Taf-Od

Dyfodol ein llyfrgelloedd

Beth yw'r dyfodol? Source: Free-Photos (via Pixabay)
Er bod cymaint ag erioed o lyfrau’n cael eu cyhoeddi, yn enwedig yn Gymraeg, yn ôl arts.gov lleihau mae’r darllenwyr yn ein llyfrgelloedd.

Gan Nel Richards | Pennaeth Taf-od

Does dim byd gwell na llyfr da! Oes ‘na? Neu beth am y ddihareb “Lleufer dyn yw llyfr da”. Pryd ddarllenoch lyfr (ar wahân i lyfr cwrs) ddiwethaf? Ac er bod cymaint ag erioed o lyfrau’n cael eu cyhoeddi, yn enwedig yn Gymraeg, yn ôl arts.gov lleihau mae’r darllenwyr yn ein llyfrgelloedd.

Mae’r Kindle a’r iPad mor boblogaidd erbyn hyn a chymaint o wybodaeth ar gael wrth wasgu ‘’Google search’’ neu alw ar Alexa wrth orwedd yn y gwely neu’r soffa. Does dim eisiau trafferthu cerdded y filltir yna i ymchwilio ryw lyfr yn y gwynt a’r glaw. Y paradocs yw bod darparu mwy a mwy o ddeunyddiau ar-lein yn galluogi pobl ymhob man i ddefnyddio’r gwasanaethau yn rhwydd, heb orfod croesi trothwy’r llyfrgell ei hun.

Oherwydd pwysau ariannol, mae Cynghorau yn chwilio am ffyrdd i dorri ar gostau ac mae darogan bydd parciau chwarae a llyfrgelloedd ar frig y rhestr. “Diogelu gwasanaethau hanfodol’’ yw cri’r awdurdodau ac nid yw llyfrgell, erbyn hyn, yn ‘’wasanaeth hanfodol’’.

Mae gan gynghorau ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell gynhwysfawr ac effeithiol ac er eu bod dan straen ariannol, yn dilyn yr argyfwng presennol, mae llawer, yn enwedig pobl ddifreintiedig, heb adnoddau ariannol yn dibynnu ar lyfrgelloedd sy’n agos i’w cartrefi.

Yn ol y Senedd, Mae degau ar ddegau o lyfrgelloedd dros Gymru wedi cau a nifer mewn perygl. Trosglwyddir rhai i ofal gwirfoddolwyr lleol, er hyn mae angen cefnogaeth ariannol arnynt.

Dros y blynyddoedd mae llyfrgelloedd wedi newid gyda’r oes ac yn darparu mynediad rhyngrwyd, cyfleusterau wi-fi, cyfle i ddarllen papurau newydd a chylchgronau (yn rhad ac am ddim), ystafelloedd cyfarfod a lluniaeth ysgafn. Mae ‘’Llyfrau Llafar’’ ar gael hefyd, yn ogystal â recordiau sain. Serch hynny mae’r pwysau arnynt o hyd.

Mae Sali Wheway, sydd yn treulio llawer o’i hamser brifysgol yn y llyfrgell yn dweud;

“Un o nodweddion unrhyw gymdeithas iach yw ei gallu i sicrhau bod ei thrigolion, o bob oed a chefndir, yn medru darllen ac ehangu eu gwybodaeth. Nid yw anwybodaeth o werth i neb.”

Sut mae denu pobl drwy ddrysau llyfrgelloedd bach? Mae gan bobl Caerdydd, yn enwedig myfyrwyr, hoffter arbennig o gaffis, felly beth am ddilyn arweiniad llyfrgelloedd eraill a rhoi lle i ddarllenwyr sipian eu coffi wrth bori drwy dudalennau llyfr da?

Ym mis Chwefror eleni derbyniodd Llyfrgell Rhiwbeina fuddsoddiad gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’i ymrwymiad i ganolfannau’r pwysig y ddinas. Golygodd hyn adnoddau gwell i’r brif fynedfa, delwedd addas i rai sy’n dioddef o ddementia, silffoedd newydd, cadeiriau addas ac esmwyth, ystafelloedd cyfarfod ychwanegol, toiledau newydd, cyfleusterau technoleg gwybodaeth well a gardd newydd. Bydd yn ddiddorol wybod os cafwyd mwy o aelodau a rhai’n mynychu’r Llyfrgell?

Beth am gefnogi un o’n sefydliadau pwysicaf a’u diogelu : ymaelodwch â llyfrgell?

 

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php