Tarddiad: Osian Morgan
Taf-Od

Pa wersi all Cymru ddysgu o Batagonia?

Gan Osian Morgan

Fis diwethaf, cefais y fraint o gael treulio mis o brofiad gwaith ym Mhatagonia, gan imi a phedwar o fy nghyd fyfyrwyr ennill ysgoloriaethau gan Ysgol y Gymraeg. Rhaid cyfaddef, syrthiais mewn cariad â’r lle yn syth. Mae’n lle gwbl unigryw ac anhygoel ac roedd hi’n fraint cael treulio mis yn cyd-fyw gyda’r trigolion yna, a dysgu mwy am y gymuned Gymraeg yno. Yn amlwg, nid yw’r gymuned Gymraeg cyn gryfed ym Mhatagonia ag y mae yng Nghymru, o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth gan y llywodraeth a’r niferoedd bach o siaradwyr sydd yno. Mewn gwirionedd, Archentwyr, nid Cymry, yw’r trigolion yno, a dydi’r Gymraeg ddim yn iaith naturiol i fwy na llond law o deuluoedd bellach. Er gwaethaf hyn, tra yr oeddwn yno, sylweddolais fod lawer o bethau y gallwn ni yng Nghymru ddysgu o’n cefndryd ar draws yr Iwerydd.

Un agwedd o fywyd yno a wnaeth sefyll allan imi fel rhywbeth y dylai ni’r Cymry anelu i efelychu, yw’r berthynas rhwng y Gymraeg, gyda’r iaith fwyafrifol yno, sef y Sbaeneg. Mae’r berthynas rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn bwnc llosg yng Nghymru, gyda siaradwyr o’r ddwy iaith yn brwydro i sicrhau mai eu hiaith nhw a ddaw i’r brig yn y gystadleuaeth barhaol rhwng dwy iaith swyddogol Cymru. Fodd bynnag, yn y Wladfa, mae’r ddwy iaith yn cyd-fyw yn braf. Gofynnais i gwpl o bobl os oedd unrhyw ‘gwrth-gymreictod’ yn bodoli yn y Wladfa, ac edrychodd pawb yn syn arnaf. (Yn amlwg mae polisi iaith siop gyfatebol ‘Sports Direct’ yr Ariannin ychydig yn fwy rhyddfrydol!) Mae’r di-gymraeg yno yn fwy na bodlon i adael i’r iaith fodoli yno, yn wahanol i Gymru, lle ceir ymosodiadau parhaol ar ein hiaith frodorol, ac mae rhaid i ni (yn llythrennol) gyfiawnhau ein hawl i fodoli.

I ychwanegu at hyn, yng Nghymru, mae yna gyd-destun gwleidyddol y tu ôl i bob penderfyniad ieithyddol, gydag wythnosau o drafod a dadlau yn hongian fel cwmwl uwchben bob penderfyniad. Yn wahanol i hyn, ym Mhatagonia, nid yw’r iaith yn cael ei ddefnyddio fel arf gwleidyddol, ond yn hytrach fel rhan annatod o amlddiwylliannedd y gymuned hybrid a fodola yno. Pan ofynnais i un athrawes pan yr oedd rhieni nad oedd ganddynt unrhyw dras Cymraeg yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg, dywedodd eu bod yn teimlo fod addysg ddwyieithog yn bwysig, a’u bod yn awyddus i’w plant ddysgu iaith arall, heb boeni’n ormodol pa iaith yn union yw honno. Cofiwch hynny y tro nesaf y mae rhywun uniaith Saesneg yn gofyn ‘why can’t we scrap Welsh and teach a more useful language like French or German in schools?’.

Un gwahaniaeth mawr, yw nid oes cymaint o boeni am yr iaith yno. Wrth gwrs, mae nifer o bobl yn ymdrechu’n ddiflino i sicrhau y caiff yr iaith ei chadw’n fyw yno (mae athrawon mewn ysgolion Cymraeg wedi gweithio yn ddi-dâl yno am gyfnod er mwyn sicrhau y gallent ddarparu addysg Gymraeg), ond yn gyffredinol, mae’r iaith yn rhywbeth i’w ddathlu a’i fwynhau yno. Yn wahanol i hyn, bob tro y caiff yr iaith ei godi fel testun trafod yng Nghymru mae fel petai’n ddiwedd y byd, gyda phob penderfyniad gan Senedd Cymru, a phob gair sy’n dod allan o geg Alun Davies fel petai’n arwydd o farwolaeth y Gymraeg. Yn wir, gellid dadlau fod gennym obsesiwn yng Nghymru o siarad am yr iaith, tra mae’r gymuned ym Mhatagonia yn canolbwyntio mwy ar siarad yn yr iaith.

Wrth gwrs, nid wyf yn awgrymu am eiliad na ddylwn boeni am ddyfodol ein hiaith yng Nghymru, a rhaid cyfaddef yr ydwyf i gymaint ag unrhyw un yn hoffi siarad am yr iaith a chwyno y pob tro y rwy’n gweld y Gymraeg yn colli tir i’r Saesneg. Fodd bynnag, roedd hi’n brofiad pleserus iawn cael treulio mis mewn cymuned lle roeddwn yn gallu canolbwyntio ar fwynhau siarad yr iaith, yn hytrach na digalonni bob tro roeddwn yn gweld arwydd uniaith Sbaeneg.

Roedd un gair yn cael ai ail-adrodd dro ar ôl tro yn fy mhen tra roeddwn yno – sef ‘pam?’. Pam ydy pobl dal yn siarad yr iaith yma? Pam yw rhieni yn talu am addysg Gymraeg i’w plant? Pam yw plant yn eu harddegau yn mynychu gwersi Cymraeg ar ôl ysgol? Pan fentrais ofyn iddynt pam yr oeddent yn parhau i ymwneud ag iaith sydd bellach yn lleiafrif yn ei gwlad ei hun, edrychodd lawer ohonynt yn syn arnaf, gan fy ateb gyda dau air syml: “Pam ddim?”

A dyma’r brif beth y gallwn ni’r Cymry (boed yn Gymraeg neu’n ddi-gymraeg) ddysgu o’r Archentwyr am ein hiaith ein hunain. Yn hytrach na’r holl wleidyddiaeth sydd yng nghlwm â’r iaith heddiw, a’r holl ddadlau sy’n mynd yn ôl a ‘mlaen, pam na allwn ni ddod ynghyd a chwestiynu pam na ddylwn ni wneud ymdrech difrifol i gadw’n iaith yn fyw. Pam ddim sicrhau fod addysg Gymraeg i bawb yng Nghymru?! Pam ddim gosod safonau ar y sector breifat?! Mae’r rhaid i ni ddechrau sylweddoli na fodola’r un rheswm teilwng dros beidio ag ymdrechu i sicrhau y bydd yr iaith yn un llewyrchus yng Nghymru, ac y bydd y gymuned yn un wirioneddol ddwyieithog – cyn iddi droi’n rhy hwyr!

Dwi wrth fy modd gyda’r gymuned Gymraeg yng Nghymru, ac rwyf yn ystyried fy hun yn lwcus i gael bod yn rhan ohono, ond ar ôl teithio dros 7,000 o filltiroedd o dir cynhenid yr iaith Gymraeg, ni allaf beidio â theimlo fod gennym lawer i ddysgu o agwedd yr Archentwyr tuag at yr iaith. Wrth gwrs, mae’r Gymraeg yn llawer mwy llewyrchus yng Nghymru, ac mae’r gymuned Gymraeg yma can gwaith yn fwy nag un y Wladfa. Fodd bynnag, os ddysgwn ambell wers o’r Archentwyr, a mabwysiadu agwedd fwy iach at ein hiaith, dwi’n ffyddiog y byddai’r Gymraeg yn gallu bod yn iaith llawer fwy llewyrchus, ac y byddai pob un sy’n galw ei hun yn Gymro neu’n Gymraes, yn gallu manteisio ar allu siarad iaith ddiwydiannol y byd, yn ogystal â mwynhau siarad iaith ddiwylliannol ein gwlad.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php