Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Mae Megan, sy’n dod yn wreiddiol o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ar hyn o bryd yn ei blwyddyn olaf yn astudio cwrs BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth yng Nghaerdydd. Mae cystadleuaeth Coron Eisteddfod yr Urdd yn gwobrwyo darn (neu ddarnau) o ryddiaith, a’r thema yn 2020 oedd ‘Mwgwd/Mygydau.’ Disgrifiodd Megan ei gwaith buddugol fel:
“Stori ddystopaidd, ôl-apocalyptaidd a gwyddonias wedi’i sgwennu’n bennaf ar ffurf llythyrau gan hogyn bach yn sgil nifer o drychinebau hinsoddol a chymdeithasol.”
Fe gafodd Megan ei hysbrydoli i ysgrifennu’r darn gan raglen welodd hi ar y newyddion am broblemau llygredd aer yn Ulaanbaatar, prifddinas Mongolia.
Gwaith fydd yn ‘aros yn y cof am hir’
Roedd y beirniaid, Sian Northey a Casia Wiliam yn cytuno “heb fymryn o amheuaeth” mai gwaith Megan, a ddefnyddiodd y ffugenw ‘Lina’, daeth i’r brig. Disgrifiwyd y darn fel un “uchelgeisiol” gan “lenor dawnus efo meistrolaeth dros iaith.”
“Mae Ati a Jei ei frawd, ac Emyn ei ffrind, yn gymeriadau fydd yn aros yn y cof am hir.”
“Llongyfarchiadau gwresog i Lina, mae’n llwyr haeddu Coron yr Urdd 2020.”
Er sicrwydd amlwg y beirniaid o deilyngdod Megan fel enillydd y Goron, fe ddaeth y fuddugoliaeth fel sioc “hollol annisgwyl” i’r llenor ifanc.
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn hynod o lwyddiannus i Megan. Ym mis Awst enillodd ei nofel gyntaf, ‘Tu ôl i’r Awyr,’ a gafodd ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2020, brif wobr Llyfr y Flwyddyn 2021. Dyma wobr fawreddog sydd yn “rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.”
Pan ofynnwyd pwy oedd ei hysbrydoliaeth fwyaf yn y byd llenyddol, atebodd Megan fod ganddi “ormod i’w henwi” ond y mae’n cadw ail ymweld â’r cyfrolau O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price a Saith Oes Efa gan Lleucu Roberts.
Disgrifiodd Megan y broses o ysgrifennu rhywbeth newydd fel un “brawychus bob tro achos ‘sgen ti’m syniad be’ fydd barn pobl eraill am y gwaith!” Mwynhau’r broses o ysgrifennu sydd angen gwneud yn ei barn hi oherwydd “os ti wir yn mwynhau be ti’n sgwennu, mi fydd pobl eraill yn mwynhau’r darllen hefyd.”
Mae Megan yn ddiolchgar iawn i’r Urdd am yr “anrhydedd” o ennill Coron Eisteddfod 2020 ac am drefnu “dathliad amgen mor hyfryd.” Hoffwn longyfarch Megan ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld pa fath o ddyfodol disglair sydd o’i blaen yn y byd llenyddol a thu hwnt!
Add Comment