Taf-Od

Trafodaethau’n parhau ynghylch tynged gweithfeydd dur Port Talbot

Ai dyma ddiwedd y diwydiant dur yng Nghymru?

Gan Liam Ketcher

Gyda thrafodaethau ar hyn o bryd am dynged gweithfeydd dur Port Talbot, mae nifer o gymunedau yn paratoi at effeithiau difrifol gall y newidiadau hyn greu. Yn sicr, mi fydd pobl Port Talbot yn teimlo’r effeithiau yn drwm gan fod nifer fawr o deuluoedd y gymuned yn derbyn incwm gan y gweithfeydd, a hynny ers nifer fawr o flynyddoedd. Bydd ardaloedd amgylchynol Port Talbot yn cael eu heffeithio hefyd megis Maesteg, Porthcawl a Chastell-nedd i enwi ond rhai.

Serch y trafodaethau negyddol eu naws, yn ôl y BBC mae’r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, wedi cyhoeddi fod yna bosibilrwydd o wladoli’r diwydiant dur yn y DU. Dywed fod y Llywodraeth yn barod i “gyd-fuddsoddi” i’r busnes sy’n weddill gyda phrynwyr posib, ond mae hyn yn “annhebygol iawn”. Nid oedd Sajid Javid yn barod i ymhelaethu.

Nid problem ddieithr mo hwn i’n gwlad. Gwelwyd y problemau cyntaf yn codi yn y 1980au pan gyhoeddwyd gan Lywodraeth Thatcher eu bod am gau pyllau glo cymoedd de Cymru.

Wrth feddwl am yr holl bwysau mae’r mudiadau a threfniadau hyn yn rhoi ar ysgwyddau cymunedau clos de Cymru, mae’n siomedig yn fy marn i nad yw’r Llywodraeth am helpu i achub y niferoedd o swyddi a all gael eu colli gan gau’r gweithfeydd. Ar y llaw arall, mae’n rhaid i ni ystyried y golled mae’r cwmni yn ei wneud bob diwrnod. Yn ddyddiol, mae’r cwmni yn gweld colled o tua £1miliwn gyda chyflog dechreuol o £30,000 y flwyddyn i’r 4,000 o weithwyr sydd yn gweithio yn y ffatri ym Mhort Talbot. Nid yw’r golled hwn yn hollol annealladwy, felly.

Mae nifer o bobl yn teithio i’r ardal er mwyn gweithio i’r diwydiant dur, ac felly yn naturiol yn creu busnes i ardaloedd amgylchynol Port Talbot, megis y marchnadoedd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Pe bai’r gweithfeydd yn cau, byddai’r gwasanaethau cyhoeddus rheiny yn gweld colled hefyd.

Yn bersonol, rwy’n adnabod cyn-aelod o staff y gweithfeydd dur, a symudodd ymlaen at swydd newydd yn ddiweddar. Fe wnaeth ef y penderfyniad hwn cyn i’r trafodaethau am dynged y gweithfeydd ddechrau, ond rwy’n ymwybodol ei fod yn falch o’i benderfyniad. Pam? Wel, mae’r gweithfeydd yn colli gormod o arian yn ddyddiol i fedru byth sicrhau swyddi i’r bobl yn ei dyb ef. Hyd yn oed gyda chymorth y Llywodraeth, nid yw’n credu y bydd ffordd o achub y gweithfeydd bellach.

Yn ôl y sôn, roedd yna drefniadau ar y gweill i newid y gweithfeydd i fod yn ardal ailddefnyddio dur sgrap yn lle ardal sydd yn ei chreu. Golyga hyn cael gwared ar y ffwrnais chwyth er mwyn cyflwyno ffwrnais ar gyfer toddi’r dur yn lle. Er gall hyn achub diwydiant yr ardal i raddau, yn anffodus, ni all sicrhau swyddi i bawb sydd wedi’u cyflogi yno ar hyn o bryd. Ni fyddai angen cymaint o weithwyr ar gyfer y math hynny o waith beth bynnag. Does dim dwywaith y byddai colli’r diwydiant hwn yng Nghymru yn rhoi’r wlad dan bwysau mawr, a hyd yn oed peryglu’r economi.

Yn fy marn i, mae’n bwysig cadw’r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot oherwydd ni fyddai hyn yn unig yn achub nifer fawr o swyddi ar gyfer pobl leol, ond achuba swyddi a bywoliaeth pobl mewn ardaloedd cyfagos hefyd. Rydym wedi dioddef colled ddiwydiannol unwaith yn ein hanes, ac mi fyddai’n siomedig iawn i weld hyn yn digwydd eto. Gobeithio y clywn newyddion mwy cadarnhaol am y sefyllfa yn fuan iawn.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php