Tarddiad: Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Taf-Od

“Nid da lle gellir gwell”

Gan Caeo Harri Hughes

Y fi sydd wedi cael y fraint o fod yn llywydd ar Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd, neu’r Gym Gym fel mae’n cael ei adnabod, am y flwyddyn academaidd yma. Rydym ni fel cymdeithas yn gweithredu dan adain Urdd y Cymdeithasau yn yr Undeb. Fel cymdeithas dwi’n gobeithio ein bod ni’n llwyddo i roi cyfle i siaradwyr Cymraeg y brifysgol i ddod at ei gilydd, ac i gymdeithasu yn y Gymraeg, rhywbeth efallai sydd yn eithaf prin yn y brifddinas.

A thrwy hyn dwi’n falch gweld fod yr Undeb yn rhoi amser ac ymdrech i wrando ar siaradwyr Cymraeg, ac yn rhoi polisi fel hwn yn ei le. Mae arwyddocâd y polisi yn fawr, oherwydd mae’n golygu fod gennym lais, rhywbeth nad oedd llawer yn teimlo fod gennym o’r blaen. Ac felly rydw i, fel nifer eraill yn hapus iawn o weld bod y polisi yn rhoi sail i’r Gymraeg, ac ein bod ni fel siaradwyr yn gallu gweld lle da ni’n sefyll a sut mae’n hiaith yn cael ei thrin o fewn yr Undeb, ac am hyn rwy’n ddiolchgar iawn.

Mae’r polisi yn golygu bod yr undeb wedi cael ei roi yn y cyfeiriad cywir, ond dyw hyn ddim yn golygu ei fod wedi cyrraedd ei nod o ran hawliau’r Gymraeg, ac i’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Yn ôl y brifysgol, mae yna dri mil o fyfyrwyr yn medru’r Gymraeg ymayn Nghaerdydd. Tair mil, bron i 10% o holl fyfyrwyr y brifysgol. Mae’n ffigwr enfawr, a pan ges i wybod am y ffigwr, ges i fy syfrdanu’n ychydig. Faint o’r 3 Mil yna cymerodd rhan mewn cymdeithasau neu ddigwyddiadau Gymraeg eu hiaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? 10% o’r rhai hynny efallai? Felly da ni’n edrych ar sefyllfa lle 1% o fyfyrwyr y brifysgol yn unig sy’n defnyddio’r Gymraeg, er bod gan lawer mwy y gallu i wneud. A pham? Diffyg ymdrech? Diffyg amynedd? Neu efallai diffyg cyfle, i wneud beth maen nhw eisiau ei wneud yn Gymraeg?

Mae angen gwneud mwy yn y Gymraeg yn yr undeb i ddangos i’r siaradwyr Cymraeg, bod modd ei siarad â’i defnyddio’n gymdeithasol, gan fod llawer yn gweld y Gymraeg fel iaith y dosbarth TGAU neu’n iaith i’r crach Gymraeg, ac nid fel iaith byw ac yn iaith i bawb.

Mae angen rhywbeth at ddant pawb yn y Gymraeg, boed yn grŵp actio, canu, chwaraeon, cymdeithas wyddonol neu wleidyddol, mae angen i bawb gael y cyfle i ddefnyddio’u Cymraeg yn pwy bynnag faes maent eisiau, ac ar y funud, dyw hyn ddim yn bod.

Ac felly rwy’n holi, os oes yna dri mil o fyfyrwyr Cymraeg, pam mai dim ond nawr mae’r polisi yn cael ei ffurfio? Dwi’n deall mae ewyllys da oedd y defnydd o’r Gymraeg yn yr Undeb cyn y polisi. Ond os oes cymaint o fyfyrwyr yn medru’r Gymraeg, pam dydy’r undeb heb wrando arnom yn gynt, fel maent yn hoffi dweud eu bod yn gwneud?

Serch hynny, rydym bellach hefo’r polisi yn ei le, sy’n golygu ein bod ar y trywydd iawn i greu prifysgol, ac undeb myfyrwyr, lle mae’r ddwy iaith yn cael statws cyfartal.

Felly, i gloi, dwi’n llongyfarch yr Undeb ar y polisi, ac yn diolch iddynt amdano, ac am wrando arnom fel myfyrwyr. Ond fel dywedai’r hen ymadrodd, ‘nid da lle gellir gwell’. Ac efallai bod hynny’n brosiect ar gyfer Osian dros weddill ei amser fel Swyddog y Gymraeg!

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php