Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Yr Argyfwng
Yn ôl yr elusen, mae dynion yn wynebu argyfwng iechyd ar hyn o bryd. Yn fyd eang mae 10.8 miliwn o ddynion yn wynebu diagnosis o ganser y prostad. Mae cynnydd hefyd yn y nifer sydd yn dioddef o ganser y ceilliau – y math o ganser mwyaf cyffredin ymysg dynion ifanc. Yn ogystal â hyn, yn ôl gwefan Movember, mae un dyn yn marw bob munud o bob diwrnod, drwy hunanladdiad. Mae 75% o’r rheiny sy’n cyflawni hunanladdiad yn ddynion ac erbyn 2030 mae’r elusen yn bwriadu lleihau’r ffigwr yma gan 25%.
Codi arian
Mae’r elusen yn gofyn i’w chefnogwyr dyfu mwstas drwy gydol mis Tachwedd neu godi arian drwy redeg neu gerdded 60km dros y mis i gefnogi’r 60 o ddynion sy’n colli eu bywydau drwy hunanladdiad bob awr. Eu nod yw defnyddio’r arian a godwyd er mwyn gwella’r cyfleusterau iechyd a chymorth sydd ar gael i ddynion ledled y byd.
Mae Aled Biston, sy’n fyfyriwr MA yn y brifysgol, wedi codi arian i’r elusen drwy dyfu mwstas am sawl blwyddyn ac yn edrych ymlaen at wneud eto eleni gyda’i ffrindiau. Dywed Aled fod yr ymgyrch yn bwysig iddo oherwydd bod ef a nifer o’i ffrindiau wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl ac mae’n stori debyg i ddynion dros y wlad. Mae cymryd rhan yn bwysig iddo “er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian at y broblem.”
Hoffai Aled weld y toriad i’r stigma ynghylch iechyd meddwl dynion a sicrhau bod gan ddynion le i rannu eu hofnau a gofidion.
“Gobeithiaf fod Movember yn ailsefydlu’r neges hollbwysig bod hi ddim yn rhywbeth gwan i siarad mas na gofyn am gymorth, os unrhyw beth mae hyn yn arwydd o ddewrder.”
Bwriad Aled yw i
“ddefnyddio’r ymgyrch hon i ddangos bod pobl ar gael os oes unrhyw un angen siarad. Bydd ffrindiau, teulu a hyd yn oed pobl ddieithr yn gallu helpu ac yna i estyn llaw pan bod angen.”
Mae Iwan Kellett, myfyriwr yn yr 2il flwyddyn, yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a chodi arian at achos Movember am y tro cyntaf eleni. Fe fydd ef yn peidio eillio yn ystod mis Tachwedd er mwyn codi arian at achos sydd yn “effeithio gormod o ddynion dros y byd.” Edrycha Iwan ymlaen at yr her a chodi arian at yr elusen “gwych sy’n codi ymwybyddiaeth am bynciau hollbwysig.” Mae’n bwysig iddo fod “lleihad sylweddol i’r niferoedd o ddynion sy’n colli eu bywydau’n rhy ifanc.” Yn ôl Iwan mae’n
“galonogol iawn gweld y gwaith arloesol mae Movember yn cyflawni yn y meysydd iechyd ac addysg ynghylch hunanladdiad a chanser ymysg dynion – mae’n bwysicach nag erioed i gefnogi’r achos er mwyn gallu gwella bywydau dynion hyd a lled y byd.”
Add Comment