Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Mae’r cynnydd yn niferoedd y tai haf ac ail dai yng Nghymru ac ardaloedd eraill o’r DU wedi achosi pryder i nifer dros hyd a lled y wlad wrth i’r farchnad tai droi’n gystadleuaeth gyflog. Yn sgil y pandemig a’r cynnydd ym mhrisiau tai yn ddiweddar, golyga ei bod hi bron yn amhosib i’r genhedlaeth ifanc neu’r rheiny sydd yn ennill cyflogau is gallu fforddio prynu tŷ yn eu cymunedau genedigol. Yn ôl Stats Cymru Gwynedd yw’r Sir gyda’r nifer fwyaf o ail dai yng Nghymru (8.15%) gyda Sir Benfro yn ail (6.45%) ac Ynys Môn yn drydydd ar y rhestr (6.11%.) Golyga hyn felly bod 1 o bob 10 tŷ ar draws y tair sir yma yn ail gartref. Dengys ffigyrau bod prisiau 95% o dai ar draws Cymru gyfan yn uwch na lefelau lwfans tai lleol sydd sy’n golygu eu bod yn anfforddiadwy i’r rhai sy’n derbyn credyd cynhwysol.
Yr ymgyrchu
Cafodd y rali yn y brifddinas ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith – “Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.” Bwriad y rali oedd sicrhau gweithredu brys gan Lywodraeth Cymru i daclo’r problemau anghyfiawnder tai sydd yn wynebu pobl Cymru a thrwy hyn sicrhau cartref i bobl y wlad er mwyn i gymunedau Cymraeg allu ffynnu ledled Cymru.
Cafodd y gynulleidfa o dros fil o bobl eu hannerch gan Rhys Tudur o’r ymgyrch Hawl i Fyw Adra, Ali Yassine, a Chadeirydd Cymdeithas yr Iaith- Mabli Siriol Jones. Roedd yr ymgyrchwyr yn galw am Ddeddf Eiddo fydd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, yn cynnwys:
“Rheoli prisiau tai a rhent a newid y diffiniad o dŷ fforddiadwy; Rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad; Dod â thai gwag ac ail dai i mewn i ddwylo cyhoeddus; Gosod cap ar nifer yr ail dai a llety gwyliau mewn unrhyw gymuned; A democrateiddio’r system gynllunio.”
Mynychodd Gwion Llwyd, Cadeirydd Plaid Ifanc Caerdydd, y rali gyda’i ffrindiau er mwyn codi ymwybyddiaeth dros y sefyllfa “annheg” sydd yn eu gwynebu fel pobl ifanc yng Nghymru. Dywedodd Gwion ei fod yn pryderu am y dyfodol “gan fy mod yn ansicr os gaf i’r un cyfleoedd a fy rhieni, a’u rhieni nhw i brynu tŷ, nid yn unig yn fy nghymuned leol, ond yng Nghymru o gwbl.” Yn ôl y myfyriwr “y cam nesaf buasai i Lywodraeth Cymru gyfarfod gydag aelodau o’r mudiad sydd yn cefnogi deddfwriaethau llymach ar ail dai/tai haf, er mwyn cyd-weithio i ddatrys yr argyfwng hwn.” Awgryma Gwion y bydd modd cyflwyno “trethi uwch ar ail dai, neu wahardd tai newydd gael eu defnyddio fel ail dai” er mwyn sicrhau tegwch i bobl leol Cymru.
Add Comment