mae’n ymddangos fel petaent yn ymfalchïo yn eu hanes a’u treftadaeth yn fwy na ninnau. Mae’r ddraig goch i’w weld ar bob yn ail siop, bwyty ac ysgol yno, ac mae gan lawer o’r siopau enwau Cymraeg. Yn ogystal, mae bron bob stryd wedi ei enwi ar ôl ryw berson neu ddigwyddiad hanesyddol, gydag enwau strydoedd fel ’28 de Julio’ (28 o Orffennaf – Gŵyl y Glaniad), a Stryd Llwyd ap Iwan, i’w gweld o amgylch y lle.

Fodd bynnag, er gwaetha’r holl wahaniaethau, bodola un cyswllt amlwg sy’n ddigon i gynnal perthynas agos ac unigryw rhwng Cymru a Phatagonia – sef yr Iaith. Tra’r oeddwn yno ges i’r cyfle i gwrdd â degau o bobl a oedd, mewn gwirionedd, yn bobl wahanol iawn imi, ond serch hyn, roedd y ffaith yr oeddwn yn medru’r un iaith yn ddigon greu perthynas rhyngom. Mae Cymru a Phatagonia yn ddau le gwbl anhygoel, gyda pherthynas unigryw a chyffrous rhyngom. Maent yn dwy wlad sy’n rhannu gwreiddiau. Dwy bobl sy’n rhannu teidiau. Dau raffyn yn clymu’n gwml. Dau enaid ond un iaith.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php