Mwydron Morgan

Gwlad neu dywysogaeth: Sut yw’r Cymry yn gweld ei hunain?

Gan Osian Morgan

Noddir yr erthygl hon gan Principality…

Fel plentyn, cefais fy magu o dan yr argraff fod Cymru’n wlad. Dysgais yr anthem genedlaethol Gymreig yn yr ysgol, gwyliais y timau rygbi a phêl-droed cenedlaethol, a theimlais ryw fath o synnwyr o ddod ‘adre’ bob tro y byswn yn croesi’r ffin yn ôl i Gymru o Loegr, gwlad a oedd yn wlad gwbl wahanol yn fy nhyb i ar y pryd. Fodd bynnag, wrth imi dyfu ac aeddfedu, ac wrth imi ddechrau gweld cenhedloedd y Deyrnas Unedig, a’r berthynas rhyngent, yng nghyd-destun eu gwleidyddiaeth a’u cyfreithiau yn hytrach nag ar sail lliwiau’r crysau yr oeddent yn eu gwisgo yn y chwe gwlad, sylwais nad yw rôl Cymru o fewn y DU yn un du a gwyn.

Beth yn union yw Cymru, felly? Ydan ni’n wlad? Yn dywysogaeth? Yn drefedigaeth? Yn genedl? Neu’n ddim byd ond darn o dir yn dyst ein bod wedi mynnu byw? Yn sicr, rydym yn genedl, ac yn sicr roedd elfen o wirionedd yng ngeiriau Gerallt Lloyd Owen wrth iddo awgrymu y gall Cymru wedi ei lyncu i Loegr pe na tasent wedi mynnu fod y Clawdd Offa yn wahanfa ddiwylliannol, gymdeithasol ac ieithyddol yn hytrach na llinell ar fap. Fodd bynnag, mae sawl digwyddiad wedi codi dros y misoedd diwethaf sydd wedi peri i rai o’r Cymry gwestiynu os mai gwlad, neu dywysogaeth ydym. Dwi’n siŵr allech chi ddyfalu am beth rwy’n sôn…

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nid yw Cymru’n dywysogaeth, ond yn wlad yn ei hawl ei hun sydd yn rhan o Brydain Fawr. Mae hyn yn cyd-fynd gyda diffiniadau swyddogol ‘gwlad’ a ‘thywysogaeth’. Felly pam fod y gair ‘tywysogaeth’ wedi ymddangos mewn trafodaethau am Gymru yn gymharol aml dros y misoedd diwethaf? Wel, o un peth mae’r gair ‘Principality’ yn hongian fel cwmwl dros ein prifddinas mewn llythrennau breision ar ein stadiwm genedlaethol, a’r ffaith ei fod fel petai’r banc yn noddi pob yn ail raglen ar S4C (Os dwi’n gorfod clywed ‘Noddir y rhaglen hon gan Principality’ unwaith eto tra dwi’n trio gwylio’r unawd cerdd dant dwi am fynd yn wallgof!) Fodd bynnag, un rheswm pam mae’r gair wedi ei chodi dros y misoedd diwethaf yw oherwydd mai dyma’r math o air sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio Cymru yn ein Cynulliad gan rai o weinidogion y blaid Lafur.

Fis Rhagfyr, dywedodd Dafydd Êl – sori, Yr Arglwydd Elis-Thomas – y dylai Cymru gael ei hyrwyddo fel ‘tywysogaeth’ o fewn y Deyrnas Unigol. Am ddatganiad od a ffôl i’w wneud, yn enwedig gan rywun sydd wedi ymroi ei fywyd i ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru. Mae bron fel petai o’n wymon o ddyn sy’n newid ei farn a’i egwyddorion fel newidia’r gwynt fel ymgais anobeithiol a chywilyddus i gadw ei afael ar rywfaint o bŵer. Ond wrth gwrs, byddwn i fyth yn cyhuddo ein Harglwydd arwrol o’r fath beth…

Nid dyma’r unig ymgais ddiweddar gan y Llywodraeth Lafur i drio perswadio ni’r Cymry ein bod yn ddim byd ond deiliaid i’r frenhiniaeth a’r wladwriaeth Saesneg. Pwy all anghofio bwriad y llywodraeth i adeiladu cylch haearn ger Castell Fflint er mwyn coffau goresgyniad Edward 1af dros Gymru. Mae’n gywilyddus fod ein llywodraeth wedi hyd yn oed ystyried buddsoddi mewn cerflun sydd yn ddim mwy nag atgoffâd o ormes Lloegr dros Gymru. Pa fath o wlad sy’n coffau ei oresgyniad!?

Roeddwn i’n meddwl y byddai’r ymateb chwyrn ag angerddol yn erbyn y cerflun yn ddigon i berswadio’r llywodraeth fod y Cymry’n fwy awyddus i ddathlu ein statws fel gwlad gyda’i hiaith a’i diwylliant ei hun, yn hytrach na fel rhan o’r Wladwriaeth Brydeinig. Fodd bynnag, dros y Pasg, datganodd Llywodraeth Prydain y byddai’r Bont Hafren yn cael ei hail enwi ar ôl Tywysog Cymru, heb wrthwynebiad gan Lywodraeth Cymru. Nai ddim trafod y cannoedd o resymau dros anghyfiawnder a gwarth y penderfyniad hwn, gan eu bod wedi eu dweud droeon gan filoedd o Gymry ers y cyhoeddiad, ond nai fyth ddeall obsesiwn y Llywodraeth dros ein hatgoffa o’n rôl fel deiliaid i’w hymerodraeth greulon. Dwi’n siŵr y byddai gan Gerallt Lloyd Owen rhywbeth i’w ddweud am hwnnw.

Crybwyllais yn gynharach yn yr erthygl y gellir ystyried Cymru fel ‘Trefedigaeth’ i Loegr, fel y mae llawer yn honni ein bod ni. Yn sicr, gellir ystyried Cymru fel trefedigaeth, a honna R.R.Davies fod Cymru’n arddangos y rhan fwyaf o nodweddion cymdeithas trefediagaethiedig. Profiad od, felly, oedd gweld holl drefedigaethau a chyn-drefedigaethau yr Ymerodraeth Brydeinig yn dod ynghyd dros y Pasg i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad. Er yr ydwyf yn betrusgar ac anniddig am ddathlu a chydnabod y ‘Gymanwlad’, rhaid imi gyfaddef yr oedd gwylio athletwyr medrus yn cystadlu dros Gymru yn deimlad braf.

Fodd bynnag, wrth i’r gemau ddod i ben, ac wrth i athletwyr y rhan helaeth o’r gwledydd ddychwelyd i’w gwledydd annibynnol hwy, tristeais fod athletwyr Cymru yn dychwelyd i Gymru gyda’r ddraig goch ar eu bronnau ar adeg lle mae eu llywodraeth yn mynnu eu hatgoffa mai Prydeinwyr ydynt mewn gwirionedd. Mae bron fel pe tai athletwyr Cymru’n dychwelyd i Brydain gyda’u medalau yn llawn cyffro, fel plentyn yn dychwelyd adref o’r ysgol ar bigau drain i ddangos sticer yr enillodd yn yr ysgol i’w rieni. “Da iawn chi, da chi di neud yn dda. Rŵan tynnwch y citiau coch yna i ffwrdd, dyma Jac yr Undeb ichi wisgo am y pedair blynedd nesaf.”

Ymddengys fod rhai pobl, gan gynnwys rhai o’r bobl sy’n rhedeg ein gwlad ac yn ‘cynrychioli’r bobl’, yn awyddus o hyd i ddathlu rôl Cymru fel rhan o’r Wladwriaeth Brydeinig, yn hytrach na chenedl a gwlad yn ei hawl ei hun. Nid erthygl o blaid neu yn erbyn annibyniaeth yw’r erthygl hon, ond erthygl o blaid dathlu hanes cyfoethog Cymru, yn hytrach na hanes ein goruchafiaeth. Erthygl o blaid dathlu rôl bresennol Cymru fel gwlad sy’n falch o’r hyn sydd yn ein gwneud ni’n wahanol i wledydd eraill y DU a’r byd. Erthygl o blaid sicrhau y bydd Cymru yn y dyfodol yn wlad sy’n gyfoethog ei diwylliant, yn llewyrchus ei heconomi, ac yn Gymraeg eu hunaniaeth, boed hi’n wlad annibynnol neu beidio. Fyddai ddim yn galw’r bont yn bont ‘Tywysog Cymru’, a fyddai ddim yn dathlu rôl Cymru fel tywysogaeth i’r frenhiniaeth Saesneg. Dyw Charles Windsor ddim yn dywysog i mi.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php