Tarddiad: Megan Lewis, Gohebydd Golwg360
Taf-Od

Tafluniad ‘Terasau’ ar dŵr ‘Big Ben’

Gan Gwen Goodridge

Eleni, mae Sul y Cofio yn achlysur mwy teimladwy na’r arfer gan ei bod yn nodi canmlwyddiant ers un o frwydron mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf, Brwydr y Somme. I gofio eleni, fe dafluniwyd cerddi holl Brifeirdd y Deyrnas Unedig ymysg darlun o’r pabi coch ar dŵr Elizabeth yn Llundain. Cynrychiolydd y Cymry oedd y prifardd Ifor ap Glyn a’i gerdd ‘Terasau’, a gafodd ei anrhydeddu wrth ochr y gerdd ‘Dulce et decorum est’, gwaith nodedig Wilfred Owen. Dangoswyd y gerdd yn ddwyieithog ar ochr yr adeilad adnabyddus.

Mewn cyfweliad i drafod y coffa, dwedodd Ifor ap Glyn ei ysbrydoliaeth ar gyfer y gerdd oedd ei ymweliad diweddar i fynwentydd ger tir y Somme. Dwedodd wrth y cyfwelydd mai pwrpas y gerdd oedd adnabod trymder colled milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yr amhosibilrwydd i ni nabod pob un milwr a fu’n gorwedd wrth ei draed, hyd yn oed mewn cyfnod lle bo hanesyddiaeth am y Rhyfel Byd Cyntaf yn ddwys. Ers cael ei benodi yn Brifardd Cymru yn fis Mawrth, mae Ifor ap Glyn wedi cyhoeddi mai ei fwriad oedd hyrwyddo’r iaith trwy ei farddoniaeth mewn cyfnod lle bo’r nifer isel o siaradwyr Cymraeg yn bryder iddo. Wedi ei fagu yn Llundain, mae’n annhebygol bod Ifor ap Glyn yn gweld defnydd o’i famiaith yn ei fywyd dyddiol, sy’n dangos pwysigrwydd y fraint hon.

I mi, mae’r newyddion hyn yn cydnabod rôl y Cymry, ynghyd a gweddill y Deyrnas Unedig, yn y Rhyfel ac yn adnabod hanes y Cymry fel rhan o dreftadaeth ehangach Prydain. Fel myfyrwraig Hanes, rwyf yn gwybod yn rhy aml nad yw hanesion milwyr Cymreig yn cael ei gynnwys fel rhan o naratif ehangach y Rhyfel neu i’r un raddau a chenhedloedd eraill. Rydym wedi’r arfer a hanes unigolion fel Hedd Wyn yn yr ystafell ddosbarth ac ar y sgrin fawr ac mae gwaith Ifor ap Glyn yn sicrhau bod ein treftadaeth yn parhau ac yn cydnabod yr holl filwyr oedd yn brwydro ar ein rhan.

Ar ben
hynny, credaf fod llwyddiant y gerdd ‘Terasau’ yn nodedig o aml ddiwylliant
cymdeithas heddiw ag erioed. Fel Cymro yn Llundain, mae gwaith Ifor ap Glyn nid
yn unig yn cyfrannu at gydweithrediad y Cymry a chenedlaethau eraill ond mae
hefyd yn cynrychioli’r holl ddiwylliannau sy’n byw yn ein mysg yn y presennol.
Gan ystyried newidiadau diweddar yng ngwleidyddiaeth y byd sydd wedi achosi
rhaniad yng nghymdeithas America, mae llwyddiant Ifor ap Glyn yn ein hatgoffa
o’r undeb rhwng yr holl genedlaethau a fu’n cynrychioli Prydain ac yn sicrhau
ein diogelwch. Yn sicr, credaf fod yr anrhydedd hon yn annog ni i fyw mewn
harmoni gyda’r holl ddiwylliannau yn ein cymdeithas heddiw, ynghyd a rhoi Cymru
ar y map unwaith eto.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php