Taf-Od

Gêm y bêl Gron – Beth yw sefyllfa ariannol y Byd Pêl-Droed

Does dim dwywaith amdani fod sefyllfa ariannol rhai timoedd pêl droed wedi trawsnewid y modd y mae’r diwydiant yn cael ei weld, ei chwarae a’i redeg yn y byd modern. Yn anffodus mae’r argyfwng COVID-19 wedi rhoi nifer fawr o glybiau i mewn i drafferth ariannol erbyn i’r tymor newydd yma gychwyn. Ond, un agwedd bositif sydd wedi dod allan o’r trafferthion ariannol, yw bod y sgwrs am degwch ariannol a sut mae goruchafiaeth ariannol yn taenu enw da y gêm. 

Dros yr wythnosau diwethaf yr ydym wedi gweld symudiad Lionel Messi i PSG gyda’i gyflog yn cyrraedd tua £40 Miliwn i flwyddyn gan symud cyfanswm cyflogau PSG i dros 300 Miliwn Ewro’r flwyddyn. Ar yr ochr arall yr ydym wedi gweld cwymp Barcelona gyda sôn fod y clwb mewn dyled syn cyrraedd biliynau o ganlyniadau i orwario a gor-fuddsoddi yn ariannol. Felly, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, lle mae’r system Chwarae Deg Ariannol (Financial Fair Play) wedi ein methu fel cymdeithas pêl-droed?

 

Mae penderfyniad y byd pêl-droed i dderbyn y newidyn y gêm gan gofleidio a derbyn y fath gyfalafiaeth wedi achosi i anrhagweladwyedd y gêm i ddiflannu. Yr ydym wedi gweld y tuedd yn troi at oruchafiaeth gan ambell dim unigol o fewn eu cynghreiriau nhw. Yn y ddegawd ddiwethaf yn unig, yr ydym wedi gweld :

 

Yr ail ‘trebl’ yn Sbaen

‘Trebl’ cyntaf yn Yr Eidal

‘Trebl’ domestig cyntaf Cynghrair Lloegr

Tîm yn cyrraedd 100 pwynt mewn tymor yn Sbaen, Yr Eidal a Lloegr am y tro cyntaf

Tri ‘trebl’ domestig olynol mewn pedair blynedd yn Ffrainc.

 

Mae’r rhan fwyaf o rain wedi cael eu gweld yn anghyraeddadwy am flynyddoedd, degawdau, ond gyda’r goruchafiaeth ariannol yn chwyldroi’r gêm a gyda thimoedd yn dominyddu cynghreiriau, y mae llwyddiannau fel hyn yn amlygu eu hun fwy ac yn fwy. 

 

Os nad yw hyn yn ddigon i ddangos y broblem sydd wedi’i wreiddio o fewn pêl-droed erbyn hyn, fe ddaeth y cynlluniau’r  ‘Super League’ i’n hatgoffa ni gyd. Gwnaeth y cynlluniau cadarnhau i ni, cefnogwyr y gêm, fod y timoedd sydd yn ariannol ffodus yn rhedeg y gêm erbyn hyn, am aros yna ac yn bwysicach iddyn nhw, am wneud unrhywbeth i sicrhau mai nhw fydd ar ben y gêm am flynyddoedd a degawdau i ddod.

 

Mae’n rhaid i bethau i newid o ben y gêm er mwyn sicrhau ein bod ni’n amddiffyn y timoedd hynny sydd methu cystadlu gyda’r timau sydd â chymorth ariannol anferthol. Os na fydd newidiadau’n digwydd, fe fyddwn yn gweld mwy o achosion fel Bury FC a chafodd ei diarddel o Gynghrair Pêl-droed Lloegr wedi i ddyledion y clwb gynyddu wrth geisio dringo’r system. Mae timoedd sydd yn llwyddo i ennill dyrchafiadau i gynghrair yn uwch yn cael eu gorfodi i wario arian er mwyn ceisio cystadlu gyda’r timau sydd eisoes yn y gynghrair hynny. Mae’r tuedd yma yn achosi perygl enfawr at gyflwr ariannol clybiau os ydynt yn colli ei lle gan ollwng yn ôl i gynghrair is. 

 

Mae’n amlwg fod yna batrwm gwirioneddol pryderus o wario’n ormodol a goruchafiaeth ariannol yn y gêm bêl-droed erbyn hyn. Mae gan gyrff llywodraethu FIFA a’i tebyg gwaith i wneud os ydyn ni fel cymdeithas am gadw’r gêm yr ydym mor hoff ohoni’n fyw ac yn iach. 

 

A ddaw newid i’r gêm? Neu a ydym yn mynd tuag at sefyllfa lle fydd goruchafiaeth ariannol yn lladd y byd pêl-droed fel yr ydym yn ei hadnabod?

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php