Taf-Od

Tafwyl: Yn symud dros dro i gaeau Llandaf

Gan Liam Ketcher

Fel arfer cynhaliwyd yr Ŵyl ar diroedd y castell, ond eleni mi fydd Tafwyl, yn symud dros dro i gaeau Llandaf. Mae’r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi mi fydd yna gyfres o ddigwyddiadau ymylol yn cael ei chynnal ar draws y brifddinas yn arwain at yr Ŵyl. Mi fydd y digwyddiadau hyn yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 24 a Gorffennaf 2.

Cyhoeddwyd perfformwyr ar gyfer yr Ŵyl hefyd. Y prif leisiau i weld eleni ydy Bryn Fôn, Geraint Jarman ac Yws Gwynedd, Alys Williams, Kizzy Crawford, Meic Stevens a Candelas. Yn ymuno’r rhain ydy Y Niwl, Heather Jones a The Gentle Good. Mae yna trydydd llwyfan ar gyfer perfformwyr newydd yn cynnwys Chroma, Hyll a Mellt.

Dywedodd y canwr Yws Gwynedd am yr Ŵyl, “mae dathlu’r Gymraeg yn ein prif ddinas yn rhywbeth sydd yn rhaid i ni wneud yn amlach.

“Mae Tafwyl yn gracar o ffordd i wneud hynny a da ni’n hollol edrych ymlaen at ddod lawr i ymuno efo’r dathlu!”

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php