Gan Cerian Rees | Cyfrannwr Taf-od
Gyda’r haf ar ‘bikini season’ yn prysur agosáu, mae cyrraedd ryw ‘safon’ penodol o sut rydych chi’n edrych ar feddyliau nifer o bobl ifanc. Er y flwyddyn hynod anodd a gwahanol rydym wedi cael, i raddau rhoddodd y cyfnod clo rhyw ‘reality check’ oedd wir angen arna’i. Un o’r pethau daeth i’m sylw yn syth ar ddechrau’r cyfnod clo oedd bod rhaid imi newid fy ffordd o fyw, yn enwedig fy mherthynas â bwyd, ymarfer corff a’m hiechyd meddwl. Ar ôl blwyddyn o ganolbwyntio ar fy hun, rwyf bellach yn agosáu at golli pedwar stôn!
Ym Mawrth 2020, gyda phopeth yn cau a chyfnod hir o neud dim byd o’m blaenau, deallais na fyddwn i’n cael yr amser hwn yn ôl, felly roedd hi’n amser perffaith mewn ffordd i ddechrau colli pwysau. Mae llawer o bobl yn gofyn imi ‘Beth oedd y trobwynt?’ neu ‘A oedd ‘na moment nes di sylweddoli bod ti eisiau colli pwysau?’ a’r ateb yw na! Ond ar ôl cyfnod o ddechrau diet newydd pob cwpwl o fisoedd, dioddef â gor-bryder a hunanhyder isel yn ystod fy arddegau, penderfynais fod yn rhaid imi weithio ar fy iechyd meddwl yn ogystal â’m hiechyd corfforol er mwyn profi newid. Roedd yr holl ‘comfort eating’ bues i’n ei wneud yn sgil fy ngor-bryder a’m hunan hyder wedi fy arwain at fy mhwysau uchaf erbyn diwedd 2019…felly roedd rhaid gwneud rhywbeth.
Felly dyna beth ddigwyddodd. Dechreuais fy nhaith drwy wneud 10 munud o ‘HIIT training’ bob dydd yn ogystal â cherdded o leiaf 10,000 cam y dydd. O ran bwyd, doeddwn i ddim yn bwyta diet gwael cyn dechrau ar fy nhaith , ond yn fy mhrofiad i roedd adeiladu perthynas iach gyda bwyd yn bwysig, felly dechreuais drwy gyfri calorïau, gan wneud yn siŵr fod ei fod yn gynaliadwy. Un darn o gyngor byddwn i’n ei roi i eraill o ran bwyd, yw peidio â chael gwared â’ch hoff fwyd, ond parhau i’w cael mewn symiau cymedrol. Mae’n hollol iawn i gael ychydig o bopeth pob hyn a hyn, mae’n fwy realistig a chynaliadwy. Mae’n anodd heddiw gyda thechnoleg, y we a chymaint o ddeiets a chynlluniau yn cynghori’n wahanol, ond mae’n bwysig i wneud yr hyn sy’n gweithio ichi gan beidio â chymharu eich hun a theithiau eraill. Peidiwch ychwaith feddwl am eich ffordd o fwyta fel bod ‘ar ddiet’, mae ei weld fel ffordd o fyw yn feddylfryd gwell, ac yn eich galluogi i gael y cydbwysedd sydd angen arnoch mewn bywyd.
Ers colli pwysau, rwy’n teimlo’r iachaf rwyf erioed wedi bod! Mae addysgu’ch hun ar fwyd ac ymarfer corff yn rhoi gymaint o hwb i unigolyn. Mae cerdded lan y grisiau yn haws, mae rhedeg yn dechrau dod yn rhywbeth rwy’n mwynhau, ac mae’r teimlad ar ôl gorffen ‘workout’ anodd yn well deimlad na mae cael pitsa yn ei wneud (ond cofiwch, popeth yn gymedrol). Roeddwn i wastad yn meddwl ‘pan fyddai’n colli pwysau fyddai’n hapus’, ond nid yw hyn yn wir i bob ystyr. Mae colli dros 3 stôn a hanner wir wedi cael effaith ar fy hapusrwydd, ond mae hefyd wedi gwneud i mi sylweddoli taw dim ond chi’ch hun sy’n poeni am eich edrychiad! Mae eich teulu a’ch ffrindiau yn eich caru chi am chi, ac nid y ffordd rydych yn edrych. Felly, fy mhrif awgrymiadau yw:Byddwch yn bositif am eich corff cyn cychwyn, mae’n rhaid iddo fod yn brofiad bositif neu fyddwch chi ddim yn parhau gyda’ch taith.
1) Gwnewch ymarfer corff! Unrhyw beth rydych chi’n ei fwynhau.
2) Mae diet cynaliadwy imi yn golygu fod yn 80% iach ac yna gyda’r 20% arall rwy’n gadael fy hun i fwynhau unrhyw fwydydd eraill.
3) Ac yn olaf, yfwch ddigon o ddŵr.
Heb os, mae colli pwysau yn ‘roller coaster of emotions’ i ddweud y lleiaf, ond o’m mhrofiad personol, rwy’n falch iawn fy mod wedi dechrau ar fy nhaith. Er mae gwario arian ar wardrob newydd wedi bod yn boen…ond pwy sydd ddim yn hoffi esgus da i siopa?
Add Comment