Pryd o Daf-od: Gan Annell Dyfri
‘Mae hi yr un mor lliwgar o dan y dŵr ac ydyw uwchben’. Cofiaf yn dda y sylwadau hynny gan aelod o’r teulu tra’n deifio a snorclo yn y môr oddi ar ynys fechan yn y Caribi rai blynyddoedd yn ôl. Y darlun ystrydebol hwnnw sydd wedi meddiannu’r meddwl wrth ystyried bywyd o dan y don ers ein bod yn blant bach. Y bywyd rhamantus, y bywyd hudol llawn pysgod amryliw a phlanhigion lliwgar. Ond mae’r darlun traddodiadol hwnnw’n prysur ddiflannu wrth inni droi’n golygon i’r hyn sydd wirioneddol yn byw a bod o dan y dŵr.
Riffiau cwrel yw’r ecosystemau morwrol mwyaf amrywiol ar y ddaear ac maent yn gweithredu fel cartref i lwyth o anifeiliaid a rhywogaethau. Hebddynt byddai’r ecosystemau yn dadelfennu gan beryglu bodolaeth dwsinau lawer o anifeiliaid gan arwain, yn y pen draw, at ddiflaniad rhywogaethau amrywiol. Am byth.
Pwy sydd ar fai?
Gyda llygaid y byd ar gynhadledd COP26 yn Glasgow ar hyn o bryd, effaith newid hinsawdd sydd wrth wraidd y dinistr eang sy’n digwydd yn ein moroedd led-led y byd. Mae hyn yn digwydd law yn llaw â llygredd di-ben-draw, gor-bysgota a chynnydd yn lefel a thymheredd y môr. Mae’r cyfan yn cyfuno i dagu bywyd o dan y don. A’r hyn sy’n gyffredin i’r prosesau hyn i gyd? Wel, y sawl sy’n gyfrifol amdanynt, wrth gwrs. Ni! Chi a fi!
Y sawl sy’n byw ar y blaned. Y sawl sydd wedi meddiannu ei thiroedd a’i moroedd. Ni. Pob un ohonom ni. Ni sy’n dinistrio’r blaned. Ni sy’n gyfrifol bod y cwreli’n diflannu o flaen ein llygaid. Yn ddyddiol. Os na newidiwn ein ffordd o fyw bydd yr ecosystemau hyn wedi llwyr ddiflannu ymhen rhai blynyddoedd. Ac wrth ddiflannu, fydd dim modd eu hadfer. Byth.
Ymchwil
Fel arfer, gall gwaith ymchwil ein helpu i ddatrys sefyllfaoedd heriol fel hyn. Ond, yn yr achos hwn, does dim digon o ymchwil wedi digwydd hyd yn hyn a all gynnig ffyrdd posibl o wrthdroi’r difrod a wnaed i’r cwreli led-led y byd. Teg nodi ein bod wedi aros i’r difrod ddigwydd o flaen ein llygaid, gan arwain at ddiflaniad rhywogaethau – yn bysgod, planhigion a chwrel – cyn i ni ystyried gweithredu.
Fel ymateb i’r difrod, mae gwyddonwyr wedi mynd ati i geisio ail-greu modelau o’r cwrel mewn labordai ac yna eu trosglwyddo o dan y dŵr i weld os byddent yn cael effaith gadarnhaol ar yr ecosystem. Er bod rhai achosion wedi bod yn llwyddiannus, mae cryn dipyn o waith i ddigwydd eto er mwyn sicrhau adfywiad ar raddfa eang.
Beth y gallwn ni wneud?
Fel un sydd wedi bod yn ddigon ffodus o snorclo mewn sawl cefnfor, mae’r sefyllfa yn un sy’n fy mhryderu’n fawr. Rwyf innau wedi cael y fraint o gydnofio â physgod o bob siâp a maint yn eu cynefin a’m dymuniad fyddai i genedlaethau’r dyfodol gael yr un wefr ymhen blynyddoedd eto. Ond, er mwyn i hynny ddigwydd, bydd angen i’m cenhedlaeth innau newid ei ffordd o fyw a newid ei hagwedd at ei hamgylchfyd. Bydd angen i ni gyd fod yn llawer mwy gofalus wrth i ni fwynhau rhyfeddodau’r môr gan sicrhau bod yr eli haul a ddefnyddiwn yn un sy’n garedig i’r amgylchedd a’n bod yn ailgylchu’n bwrpasol a thaflu sbwriel i’r biniau priodol. Ac, yn bennaf oll, mae angen ein haddysgu ni i gyd am yr hyn sydd o dan fygythiad a’r ffaith y gall y byd rhyfeddol hwnnw o dan y don ddiflannu o flaen ein llygaid yn sgil ein difaterwch a’n diofalwch ni. Rwy’n mawr obeithio y bydd y gynhadledd sy’n digwydd yn Glasgow ar hyn o bryd yn fan cychwyn ar y broses honno.
Add Comment