Taf-Od

Twrw: Gig olaf y Bandana

Gan Sara Alis

Tra’n tyfu i fyny, does dim amheuaeth fod y rhan fwyaf ohonom wedi bod drwy ‘phase’ Y Bandana. Yn sicr i mi, yn arddegyn oedd yn dechrau dod yn ymwybodol o’r SRG (Sin Roc Gymraeg), nhw oedd y band cyntaf i mi feddwl oedd yn ‘cŵl’. Fel llawer o fy oed i, nhw oedd y band cyntaf i mi gychwyn gwrando arnyn nhw o ran cerddoriaeth Gymraeg (ac eithrio wrth gwrs Celt a Sobin oedd bob tro i’w clywed yng nghar fy nhad), a gallwn fynd mor bell â dweud eu bod yn arwyr wrth gofio hynny; yn gwneud i bobl ifanc sylwi bod cerddoriaeth Gymraeg yn rhywbeth newydd, cyffrous ac amrwd.

Wrth i mi wrando ar eu halbwm gyntaf rŵan, Y Bandana, mae llu o atgofion yn llifo yn ôl, a ‘gigyls’ wrth gofio rhoi’r CD ymlaen yn y car efo mam yn dreifio, a theimlo fymryn yn anghyfforddus wrth orfod gwrando ar eiriau awgrymog ‘Yr Unig Beth Dwi Isio’ ac ambell i reg ‘Anturiaethau Sali Mali’. Wrth i mi dyfu i fyny, teimlaf i’r band dyfu i fyny hefyd, gan fynd o nerth i nerth, o gân i gân. Gyda ‘Geiban’ yn anthem i bobl ifanc Cymru bellach, mae eu dylanwad yn anferth, ac wrth i mi sefyll ynghanol y dyrfa chwil yng Nghlwb Ifor Bach nos Sadwrn diwethaf, mae’n amhosib esbonio’r ‘nostalgia’ oedd yn llifo drosta i. Wel, hynny a’r cwrw oedd hefyd yn cael ei daflu o gwmpas y lle – doedd dim byd tebyg (dim ond gwir gefnogwyr fydd yn deall y cyfeiriad).

Ni all neb wadu y ‘bangars’ sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y pedwarawd o ardal Caernarfon, ac wrth weld y gwahanol fathau o bobl oedd wedi mentro allan o’r tŷ, rhai o bosib na fyddai byth yn gadael y tŷ fel arfer (10 pwynt i Gryffindor os i chi ddeall y cyfeiriad), yn profi nad y ni, y bobl ifanc, fydd yr unig rai a fydd yn gweld colled ar eu hôl. Roedd hi mor braf gweld pobl o bob oed yn canu nerth eu pennau i gyfeiliant yr alawon direidus, ac i weld tu ôl i’r band – sioe yr un mor dda – rhyw fath o fontage, gydag ambell i lun ‘ciami’ o’r aelodau yn… mwynhau eu hunain bach gormod! Yn wir, roedd sawl gig wedi cael ei gofnodi ar ffurf llun, gan ychwanegu at y ‘nostalgia’ wrth gofio mynd i weld y band yn ystod eu dyddiau cynharaf yn canu yn Y Bedol ym Methel.

Gwnaeth hynny i mi sylwi nad ydw i’n fabi dim mwy (cyfeiriad arall clyfar iawn, dwi’n gw’bod). Mae’n anodd gen i gredu mai’r fan honno, ynghanol ‘stage’ raid a’r breichiau chwyslyd yn dawnsio, oedd y tro olaf i mi glywed Y Bandana yn perfformio. Roeddwn i’n hanner disgwyl conffeti a thân gwyllt yn ffrwydro ar ganiad y corn olaf (mwy na ffordd o siarad- mi roedd ‘na fand pres ar y llwyfan), ond roedd y foment honno, yng nghanol y chwerthin, y bywyd gwyn (unwaith eto, clyfar iawn) a’r meddwi, yn ddigon i mi. Y cyfan alla’i wneud ydi diolch, a dweud, am y tro, ta-ta i’r band da ‘na.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php