Taf-Od

UKIP 1 – 0 Cymdeithas yr Iaith

Gan Osian Morgan

Bythefnos yn ôl, cynhaliwyd cyfarfod gan Bwyllgor Diwylliant, Iaith a Chyfathrebu’r Cynulliad, i drafod y cylch nesaf o Safonau’r Gymraeg a gyflwynwyd i’r Cynulliad yr wythnos diwethaf. Roedd disgwyl i ddau gynrychiolydd o Gymdeithas yr Iaith fynychu’r cyfarfod er mwyn cyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor, ond gwrthodwyd yr hawl iddynt wneud ar ôl iddynt anfon e-bost at gadeirydd y pwyllgor, Bethan Jenkins AC, yn datgan na fyddent yn ateb unrhyw gwestiynau a ofynnwyd iddynt gan UKIP, sydd ag un aelod, Neil Hamilton AC, ar y pwyllgor. Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, bod y mudiad yn gwrthod cyd-weithio â phlaid sy’n “hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn nifer o grwpiau yn ein cymdeithas”.

Rwyf yn dallt teimladau cryfion Cymdeithas yr Iaith yn erbyn UKIP yn iawn, ac yn cytuno’n llwyr gyda’u hatgasedd tuag at y blaid. Mae UKIP, fel y dywed y Gymdeithas, yn blaid sydd â rhagfarnau ‘yn erbyn pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol, a thraws, lleiafrifoedd ethnig, mewnfudwyr, pobl sydd â HIV, a’r Gymraeg’. Rwyf yn anghytuno’n llwyr a UKIP ym mhob achos, ond yn anffodus, nid yw oddeutu 130,000 o etholwyr Cymru yn anghytuno â nhw, gan olygu fod gennym 6 Aelod Cynulliad hollbresennol o UKIP.

Nid yn aml yr wyf yn ysgrifennu erthygl gan wybod y bydd llawer ohonoch yn anghytuno â mi, ond yn wahanol i’r cannoedd o Gymry Cymraeg a foddodd fy nghyfrif trydar gyda negeseuon yn cefnogi gweithred Cymdeithas yr Iaith bythefnos yn ôl, rwyf i’n anghytuno â phenderfyniad y Gymdeithas i wrthod ateb cwestiynau gan aelodau UKIP.

Nid agwedd y Gymdeithas yn erbyn UKIP oedd y broblem i mi, ond y ffordd yr ymdrinient â’r agwedd hwnnw. Dylent wedi dadlau yn erbyn UKIP, a dadlau yn erbyn eu hagweddau gwrth Gymraeg, yn hytrach na gwrthod eu hateb yn gyfan gwbl. Onid oes gan UKIP yr hawl, o ganlyniad i’r gefnogaeth a gawsant yn yr etholiad diwethaf, i ofyn cwestiynau am bolisïau’r Cynulliad? Mae’n anochel yr oedd rhai o’r 130,000 o bleidleisiodd dros UKIP yn siarad Cymraeg, onid yw’r Gymraeg yn perthyn iddyn nhw hefyd? Onid yw’r Gymraeg yn perthyn i bawb? Neu yw’r Gymraeg yn perthyn i Gymdeithas yr Iaith yn unig? Neu’n perthyn i bawb sydd â daliadau gwleidyddol tebyg i bwyllgor y Gymdeithas, a nhw yn unig a gaiff ddylanwadu ar bolisïau sy’n ymwneud â’r Gymraeg?

Mae gan UKIP, fel unrhyw blaid arall, yr hawl i ofyn cwestiynau am bolisïau sy’n dylanwadu ar y pobl sydd wedi eu hethol, ond os byddai’r blaid wedi gofyn cwestiynau rhagfarnllyd yn erbyn y Gymraeg, byddai hynny wedi bod yn gyfle euraidd i’r Gymdeithas ddadlau yn eu herbyn, a hysbysebu eu rhagfarnau ar lawr gwlad.

Yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd eleni, pasiwyd cynnig yn datgan na ddylid gwrthod rhoi ‘platfform’ i wleidyddion a siaradwyr gwadd rhagfarnllyd, yr oedd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn anghytuno â, ond rhoi’r ‘platfform’ iddynt fynegi eu barn, fel y gall y myfyrwyr ddadlau yn erbyn eu rhagfarnau, a’u cywilyddio am eu rhagfarnau pitw. Dyna’n union y dylai’r Gymdeithas wedi ei wneud pe byddai aelod o UKIP wedi gofyn cwestiwn rhagfarnllyd iddynt. Rwy’n ffyddiog y byddai’r rhan helaeth o aelodau’r pwyllgor – sydd yntau ddim yn gyfrinachol am eu hatgasedd tuag at y blaid adain dde eithafol – wedi ochri hefo’r Gymdeithas yn y fath sefyllfa, yn hytrach na gorfod gwrthod yr hawl i’r Gymdeithas fynychu’r cyfarfod, a chyfrannu’n weithredol, oherwydd y ddyletswydd ddemocrataidd arnynt i wneud.

Yn wir, oherwydd i’r Gymdeithas ymyrryd a gwleidyddiaeth yn ehangach yn yr achos hwn, yn hytrach na chanolbwyntio yn unig ar yr Iaith Gymraeg, effeithiodd hyn ar eu gallu i ddylanwadu yn gadarnhaol ar yr iaith. Yn fy marn i, dylai’r Gymdeithas ymyrryd â materion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg yn unig – boed yn faterion sy’n cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar y Gymraeg. Nid oedd y Gymdeithas yn fodlon ateb cwestiynau UKIP oherwydd eu bod yn anghytuno gyda hwy – ond a olyga hyn nad ydynt yn anghytuno â phleidiau eraill y Cynulliad? Byddai rhai yn dadlau fod gan rhai o aelodau’r Ceidwadwyr, a Llafur hyd yn oed, ragfarnau afiach, dylai’r Gymdeithas wedi gwrthod ateb eu cwestiynau hwy hefyd?

Nid hanfod democratiaeth yw gwrthod ateb cwestiynau gan bobl neu bleidiau (sydd wedi eu hethol gan bobl Cymru, cofiwch) yr ydych yn anghytuno â. Beth ddigwyddir pe byddai Llafur, a Phlaid Cymru, yn gwrthod ateb cwestiynau UKIP yn y Siambr oherwydd eu bod yn anghytuno â nhw? A beth ddigwyddir os fyddent yn gwrthod ateb cwestiynau’r Ceidwadwyr am yr un rheswm, a’r Ceidwadwyr yn gwrthod ateb cwestiynau gan Lafur a Phlaid Cymru gan eu bod hwythau yn anghytuno gyda’r pleidiau hynny? Byddai’r Cynulliad yn debycach i feithrinfa, gyda phlant bychain yn gwrthod chwarae a’i gilydd oherwydd eu bod wedi ffraeo ac anghytuno y diwrnod cynt, yn hytrach na chorff cenedlaethol sy’n benderfynol o gydweithio i gynrychioli Cymru a’i phobl i gorau eu gallu.

Ymdebyga hyn i deimladau Bethan Jenkins ar y mater hefyd. Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Bethan Jenkins nad oedd modd i dystion ddweud eu bod am wrthod ateb cwestiynau gan Aelod Cynulliad penodol, gan nid dyna’r ffordd y mae system ddemocrataidd yn gweithio. Dywedodd cadeirydd y pwyllgor nad oedd hithau’n hoff o gwbl o’r ffaith fod gan UKIP Aelodau Cynulliad, ond awgrymodd y dylent ymladd yn eu herbyn, yn hytrach na’u hanwybyddu, er mwyn sicrhau nad oes ganddynt yr aelodau hynny yn yr etholiad nesaf, ymhen 5 mlynedd.

O bosib fydd rhai ohonoch yn credu fy mod yn ochri gydag UKIP yn yr erthygl hon – gallaf warantu nad ydwyf! Mae gennyf gymaint o atgasedd tuag at y blaid ffiaidd ag unrhyw aelod o bwyllgor y Gymdeithas, ond rwy’n parchu democratiaeth. Rwy’n parchu’r ffaith fod degau o filoedd o Gymry wedi rhoi croes wrth y blwch ‘UKIP’ yn yr etholiad diwethaf, ac rwy’n parchu hawl UKIP i ofyn cwestiynau ym mhwyllgorau’r Cynulliad – gan obeithio y byddai’r pleidiau a mudiadau eraill yn dadlau yn er herbyn.

Hyd y gwelaf i (ac rwy’n barod i gael fy mhrofi yn anghywir) ni chyflawnodd Cymdeithas yr Iaith ddim yn yr helynt yma. Oherwydd eu gweithredoedd, ni chawsant y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor a chyfrannu’n gadarnhaol at drafodaethau am yr Iaith. Portreadent y Cymry Cymraeg fel pobl fewnblyg sy’n anfodlon trafod gyda phobl yr ydym yn anghytuno â. Creant densiynau rhwng y Gymdeithas â phleidiau ac Aelodau Seneddol eraill y Cynulliad, gan gynnwys Bethan Jenkins, un o’r Aelodau Cynulliad sydd fwyaf cefnogol dros y Gymraeg, ac sydd wedi gweithredu drosti fwyaf.

Yn waeth na dim, rhoddent gyfle i UKIP bydru’r wasg gyda’u rhagfarnau, gan roi fwy fyth o sylw i’w plaid. Yn hytrach nag ysgrifennu am y trafodaethau cadarnhaol a gymerwyd yng Nghyfarfod y Pwyllgor ar y 18fed o Ionawr (gan gynnwys cryfhad ar y safonau iaith a fydd yn cael eu gosod ar brifysgolion Cymru), roedd y stori hon yn fel ar fysedd holl newyddiadurwyr Cymru, gan roi mwy fyth o sylw i Neil Hamilton a’i blaid anfoesol, y sylw y mae’r blaid ei hangen er mwyn lledaenu eu rhagfarnau erchyll. UKIP 1 – 0 Cymdeithas yr Iaith.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php