Tarddiad: Osian Wyn Morgan
Taf-Od

Ewyllys da yn yr etholiadau

Gan Osian Wyn Morgan

Yr wythnos diwethaf oedd wythnos etholiadau Undeb Myfyrwyr Caerdydd, lle cafodd holl fyfyrwyr y brifysgol fwrw pleidlais er mwyn ethol Llywydd, Is-lywyddion, a Swyddogion Ymgyrch a fydd yn ein cynrychioli ni yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Tasg amhosib yw peidio â sylweddoli ar yr etholiadau yn ystod yr wythnos. Mae fel petai’r ymgeiswyr yn meddiannu Cathays yn ystod yr wythnos, gyda dwsinau o faneri a channoedd o bosteri i’w gweld o amgylch y lle, ac ymgeiswyr yn barod i’ch cyfarfod ar bob cornel i drafod eu maniffesto, ac i erfyn arnoch i roi croes wrth ymyl eu henw nhw. Fodd bynnag, wrth ddilyn yr etholiadau eleni un peth yr wyf wedi sylwi arno, ydi presenoldeb y Gymraeg yn ymgyrchoedd yr ymgeiswyr.

Yn bersonol, rwyf wedi synnu gan weld gymaint o ddefnydd o’r Gymraeg gan yr ymgeiswyr wrth iddynt ymgyrchu, er gwaetha’r ffaith mai un yn unig o’r 43 ymgeiswyr oedd yn rhugl yn yr iaith. Cyhoeddwyd holl faniffestos yr ymgeiswyr yn ddwyieithog, a hynny yn y Gair Rhydd, ac ar wefan yr Undeb, a phan hyrwyddwyd yr etholiadau gan yr Undeb, gwnaethpwyd hynny’n gwbl ddwyieithog. Fodd bynnag, rhoddwyd y rhyddid i’r ymgeiswyr ymgyrchu ym mha iaith bynnag y dymunent, a ni roddwyd gorfodaeth arnynt i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hymgyrchoedd, felly roedd unrhyw ddefnydd o’r Gymraeg gan ymgeiswyr yn arwydd o ewyllys da ganddynt.

Fodd bynnag, wrth hyfforddi’r ymgeiswyr cyn yr etholiad, hyrwyddwyd y buddion o ymgyrchu’n ddwyieithog gan staff yr Undeb, a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r iaith, dangos parch a chydnabyddiaeth tuag at dirwedd ieithyddol Caerdydd, a sicrhau y gall yr oddeutu 2000 o siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n astudio yn y Brifysgol weld a chlywed eu mamiaith yn ystod yr etholiadau. Cynigwyd gwasanaeth cyfieithu am ddim gan yr Undeb i unrhyw ymgeisydd a oedd eisiau defnyddio’r Gymraeg yn eu hymgyrch.

A dyna’n union a wnaethpwyd gan lawer o’r ymgeiswyr. Roedd nifer o’r ymgeiswyr wedi creu posteri gwbl ddwyieithog gan gynnwys dau fyfyriwr a oedd yn ymgeisio i fod yn Llywydd yr Undeb y flwyddyn nesaf, Milly Dyer a Nathaniel Fox. Dywedodd Milly “Mae bod ym Mhrifddinas Cymru yn golygu bod rhaid i’r Gymraeg fod yn rhan o’n bywyd bob dydd. Rwyf yn trio’i ddefnyddio bob dydd yn fy ngwaith, ac mi wnes i’r un peth yn fy ymgyrch – ar fy mhosteri, yn y sesiynau holi ymgeiswyr, ac yn ystod yr wythnos.”

Roedd eraill wedi defnyddio ychydig o Gymraeg ar eu posteri, gan roi ‘pleidleisiwch dros’ ar eu posteri yn ogystal â’r cyfieithiad Saesneg. Cefais gyfle i siarad gyda rhai o’r ymgeiswyr a ddefnyddiodd y Gymraeg ar eu posteri, i holi pam y gwnaethent benderfynu defnyddio’r Gymraeg.

Dywedodd Jake Smith, a oedd yn rhedeg i fod yn Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig, “Er mai dysgu’r Gymraeg yn unig yr wyf yn ei wneud ar hyn o bryd, teimlais ei fod yn hynod o bwysig i greu posteri gwbl ddwyieithog, gan fod bod yn ddwyieithog yn ystod yr etholiadau yn dangos parch tuag at bwysigrwydd diwylliannol yr Iaith yng Nghymru.”

Roedd gan Dan Scheising, a oedd yn ymgyrchu i fod yn Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletaidd, rywbeth tebyg i’w ddweud. Dywedodd ei fod yn gobeithio dysgu’r iaith yn y blynyddoedd nesaf, ond ar hyn o bryd teimlodd ei fod yn bwysig iddo fod cymaint o’i ddeunydd ymgyrchu ag sy’n bosib yn ddwyieithog gan fod Cymru yn wlad ddwyieithog.

Yn ogystal â defnyddio’r Gymraeg ar bosteri, aeth un ymgeisydd, Charlie Knights, a oedd yn rhedeg i fod yn Swyddog Ymgyrch Myfyrwyr ag Anableddau am yr eildro, ymhellach gyda’i ddefnydd o’r Gymraeg. Ar gyfer yr etholiadau, dysgodd Charlie nifer o ymadroddion a geiriau mewn Cymraeg, er mwyn gallu cyfarch a thrafod gyda myfyrwyr Cymraeg yn eu mamiaith. Dysgodd Charlie eiriau fel ‘Shwmae’, ‘Hwyl fawr’, a ‘Wyt ti’n meindio cael y sgwrs yma’n Saesneg?’ Dywedodd ei fod wrth ei fodd gyda Chymru a’r diwylliant yma, felly ei fod yn hanfodol ei fod yn defnyddio’r iaith wrth ymgyrchu.

Mae’n rhaid cyfaddef yr oedd y defnydd o’r Gymraeg gan ymgeiswyr yn yr etholiadau yn galonogol iawn, a rhaid canmol yr holl ymgeiswyr a aethpwyd ati i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hymgyrchoedd, boed yn cyfarch myfyrwyr gyda ‘Shwmae’, neu creu posteri gwbl ddwyieithog.

Beth, tybed, yw hyn yn golygu wrth ystyried sefyllfa’r Gymraeg yn ehangach yn y Brifysgol felly? A yw hyn yn arwydd bod agweddau’r di-gymraeg tuag at yr heniaith yn gwella? Yn sicr fyddai’n deg awgrymu hynny, ac mae’r ffaith fod y Gymraeg i’w weld a’i chlywed yn amlach yn ystod yr etholiadau yn sicr yn ei normaleiddio hi, ac yn codi’r ymwybyddiaeth ohoni.

Yr etholiadau yr wythnos ddiwethaf oedd yr ail etholiad a gynhaliwyd ers i mi ddechrau fel myfyriwr yma yn ein Prifddinas, a gallaf ddweud â sicrwydd yr oedd y Gymraeg yn llawer mwy presennol yn yr etholiadau eleni ag yr oedd y llynedd, gan awgrymu i mi fod sefyllfa’r Gymraeg o fewn yr Undeb yn gwella o hyd. Edrychaf ymlaen at weld beth fydd sefyllfa’r iaith y flwyddyn nesaf, pan fydd myfyrwyr y brifysgol yn mynd ati unwaith eto i ethol cynrychiolwyr.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php