Tarddiad: Jordi Payà Can
Taf-Od

O Gatalonia i Gymru: Yr allwedd i annibyniaeth

Gan Tomos Evans

Ychydig dros fis yn ôl, camodd Catalonia ychydig yn agosach at ennill annibyniaeth ac ar hyd y mis diwethaf, mae llygaid y byd wedi’u hoelio ar y datblygiadau yno, sef un o ranbarthau mwyaf llewyrchus Sbaen. Cynhaliwyd refferendwm annibyniaeth yno gyda chanran sylweddol o’r pleidleiswyr (90% ) yn cefnogi’r ymgyrch annibyniaeth. Mae Llywodraeth Sbaen fodd bynnag yn honni fod y refferendwm yn gwbl anghyfreithlon. Mae ymateb Llywodraeth Sbaen wedi bod yn rymus ac, i raddau, yn eithafol hefyd gyda nifer yn cwestiynnu pun ai yw’r wlad wedi mynd yn groes i sylfaen democratiaeth yn ei hymdriniaeth â Chatalonia. Hawdd iawn byddai hi wedi bod i adael i’r Catalanwyr gael pleidlais ar annibyniaeth ond yn hytrach, gwelwyd lluniau o wynebau gwaedlyd gwragedd a phlant, eu llygaid yn llenwi â dagrau – ydy hyn wir yn dderbyniol gan gymdeithas ddemocrataidd?

Mae Catalonia yn rhanbarth ariannog iawn gydag 20% o economi Sbaen yn ddibynnol arni. Ond nid rhanbarth yn unig mohoni, mae ganddi faner, iaith a diwylliant ei hun ac mae’n bosibl tynnu cymhariaeth weddol agos gyda Chymru yn hynny o beth. Fel yng Nghymru, mae ymgyrchoedd annibyniaeth wedi bodoli yno ers blynyddoedd lawer, gyda’r bwriad o dorri’n rhydd o’r wlad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn enwedig mae’r gefnogaeth ar gyfer y mudiad annibyniaeth wedi cynyddu gyda mwy o bobl eisiau’r cyfle i leisio’u barn. Ond yn hytrach na rhoi’r hawl i’r Catalanwyr bleidleisio mewn refferendwm swyddogol, cyfreithiol, gwnaeth Llywodraeth Sbaen ddatgan fod y refferendwm yn annilys ac yn anghyfreithlon. Gwelwyd trais o’r raddfa fwyaf oddi wrth yr heddlu Sbaeneg, gydag amddiffynwyr tân yn amddiffyn y cyhoedd – nid rhag fflamau ond rhag yr heddlu.

Gwir yw dweud fod y refferendwm wed cael ei wrthod gan Lywodraeth Sbaen o flaen llaw a, serch hynny, gwnaeth Llywodraeth Catalonia barhau a’u cynlluniau. Ond oni fyddai’n well rhoi’r hawl i’r Catalanwyr ddewis eu dyfodol gan roi ateb terfynol i’r cwestiwn yma ynghylch annibyniaeth? Yn hytrach, mae gennym ganlyniad ansicr gydag ond 42% o’r etholwyr wedi pleidleisio yn y refferendwm. Ond edrych ar enghraifft Refferendwm yr Alban yn 2014 sydd angen er mwyn gweld enghraifft dda o Lywodraeth yn gwrando ar farn y bobl. Er nad oedd Llywodraeth Prydain yn dymuno gweld annibyniaeth i’r Alban, roeddent yn fodlon rhoi’r cyfle i’r Albanwyr ateb y cwestiwn hwnnw. Y llynedd, cafwyd y cyfle i bleidleisio ar ddyfodol aelodaeth y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd. Cawsom ni’r hawl i ddweud ein dweud, felly pam na chaiff y Catalanwyr yr hawl sylfaenol hynny hefyd?

Efallai mai pryder dros golli un o ardaloedd mwyaf cyfoethog Sbaen a’r effaith negyddol debygol ar economi’r wlad ydoedd. Neu a oedd y pryder yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Sbaen ac i mewn i Ewrop yn ehangach? Mae yna sawl rhanbarth arall yng ngwledydd Ewrop a fyddai, mae’n bosibl, yn dilyn Catalonia lawr y llwybr tuag at annibyniaeth pe byddai’r cyfle’n dod: Gwlad y Basg, yr Alban, Cymru hyd yn oed? Ond trwy geisio osgoi’r cynnydd mewn cefnogaeth i fudiadau annibyniaeth, mae Llywodraeth Sbaen, trwy eu hymateb llym, wedi annog rhagor o gefnogaeth i fudiadau cenedlaetholgar, yng Nghatalonia a thu hwnt. Rhyw wythnos yn ôl, bu rali yng nghanol Caerdydd i gefnogi sefyllfa Catalonia, digwyddiad a drefnwyd gan y mudiad Yes Cymru. Mae’r mudiad yma sydd o blaid annibyniaeth i Gymru yn un enghraifft yn unig o fudiadau tebyg ar draws Ewrop sydd wedi profi adfywiad yn sgìl ymateb Llywodraeth Sbaen i’r sefyllfa yng Nghatalonia.

Ymdebygai fod y sefyllfa yng Nghatalonia yn codi cwestiynau cysylltiedig i ni yma yng Nghymru. Rhoiff y sefyllfa’r cyfle i’r ymgyrch annibyniaeth yng Nghymru i gynyddu mewn momentwm. Efallai’n wir y gwelwn mwy o alw am ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru dros y blynyddoedd nesaf, wrth i’r posibilrwydd o annibyniaeth o’r Deyrnas Unedig gynyddu. Ond, yn wir, os oes yna un wers i’w dysgu o wleidyddiaeth yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf – does dim modd darogan yr hyn a ddaw. Pennod arall yn unig yn hanes Catalonia yw hyn, ond y tro hwn mae’r sefyllfa’n un hynod o fregus a fedrai gael effaith ddirfawr ar Gatalonia, Sbaen ac Ewrop. Efallai nad yw’r allwedd yn ffitio clo annibyniaeth i Gatalonia y tro yma, ond mae’n sicr yn guriad ar y drws. Mater o amser yw hi cyn y bydd y rhanbarth yn ennill ei rhyddid.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php