Prifysgol Caerdydd drwy Flickr
Taf-Od

Mae pob haul yn machlud, ond mae gwawr y brifysgol wedi tanio

Gan Llion Carbis

Nid oes un ohonom yn unfath i’r llall, mae pawb yn meddu ar bersonoliaethau a diddordebau amrywiol. Ond yn achos dechrau pennod newydd o’n bywydau academaidd, mae’n debygol roedd glas fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn profi’r un emosiynau ar ddechrau ein gyrfaoedd yn y brifysgol. Roedd pawb yn waddoledig â chyffro heintus, yn ogystal ag elfen o ansicrwydd am yr hyn oedd i ddod. Mae modd ddweud yn ddiymwad bod y profiad wedi bod yn hynod o gadarnhaol hyd yma.

Un o’r prif argymhellion a gafodd ei gynnig ar ddechrau ein cyfnod yn y Brifysgol oedd ymrwymo at fywyd academaidd Caerdydd, gan uchafu pob cyfle a oedd yn cael ei ddarparu gan y nifer helaeth o gymdeithasau a mudiadau.

Rwy’n siŵr bod myfyrwyr JOMEC wedi hen ddiflasu gyda’r gyfatebiaeth o ymdrin â’r brifysgol fel aelodaeth campfa, ond mae’r neges yn un arbennig o berthnasol sy’n gosod sylfaen cynhyrchiol ar gyfer bywyd yn y brifysgol. Mae rhaid ymroi’n ffyddlon i brofi holl ffrwyth y cyfleoedd sydd ar gael.

Fel unigolyn sy’n astudio Newyddiaduraeth a Chyfathrebu yr wyf wedi cael fy niddori’n fawr gan y cwrs, yn enwedig wrth ystyried bod y testun yn cwmpasu sawl elfen o bynciau gwahanol boed hynny’n astudiaethau cyfryngau, gwleidyddiaeth neu economeg.

Yn ogystal â hyn, mae fy mhenderfyniad i ymuno â’r Gym Gym – rwy’n annog pawb sydd ddim ynghlwm gyda’r gymdeithas i ymaelodi – wedi bod yn brofiad cyffrous a diddorol. Mae fy sgiliau pêl-droed – neu brinder ohonynt – wedi cael eu profi mewn amodau gormesol. Yn unol â hyn, mae fy ngallu i aros yn bwyllog wrth dreulio alcohol wedi cael ei fesur, ond rwy’n hapus i ddatgan fy mod wedi gorchfygu’r her yma gyda hawster.

Er gwaethaf yr holl gyffro a’r cynnwrf sy’n deillio o’r digwyddiadau yma, y teimlad aruthrol o fod yn rhan o’r gymdeithas yw balchder a pherthyn. Mae’r faith bod casgliad helaeth o bobl yn ymfalchïo yn y Gymraeg, boed hynny mewn gosodiad cymdeithasol neu ffurfiol, yn rhywbeth sy’n andros o galonogol ac sy’n ysgogi teimlad o hyder a ffyddiogrwydd am ddyfodol yr iaith.

Mae’r gwladgarwch yma wedi helaethu ers dechrau yn y brifysgol. Rwy’n ddigon ffodus bod traean o fy nghwrs yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng fy mamiaith, felly treuliaf y buddion sy’n gysylltiedig â derbyn addysg bellach trwy’r Gymraeg.
Bwysicach fyth, yr wyf wedi cwrdd â sawl unigolyn o ledled y byd sydd wedi cael ei hudo gan yr iaith, ac sy’n synnu gyda’r nifer sylweddol sy’n ei ddefnyddio’n rheolaidd. Yn wir, mae’r iaith yn arddangos dyfodol hynod o ddisglair.

Wrth agosáu at gyfnod y Nadolig – mae’n anghredadwy bod mis wedi gwibio heibio ers ymuno â Chaerdydd – mae sawl digwyddiad sy’n deilwng o ennyn cynnwrf ar y gorwel, megis gemau rhyngwladol tîm rygbi Cymru neu gewri Chris Coleman yn erbyn Ffrainc a Panama.

Mae’n anodd prosesu bod y mis agoriadol yn y brifysgol wedi diweddu, gobeithiaf fod y misoedd dilynol yn meddu a’r cyffro cyfatebol!

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php