Tarddiad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Taf-Od

Paul Davies AC: “Mae bob amser gwersi i ddysgu gan bleidiau gwleidyddol”

Gan Tomos Evans

Yn ddiweddar, cefais y cyfle i sgwrsio gyda’r Aelod Cynulliad dros etholaeth Preseli Penfro , dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a’r unig Aelod Cynulliad heb gyfrif Trydar na Facebook, Paul Davies, ar gyfer rhaglen Gwylio Gwleidyddiaeth ar Xpress Radio.

Wrth i mi gyrraedd y Cynulliad, medraf deimlo llwmder digwyddiadau’r dyddiau diwethaf fel cwmwl dros y sefydliad. Gofynnaf i Mr Davies sut ddyn oedd Carl Sargeant a gallaf glywed yr hoffter yn ei lais wrth iddo ddisgrifio ei “ffrind” fel “dyn hynod o garedig…hynod o gynnes” gan estyn eu ddymuniadau gorau at y teulu ar yr adeg anodd hyn.

Diddorol oedd clywed am ei daith tuag at yrfa yn y byd gwleidydd o’i wreiddiau yn fab fferm ym mhentref o’r enw Pontsian yng Ngheredigion. Ei dad, a oedd yn ymwneud â’r Blaid Gwleidyddol yn ei ardal leol, wnaeth ei ysbrydoli i ddod yn wleidydd. Ei brif gredoau gwleidyddol yw rhyddid yr unigolyn, cyfle a dewis sydd, yn ei dyb ef, yn werthoedd a gaiff eu cynrychioli gan y Blaid Geidwadol. Ei nôd fel Aelod Cynulliad yw ceisio gwella bywydau’r bobl y mae’n eu cynrychioli am y gorau.

Llwyr gefnogol o Theresa May ac Andrew R.T. Davies yw Mr Davies gan ragweld y byddai Theresa May yn aros fel Prif Weinidog am y blynyddoedd i ddod gan ddisgrifio’r dewis rhyngddi hi a Jeremy Corbyn fel un “erchyll”. Ei gred ydy pe fyddai yna etholiad yn cael ei galw ar fyr rybudd cyn 2022, er nad yw’n tybio y bydd hynny’n digwydd am eiliad, y byddai Theresa May yn ennill. “Mae bob amser gwersi i ddysgu gan bleidiau gwleidyddol” yw’r hyn y dyweda Mr Davies wrthof pan y gofynnaf iddo pe bai yna gwersi i’w dysgu wrth Jeremy Corbyn o ran apelio at bobl ifainc. Ond mae’n nodi y cafodd y Blaid Geidwadol fwy o bleidleisiau yn yr etholiad eleni nag yn yr etholiad flaenorol, er iddo gydnabod fod y Blaid Lafur hefyd wedi cynyddu eu pleidlais. Cydnabydda Mr Davies hefyd fod angen i’r blaid “wrando ar bobl ifainc” a chysylltu â hwy, gan ddisgrifio’r dasg o gyflwyno polisïau sy’n berthnasol iddynt fel demograffig fel “her”.

O ran y modd y delir gyda’r honiadau o aflonyddu rhywiol mewn gwleidyddiaeth, dywedodd Mr Davies ei bod hi’n “bwysig” fod y pleidiau i gyd yn cydweithio er mwyn delio â’r honiadau yma mewn modd priodol. Pwysig hefyd yw hi, yn ôl Mr Davies, i ymgynghori gyda Chomisynydd Safonau y Cynulliad yn fwy er mwyn medru cyfeirio unrhyw gwynion ato. “Dwi’n credu fod ‘na gwestiynau…gan y Prif Weinidog i ateb” oedd ymateb Mr Davies pan ofynnais iddo am ei farn ar y ffordd yr ymatebodd Carwyn Jones i gwestiwn gan yr Aelod Cynulliad Darren Millar nôl yn 2014 am y traddodiad honedig o fwlian o fewn Llywodraeth Cymru. Cyfeiria Mr Davies at sylwadau y cyn-weinidog Leighton Andrews sy’n dweud fod yna honiadau o fwlian wedi dod i’r amlwg ar yr adeg hynny, er nad yw Mr Davies ei hun wedi gweld unrhyw enghreifftiau o fwlian ers iddo ymuno â’r Cynulliad.

Dyweda Mr Davies ei fod yn “siomedig iawn” gyda beth sydd wedi digwydd yng Nghatalonia a Sbaen gan ychwanegu mai beth ddylai fod wedi digwydd oedd fod Sbaen a Chatalonia wedi “eistedd lawr o amgylch y bwrdd” i drafod y mater hyn. Cyfeiria Mr Davies at y Refferendwm ar Annibyniaeth yn yr Alban yn 2014 fel enghraifft o lywodrethau’n trafod ac yn cyfaddawdu ar sefyllfa o’r fath gan ddweud mai dyma beth ddylai fod wedi digwydd yn Sbaen.

Cofiwch wrando ar raglen Gwylio Gwleidyddiaeth ar Xpress Radio, bob nos Iau rhwng 6 a 7.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php