Taf-Od

#etholiad16 – edrych ymlaen

Mae pleidiau cenedlaetholdeb Prydain wedi wynebu hanes caled yn ei hamser, nid yn unig am resymau polisi, ond oherwydd y ffaith ei bod hwy yn genedlaetholwyr. Erbyn hyn, mae Plaid Cymru a’r SNP wedi dewis ar naratif sosialaidd a chenedlaethol.

Wrth edrych ar hysbysiad newydd Plaid, mae’n amlwg ei bod nhw yn rhoi’r sbotolau ar y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr ymgyrch etholiadol yma, yn hytrach nag ond hysbysebu ei pholisïau ei hun. Gwelai hwn fel gwleidyddiaeth beryglus, ond eto fel gwleidyddiaeth lwyddiannus. Dyma’r tactegau defnyddiodd y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol, creu awyrgylch o ofn am y blaid arall, ac mi fydd pobl yn eich pleidleisio amdanoch chi. Gwnaeth David Cameron lwyddo i bortreadu’r blaid Lafur fel un anghymwys i ofalu am yr economi, gydag arweinydd gwan, ac fe wnaeth lwyddo’n hawdd ac ennill mwyafrif yn San Steffan.

Yn yr Alban yn 2007, gwnaeth yr SNP ymgyrchu yn erbyn y Blaid Llafur yr Alban yn llwyddiannus, ac aethom gam ymhellach yn 2011 ac ymhellach fyth yn 2015. Gwnaeth yr SNP creu awyrgylch nad oedd Llafur yn cymryd pobl o ddifrif, ac roeddent yn cymryd ei bleidleisiau yn ganiataol. Ni ellir dadlau’r pwynt yma yn effeithiol yng Nghymru, ac mae hwn felly yn broblem i Blaid Cymru. Beth sydd hefyd yn broblem iddynt yw’r ffaith ei bod wedi llywodraethu yn barod, gyda’r Blaid Lafur rhwng 2007-2011, ac nid yw’r cyhoedd wedi gweld hwn yn ddigon effeithiol i bleidleisio am y blaid yn 2011. Er hyn, gall y blaid diolch nad ydynt wedi gwaredu ar fwyafrif ei chefnogaeth, fel y Democratiaid Rhyddfrydol y flwyddyn yma.

Y peth gwaethaf all ddigwydd i balid gwleidyddol yw bod y cyhoedd yn cwestiynu pwynt ideoleg y blaid. Gellir defnyddio’r enghraifft o’r Democratiaid Rhyddfrydol yma. Yn 2010, gwelwyd y blaid fel un onest, un ddibynadwy ac un i sefyll i fyny am hawliau pobl. Ond, pan aethpwyd mewn i’r glymblaid gyda’r Torïaid, a gadael i ffioedd dysgu treblu, newidiodd hwn yn llwyr. Gwnaeth y blaid addo ddim i godi ffioedd dysgu, ond gwnaethant, ac felly nid oedd y blaid yn cael ei weld yn wahanol yn rhagor. Roeddynt ond yn ‘Conservatives light’ bron, a gwnaeth y cyhoedd ei chosbi nhw yn y bocs balot y flwyddyn yma.

Mae Plaid Cymru ar y funud yn wynebu problem debyg. Maent yn gweld annibyniaeth fel targed hir dymor, a chuddio’r ffaith yna i nifer o bobl achos dyw’r Cymry ddim yn barod am hynny. Ond, am hyn, mae’n anodd gweld gwahaniaeth enfawr rhyngddynt a’r Blaid Lafur felly, ac mae’n anodd dychmygu senario ble mae’r ddwy blaid yn bodoli gyda’r un faint o boblogaidd. Fel gwelwyd yn yr Alban, ble mae trawsnewidiad o Lafur i’r SNP wedi digwydd, mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn mynd am un neu’r llall, a ddim y ddau, a dyna pam mae Plaid Cymru yn drydedd ar y funud o ran seddau yn y cynulliad, a pedwerydd o ran pleidleisiau blwyddyn yma.

Roedd angen iddynt ymosod ar y Blaid Lafur ers dechrau datganoli, ond maent wedi methu hyd yn hyn, ac efallai mai ychydig rhy hwyr erbyn hyn i wneud gwahaniaeth i’r canlyniad blwyddyn nesaf.

Yn wir, mae pobl Cymru wedi blino o Lafur, ond ydynt wedi blino cymaint i newid y dirwedd wleidyddol sydd wedi bodoli am ganrif? Er hoffwn feddwl bydd Plaid Cymru yn llwyddo, annhebygol bydd hyn mewn gwirionedd. Mae’n haws iawn mewn gwleidyddiaeth cau eich hun mewn i fwrlwm bach ac anghofio am reality. Mae Plaid Cymru yn teimlo’n hyderus, ac o’i chynhadledd maen nhw’n teimlo’n hyderus dros ben, ond ar y funud yma, cyn y canfasio i gyd, nid ydwyf yn gweld y blaid yn ennill mwy na pymtheg o seddi, ac felly dim digon i greu llywodraeth, heb Lafur wrth gwrs.

Wrth edrych ar y blaid Lafur, nid ydynt wedi bod yn berffaith, nid ydynt wedi cynnig syniadau radical newydd, ond maent wedi rhoi sefydlogrwydd i wleidyddiaeth Cymru, ac mae pobl Cymru yn hoffi hwn ar y mwyafrif. Y bygythiad mwyaf i’r Blaid Lafur yw UKIP mewn gwirionedd, ac nid Plaid Cymru. Daeth UKIP yn ail mewn llefydd yng Nghymru, ac felly ni allwn ei anwybyddu na siarad ei ddylanwad i lawr bellach. Mae’n bosibilrwydd bydd ACau UKIP yn cael ei ethol, ac felly ni allai Llafur a Phlaid Cymru diddymu’r blaid llawer mwy, neu maent yn dieithrio’r rheini sydd wedi pleidleisio am UKIP yn y gorffennol ymhellach. Gwnaeth dros 200,000 o bobl Cymru pleidleisio dros UKIP, ac felly mae’n amser ei chymryd o ddifri. Nawr, nid ydwyf yn cytuno gyda bron i unrhyw bolisi UKIP, ond dwi yn credu’n gryf yn ddemocratiaeth, felly ni ddylwn anwybyddu’r dylanwad yma yn wleidyddiaeth Cymru.

Wrth edrych ar y Ceidwadwyr, mae’n amlwg ei fod yn adeiladu cefnogaeth yng Nghymru, cofiwn y sioc fawr wrth iddynt gipio Gŵyr yn yr etholiad cyffredinol. Fel arfer mae pleidleisiau ar gyfer y Ceidwadwyr yn disgyn yn yr etholiad cynulliad, ond tybed a fydd hynny’n wir y tro yma. Mae’n dod lawr i effaith y newidiadau credydau treth, os maent yn mynd ymlaen mor llym, mae’n annodd gweld y Ceidwadwyr yn symud ymlaen o beth sydd ganddynt yn barod. Ond, os mae newidiadau yn cael ei wneud, gallaf hefyd gweld y blaid yn cynyddu ei nifer o seddi yn y Siambr.

Diddorol gweld os bydd y Gwyrddion yn gwneud unrhyw gynnydd yn yr etholiad, a pa fath o ymgyrch y byddant hwy yn ei wneud. Mi fydd yn braf gweld y blaid yn dod i’r cynulliad, a chreu cynulliad chwe phlaid gyda syniadaeth eang tu hwnt.

A dyna ni, does dim byd llawer allwn wneud ar y funud ond hapfasnachu, ond mi fydd yr etholiad yn dod yn cloi dwi’n siŵr. Mae un peth yn sicr, dwi’n edrych ymlaen at weld pa siâp bydd gwleidyddiaeth Cymru yn edrych mewn blwyddyn.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php