Mwydron Morgan

Mae’n amser dod allan – dwi’n bilingual!

Tarddiad: Eltpics drwy Flickr

Gan Osian Morgan

O bosib fydd y ffaith hon yn dod fel ychydig o syndod i rai ohonoch, ond mae rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn ddwyieithog. Er bod pwy bynnag sy’n darllen hwn yn ddwyieithog, ac â’r gallu i ddarllen y Gair Rhydd o glawr i glawr yn wahanol i’r rhan fwyaf o’i darllenwyr, mae’n debyg fel trigolion sy’n byw mewn gwlad mor unieithog â Phrydain, mae hi dipyn yn annisgwyl i ddarganfod fod ni siaradwyr Cymraeg-Saesneg ymhlith y mwyafrif – am unwaith! Fodd bynnag, er bod 20% o boblogaeth Cymru yn ddwyieithog, a bod y ddwy iaith yn rhai swyddogol yng Nghymru, a olyga hyn o reidrwydd fod y ddwy iaith yn cael eu trin yn deg – gan siaradwyr uniaith Saesneg, a chan siaradwyr dwyieithog?

Wrth osod y ddwy iaith ochr yn ochr â’i gilydd a’u cymharu, fe welwn fod y Saesneg yn iaith lawer cryfach a fwy llewyrchus, a bod y Gymraeg wedi dirywio ar draul yr iaith ei chymdogion swnllyd. Fodd bynnag, nid yw hwn yn rheswm na’n gyfiawnhad o gwbl i ni gasáu’r iaith Saesneg, nag i fynnu ymgymryd â rhyw gystadleuaeth barhaol rhwng y ddwy iaith, gyda’r ddwy iaith yn brwydro dros galonnau’r Cymry fel dau riant wedi ysgaru yn cystadlu dros eu plant. Pam na allai’r ddwy iaith gyd-fyw mewn harmoni yng Nghymru, fel y mae cannoedd o ieithoedd yn eu gwneud mewn cannoedd o gymdeithasau dwyieithog ledled y byd?

Er nad yw pawb yn mynnu gweld y ddwy iaith yn cyd-fodoli’n gydradd yng Nghymru, mae yna rai, hyd yn oed yn 2017, sydd ddim eisiau i un o’r ieithoedd fodoli o gwbl – a does na ddim gwobrau am ddyfalu ba iaith yw honno. Mae agweddau negyddol tuag at wario arian cyhoeddus ar y Gymraeg, hawliau ieithyddol ei siaradwyr, a hyd yn oed bodolaeth yr iaith yn gyffredinol yn parhau i fod yn bresennol hyd heddiw. Yr wythnos hon cymerwyd fy ffrwd trydar drosodd gyda llif o ymatebion i honiad newyddiadurwr fod arwyddion dwyieithog yn “wastraff o bres, yn cymhlethu twristiaid, ac yn debygol o achosi damweiniau”. (Dwi jest am adael y dyfyniad hwn yn fan hyn a symud ymlaen i’r paragraff nesaf, mae tudalennau’r Gair Rhydd yn llawer rhy werthfawr i’w gwastraffu yn dadlau yn erbyn y dadleuon plentynnaidd hyn.)

Fodd bynnag, nid yw’r bai ar yr wrth Gymraeg yn unig, mae dau ochr i’r gystadleuaeth ddiangen dros oruchafiaeth ieithyddol yng Nghymru. Tra bod y cysyniad o wrth Gymreictod yn un a amlygir i ni yn aml iawn, ydych chi di ystyried am eiliad fod yna fath beth a gwrth Seisnigrwydd? Yn sicr, rwyf i ar fwy nag yn achlysur wedi synhwyro ymdeimladau o gasineb tuag at yr Iaith Saesneg a’i phresenoldeb ymhlith fy nghyd Gymry dwyieithog. Lawer gwaith mae presenoldeb y Saesneg ar arwyddion mewn sefydliadau ‘Cymraeg’, neu glywed y Saesneg ar faes yr Eisteddfod, yn destun o bryder a phanig i rai o’r Cymry. Er nad wyf erioed wedi clywed rhywun yn dweud hyn yn blwmp ac yn blaen, synnwn i ddim petai rhai o’r Cymry eisiau i Gymry fod yn wlad unieithog, gan weld y Saesneg yn diflannu o’r wlad.

Yn hytrach, felly, na pharhau gyda’r ddadl flinedig a hirwyntog am ba iaith yng Nghymru yw’r orau i ddefnyddio ac i ddysgu i’n plant, yw’r un mwyaf gwerthfawr yn economaidd, yw’r un gwell l i roi uwchben y llall ar arwyddion ac yn y blaen, pam na allwn ni sylweddoli pa mor eithriadol o lwcus yr ydym i allu siarad iaith ddiwydiannol y byd, tra’n parhau i feddu ar iaith ddiwylliannol ein gwlad? O’m mhrofiad i, rwy’n ystyried fy hun i fod yn eithriadol o lwcus i allu meddu ar, a mwynhau, dwy iaith, gyda’r ddwy yn ieithoedd pwysig yn fy mywyd. Mae’r ddwy iaith wedi cael dylanwad enfawr ar bwy ydw i, ar fy mhersonoliaeth ac ar fy ngolwg ar Gymru a’r byd. Yn sicr, ni fyswn eisiau – nac yn gallu – byw heb yr un ohonynt.

Cefais fy magu yn y ddwy iaith, gan siarad Cymraeg gyda Mam a’i theulu, a siarad Saesneg gyda theulu Dad, ac o ganlyniad rwyf yn hyderus iawn yn cyfathrebu yn y ddwy iaith. Drwy gydol fy mywyd rwyf wedi cael rhai ffrindiau yr wyf wedi siarad Cymraeg â, a rhai yr wyf wedi siarad Saesneg â. Rwyf wrth fy modd gyda’r Sin Roc Gymraeg, ond rwyf hefyd yn caru gwrando ar gerddoriaeth Saesneg. Rwyf wedi fy ngwirioni gyda dramâu cyffrous S4C a datblygiadau cyffrous fel Hansh, ond fyswn i methu byw heb Netflix a chomedïau Saesneg! Rwy’n mwynhau Eisteddfota a chael fy ymrwymo yn niwylliant Cymraeg traddodiadol fy ngwlad, ond rwyf hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith fy mod yn gallu cymryd rhan yn y diwylliant Saesneg byd-eang sydd yn y byd ohonni.

Rwy’n mwynhau’r hyn oll oherwydd maent yn rhannau gwbl naturiol ac annatod o ddwyieithrwydd, ac o fod yn rhan o gymdeithas ddwyieithog, sef cael bod yn rhan o ddau ddiwylliant, cael darllen cynnyrch llenyddol dwy iaith, cael siarad a thrafod gyda phobl o ddau gefndir – cael siarad dwy iaith. Gallech garu’r ddwy iaith yng Nghymru, ac ymwneud â’r ddwy iaith yn eich bywydau bob dydd.

Yn yr un modd a nad oed rhaid i bobl ddewis rhwng hoffi un ai gwrywod neu benywod yn unig, nid oes rhaid i bobl ddewis un iaith yn unig. Nid oes problem o gwbl gyda bod yn ddeurywiol (bisexual), a nid oed chwaith broblem gyda bod yn ddwyieithog (bilingual), a charu’r ddwy iaith yn gydradd.

Mewn gwirionedd, ni ddylai unrhyw un yng Nghymru fyw drwy gyfrwng un iaith yn unig. Dylai pawb ddefnyddio’r ddwy iaith, a manteisio ar y cyfoeth diwylliannol a’r cyfleodd cymdeithasol sydd ynghlwm â’r ddwy iaith. Dylai siaradwyr sydd well ganddynt Gymraeg ddim cau eu hunain i ffwrdd o’r iaith Saesneg a’r gymdeithas fyd-eang a ddaw law yn llaw â hi. Dylai’r di-gymraeg ddim chwaith anwybyddu bodolaeth y Gymraeg, a magu teimladau negyddol tuag ati. Dylent ddathlu a dysgu ychydig o’r Iaith Gymraeg, hyd yn oes os y cyfan a wnânt yw cyfarch rhywun drwy ddweud shw’mae yn lle hello. Dylem ni fel cymdeithas ddwyieithog, mewn byd dwyieithog, trin y ddwy iaith yn gwbl gyfartal, a dathlu’r ffaith ein bod mor hynod o ffodus i allu meddu ar ddwy iaith.

Mae’r rhai ohonoch sydd yn fy adnabod, yn gwybod fy mod yn caru’r iaith Gymraeg, ond mae’n amser dod allan – dwi’n caru’r iaith Saesneg hefyd – dwi’n bilingual!

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php