Gan Nel Richards | Golygydd Taf-od
Profiad Nel wrth geisio dianc i’r byd di-blastig.
A yw’n rhy hwyr i ni ddad-wneud y niwed?
Es i ati i geisio torri plastig allan o fy mywyd, yn gyfangwbl, am bythefnos.
Ers y 1950au, mae tua 8.3 biliwn tunell o blastig wedi eu cynhyrchu ledled y byd – a dim ond 9% ohono sy’n cael ei ailgylchu.
Eisoes, rwy’n barod yn defnyddio trugareddau ail-ddefnyddiadwy er mwyn lleihau ar blastig – megis potel ddŵr metel, bag defnydd i fynd i siopa, brwsh dannedd bambŵ, past dannedd mewn pot gwydr, a deunydd golchi, megis cotton padsmae modd eu golchi, barau o sebon ar gyfer y corff a’r gwallt. Mae’r holl bethau hyn ar gael mewn siopau ym mhob man.
Mae’r diwydiant bwyd yn ffactor enfawr sy’n ychwanegu pwysau ar stâd naturiol y byd. Wrth gerdded o Lidl, a Tesco draw i Aldi a nol i Asda – archfarchnadoedd amlwg ein trefi, anodd iawn oedd dewis bwydydd oedd mewn pecynnau di-blastig.
Mae Marchnad Caerdydd yn le perffaith ar gyfer bwydydd ffres ac iach a chefnogi busnesau bach lleol, sydd angen ein cefnogaethyn y cyfnod anodd yma. Yn ystod y pythefnos llenwais fy magiau papur â thomatos, tatws a thanjerins. Roedd digon o amrywiaeth o fwydydd gwahanol ar gael. Es i a llond dwrn o fagiau papur yr oeddwn yn gallu eu hailddefnyddio gyda mi i’r archfarchnadoedd yn ogystal, a llenwi’r bagiau gyda ffrwythau a llysiau ffres.
Es i’r Deli i gasglu nwyddau, megis caws a’r Becws i brynu bara. Roeddent ychydig yn ddrutach, ond rhaid talu’r pris am newid brys.
A yw troi’n ddi-blastig yn ormod o her?
Fel myfyrwraig, roedd llawer o bryderon gyda mi ynglŷn ag ochr ariannol yr arbrawf yma: o brynu nwyddau megis bag defnydd, potel ddŵr, lle rydw’n eu hailddefnyddio, mae’r arbedion ariannol yn amlwg yn amlwg yn yr hirdymor. Yr un modd, mae’r bwyd organig yn iachach, ac yn gymorth i’r amgylchedd.
Mae siopau ddi-wastraff yn caniatáu i gwsmeriaid ddod â’u cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio eu hunain a’u llenwi eu hunain, gan arbed ar yr angen am becynnu newyddau – sydd naill ai’n cael ei daflu, neu y mae’n rhaid ei hailgylchu (gan gostio ynni ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar gyfer rhywbeth mwy pwysig na chyfleustra).
Manteisiais ar siopau diwastraff lleol Caerdydd: Ripple yn ardal y Rhath, a Viva Organic ym Mhontcanna. Agorwyd y ddwy siop yn 2018 , ceir amrywiaeth o nwyddau i’r cartref, harddwch, dillad a bwydydd, mewn pecynnau di-blastig, neu heb becynnau o gwbl.
Mi fyddaf yn sicr yn torri i lawr ar fy nefnydd o blastig, gan ganolbwyntio ar y nwyddau angenrheidiol a sicrhau nad oeddwn yn gwastraffu. Yn bendant, roeddwn yn fodlon wrth fyw ar lai.
Add Comment