wylfa b pic
Taf-Od

Pam ‘na’ i ynni niwclear?

Wrth i’r fferi llawn o fyfyrwyr blinedig trip y Gym Gym i Ddulyn hwylio i mewn i borthladd Caergybi ddiwedd y penwythnos diwethaf, pasiodd o fewn tafliad carreg i ganolbwynt dadl hir yng Nghymru ar hyn o bryd – gorsaf ynni niwclear Wylfa. Wrth i oes yr orsaf sydd yno ar hyn o bryd, Wylfa A, ddod i ben, mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu gorsaf newydd, Wylfa B, ar safle gerllaw. Gyda diweithdra yn broblem gynyddol ar Ynys Môn ac ymgyrchwyr newid hinsawdd yn pledio am lai o ddibyniaeth ar ynni an-adnewyddadwy, mae’n ymddangos bod adeiladu gorsaf newydd yn gyfle rhy dda i’w golli. Ond gofid rhai yw effaith y datblygiad newydd ar yr iaith Gymraeg ac ar yr amgylchedd, dadl sydd wedi codi ei phen unwaith eto yn ddiweddar.

Hwb yr ymgyrch diweddaraf yn erbyn Wylfa B yw ‘brwydr Caerdegog’ – lle mae’n ymddangos i gwmni datblygu’r orsaf newydd geisio gorfodi teulu fferm Caerdegog, ger y safle adeiladu, i werthu eu tir iddynt. Yn amlwg, ni ddylai cwmni rhyngwladol mewn sefyllfa Dafydd a Goliath allu sathru dros fywoliaeth unigolyn sydd heb arfau i’w amddiffyn – a dylai teulu Caerdegog gael pob cefnogaeth posib dros eu hachos. Ond rydw i’n cwestiynu honiad pellach rhai o’r ymgyrchwyr hyn – mai bygythiad i Ynys Môn a’i chymunedau Cymraeg fyddai Wylfa B – gyda mewnlifiad enfawr am ei difa. Gyda Alwminiwm Môn, un o gyflogwyr mwyaf Gogledd Cymru wedi gorfod cau yn 2009 oherwydd diddymu Wylfa A, mae diweithdra yn fwy o broblem nag erioed – ac mae’n ddigon tebyg mai gadael i chwilio am swyddi wna ieuenctid yr Ynys os na ddaw cyflogwr mawr arall yn fuan. Hyd yn oed os y daw nifer o weithwyr o bell yn ystod adeiladu gorsaf bwer newydd, byddai cyfle i gymunedau fyw yn hytrach na’u gweld yn marw ar eu traed oherwydd all-lifiad y Cymry Cymraeg.

Mae hefyd yn amlwg bod ofn yn parhau i amgylchynu ynni niwclear ers trychineb Chernobyl chwarter canrif yn ôl. Yn sicr, gyda’r drychineb niwclear waethaf ers hynny, Fukushima, yn Japan y llynedd, nid yw ei achos yn cael ei helpu. Ond mae’n rhaid edrych yn fanylach ar y gwahaniaethau rhwng y ddwy drychineb cyn i ormodedd o ofn ynghylch ynni niwclear gael ei aildanio. Er fod y ddwy ar y lefel uchaf ar y raddfa o ddifrifoldeb digwyddiadau niwclear, ni fu unrhyw farwolaethau oherwydd trychineb Fukushima. Yn ychwanegol, ond 10% o’r ymbelydredd a allyrrwyd yn Chernobyl a allyrrwyd yn Fukushima. Wedi Chernobyl yn bennaf mae safonau diogelwch a thechnoleg wedi datblygu, a byddai hyn cael ei adlewyrchu wrth adeiladu gorsafoedd newydd. Derbyniodd llywodraeth Japan fod nifer o broblemau rheoleiddio ar y diwydiant, a all fod wedi arwain at y drychineb yn Fukushima. Mae gwersi yn parhau i gael eu dysgu, ond ers Chernobyl mae’r diwydiant wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Yn fwy na dim mae buddion defnyddio ynni niwclear yn hytrach na ffynhonellau eraill i’w gweld yn glir. Fydd dim dewis ond troi cefn ar egni an-adnewyddadwy yn fuan, ac os ydym am barhau i fod yn ddibynnol iawn ar drydan, bydd yn rhaid cael golwg dda ar ddulliau eraill o’i greu. Bydd ynni gwynt, solar a llanw yn ffurfio rhan o’r llun yn sicr, a byddai’n wych gallu gweld y rhain yn llenwi’r llun – ond mae eu cyfyngiadau, yn enwedig yng Nghymru, yn golygu mai proses anodd iawn fyddai gwneud hynny. Y broblem amlwg â ynni solar yw fod angen digon o haul, digon hawdd i’w wneud yn effeithlon ym Mhortiwgal ond nid cymaint yng Nghymru! Mae’n ymddangos fod ynni gwynt yn ddewis gwell yng Nghymru, felly – ar hyn o bryd mae cynlluniau (â chryn wrthwynebiad) i’w cael yng nghanolbarth Cymru i adeiladu fferm wynt eang Nant y Moch. Ond, tua 150 MW o bwêr yn unig y gwna datblygiad o’r fath ei greu, llai na 5% o’r pwer y gall Wylfa B ei greu. Gall syniad uchelgeisiol harnesu grym y llanw yn Aber yr afon Hafren greu allbwn pwer uchel, ond iddo gael ei wireddu â technoleg digon blaengar.

Rhaid derbyn fod gan ddefnyddio ynni niwclear ei broblemau – mae’n hynod gostus, ac oes byr i gymharu â’r amser mae’n gymryd i gomisiynu a dadgomisiynu gorsafoedd niwclear, a chrafu pen yn parhau ar beth i’w wneud â gwastraff niwclear. Mae’n rhaid, fodd bynnag, cael golwg fanwl ar fesurau diogelwch ynghylch gorsafoedd niwclear cyn eu diystyru fel modd effeithlon iawn o gynhyrchu trydan. Ymhellach, yng Nghymru, mae’n rhaid cael golwg fanwl ar effeithiau cymdeithasol ac economaidd datblygu gorsafoedd o’r fath, yn enwedig os yw’r iaith Gymraeg yn rhan o’r cwestiwn, fel sydd i’w gael â Wylfa B. Ond o’r hyn a welaf i, pam ‘na’ i ynni niwclear?

Gerallt Rhys Roberts

4 Comments

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

  • A welaist di rhain ar You Tube. Teulu Caerdegog ac Angharad Tomos yn huawdl iawn ar y pwnc mewn protest yn Llangefni. http://www.youtube.com/watch?v=xF5ItE_oaOM , http://www.youtube.com/watch?v=AjyOfyIFgTQ .

    Gwerthfawrogi’r ymdrech i geisio fod yn gytbwys ond mae rhethreg y cwestiwn yn wallus. ‘Pam ie?’ ydi’r cwestiwn am beth fydd yn safle adeiladu mwyaf Ewrop.
    Yr unig gall fod i Fôn yw swyddi. Swyddi i bwy? Amcangyfrifir fod tua 800 ym Môn angen swyddi ac nid peirianwyr mo’r mwyafrif felly 5,000-10,000 o swyddi i adeiladwyr a pheirianwyr o Ewrop. Bydd canran fechan yn Gymry a byddant yn prynu cartref ac yn cynnal teulu am genhedlaeth. Ond nid y di-waith fydd y mwyafrif o’r Cymry yma, yn hytrach y goreuon o’n gweithlu a’n mentrau lleol – llyncfa medrau o’r burum dynol a fyddai fel arall yn cyfrannu at hybu’r economi wledig gan greu swyddi i’r ifanc a’r rhai heb sgiliau arbenigol. Fe fydd y mwyafrif o’r rhain yn parhau ar y clwt. A beth am gartrefi i’r Cymry di-waith yma? Bydd y newydd-ddyfodiaid wedi eu prisio allan o’u cartrefi cyntaf gan y gw^yr pawb y bydd galw mawr am dai. Ac ymhle yn union mae gwragedd, gwyr a phlant y gweithwyr a mewnforiwyd am weithio. Cynnig mwy o gystadleuaeth i’r rhai sydd ar y clwt eisoes byddant.
    Felly swyddi i staff presennol Wylfa – gan gofio y bydd gwaith i’r mwyafrif yn parhau beth bynnag wrth ddatgomisiynu, swyddi i rai peirianwyr ac adeiladwyr, a phwy?… y cynghorwyr a’r gwleidyddion. Cawn ffieiddio at y ‘bonus for failure culture’ yn y banciau ond rhyfeddach fyth yw gweld cynghorwyr Môn yn cael cadw eu swyddi am flwyddyn arall am aneffeithiolrwydd. Yna mae’r Aelod Seneddol yn hapus i’r Gweinidog Ynni gyhoeddi yn y senedd fod Horizon wedi prynu’r holl dir sydd ei angen ar gyfer adeiladu atomfa Wylfa B, heb herio ar ran ei etholwyr pam fod Horizon yn dal i roi pwysau ar deulu Caerdegog am dir nad ydynt ei angen ar gyfer yr atomfa. Yna mae Aelod y Cynulliad yn berffaith agored ei fod yn cefnogi’r achos er mwyn cadw’r swydd iddo ef neu ei blaid. A phob bendith i bawb sydd yn ceisio cynnal teulu gyda swyddi ynghlwm a dyfodol Wylfa B ond peidied neb a lleddfu ei gydwybod wrth honni fod hyn yn llesol i economi Môn yn yr hirdymor. Yr union rheswm ein bod mor hawdd i’n prynu yw oherwydd yr or-ddibyniaeth ar gyflogwyr mawr yn y gorffennol. Fe fyddwn yn yr un twll ar ddiwedd Wylfa B gyda’r broblem ychwanegol mai Cymru a Môn fydd yn gyfrifol am y gwastraff gwnwynig fydd yn ei thir am o leiaf 160 o flynyddoedd. O ddifri calon pa ffw^l sy’n credu y bydd partneriaeth rhwng EON ag RWE, Horizon, yn dal i fodoli yr adeg hynny? Mae problemau atebolrwydd y ‘breast implant seepage’ yn ymddangos yn bitw iawn wrth gymharu â’r hunllef a ddaw o’r ‘nuclear waste implant seepage’ fydd yn ein tir. A phwy sy’n gorfod sybsideiddio yswiriant yr atomfeydd yn erbyn damweiniau difrifol, er mwyn i’r buddsoddwyr wneud elw? Y llywodraeth, ac felly ni sy’n talu’r gost am wneud ynni niwclear yn ‘rhad’ ac yn broffidiol i’r sector breifat.

    Pam ie? I Fôn yn gyffredinol – nid yw’r manteision swyddi yn gorbwyso’r anfanteision economaidd hirdymor – felly ni ddylid dilyn y trywydd unllygeidiog yma fydd yn arwain at stasis parhaus yn economi Môn. Ond yn anffodus ei ddilyn y mae nifer.

    Felly pam na?
    • Dadl Angharad Tomos: Ysgol Cemaes, data’n dangos dim ond 4% yn siarad Cymraeg, lladd yr iaith oedd effaith Wylfa. Felly Wylfa B – y farwol i’r Gymraeg wrth borthi i’r 5000 a mwy o weithwyr a’u teuluoedd.

    • Mae gennym ddau sector cryf ym Môn, Amaeth a Thwristiaeth, Mae bodolaeth atomfa newydd a all arwain at ddamwain catastroffig am gael effaith andwyol ar y rhain. Ni does rhaid wrth ddamwain ddramatig bob tro, mae un fechan am fod yn ddigon i greu amheuaeth am draethau, tatws a llefrith Môn.

    • Teulu Caerdegog – mae’r achos yma’n dangos sut mae’r cwmni’n bwriadu cynnal ei busnes a pha mor wasaidd mae’r swyddogion a’r gwleidyddion am fod yn amddiffyn ein buddiannau fel unigolion mewn gwrthdrawiad a’r Goliath. Mae eisoes hinsawdd o deyrn llywodraeth economaidd ym Môn, ble anghofir cyfrifoldeb moesol i amddiffyn un o’n plith er mwyn osgoi digio’r meistr newydd yn ei glamp-dy ar y tywod. Pwy ddaw i amddiffyn y ffermwr nesaf fydd yn cael ei orfodi i dderbyn peilon neu i werthu darn o’i dir i greu lon? Mae’r Cymry yn dangos hen wendidau wrth syrthio i’r fagl o ymgiprys yn fewnol wrth i’r grym allanol lwyddo gwahanu’r criw ymarferol materol oddi wrth y cenedlaetholwyr egwyddorol. Rhannu a rheoli. Daw’r achos yma yn symbol o gywilydd i ni mewn cenedlaethau i ddod. Wnes di gefnogi teulu Caerdegog taid?

    • Mae’r ifanc wedi gadael Môn erioed: fel morwyr, milwyr, chwarelwyr, glowyr, athrawon, meddygon, llenorion, actorion a hyd yn oed fel y criw cyfredol acw yng Nghaerdydd. Ond erys tynfa gryf i nifer i ddychwelyd i Fôn rhywbryd. Yn eironig, yn aml rhaid gadael cyn haeddu’r clod o fod yn un o wlad y Medra. Ag eto parhau mae’r duedd i ddychwelyd i fagu teuluoedd ifanc ar yr ynys. Y fro Gymraeg a’r amgylchedd hardd sy’n eu denu yn ôl. Ysgolion di-Gymraeg? Damwain niwclear yn Wylfa B? Ni ddaw ein halltudion medrus yn ôl.

    Diolch am godi’r drafodaeth. Mae’n ofid enfawr i’r rhai sy’n agosach i’r atomfa na Chaerdydd. Gan barchu’r ffaith fod yna rai o wlad y Medra’n ysu am ddychwelyd i weithio hyd yn oed mewn atomfa – pob lwc a bendith – mae hefyd yn ddyletswydd moesol i gynnal teulu. Ond peidied neb awgrymu mai er ein lles ni, y gweddill, y byddant yn gwneud hynny.

    • Dwi’n falch fod yr erthygl wedi cyflawni o leia un o’i bwriadau, sef codi trafodaeth!
      Croeso i ti sgwennu ymateb yn Taf-od (cyn belled â dy fod yn fyfyriwr yn Nghaerdydd!)

      Osian

css.php