Tarddiad: Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Taf-Od

“Y cam cyntaf ar daith hir i gydraddoldeb ieithyddol”

Gan Osian Wyn Morgan

Yn fy araith yn lansiad y polisi, cydnabyddais fod y polisi yn gam cadarnhaol yn y cyfeiriad cywir i’r Gymraeg yn yr Undeb, a chroesawais hynny gyda breichiau agored. Mae’r polisi yn un cryf a chynhwysfawr, ac fe gaiff effaith gadarnhaol ar y Gymraeg, a’r myfyrwyr sydd eisiau ei defnyddio hi, o fewn yr Undeb.

Fodd bynnag, pwysleisiais bwysigrwydd cofio mai cam cyntaf ar daith hir i gydraddoldeb ieithyddol oedd creu’r polisi hwn. Nid yw’n datrys yr holl broblemau sydd wedi eu hamlygu dros y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â’r Gymraeg yn yr Undeb, a’r berthynas rhwng yr Undeb a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Nid cyfrinach mo’r ffaith bod y berthynas hon wedi bod yn un gwael ac annigonol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n deg i honni nad yw myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn teimlo eu bod yn perthyn yn yr Undeb, a bod yr Undeb yn eu cynrychioli.

Fel yr wyf eisoes wedi nodi, mae’r polisi yma yn un cryf. Mae’n rhoi’r hawl, er enghraifft, i fyfyrwyr Cymraeg ohebu ac unrhyw aelod o staff, swyddog etholedig, neu adran yn yr Undeb yn Gymraeg, a derbyn ateb yn ôl yn Gymraeg. O ganlyniad i’r polisi, bydd gwefan yr Undeb yn cael ei arddangos yn ddwyieithog.

Fodd bynnag, os nad yw myfyrwyr Cymraeg yn teimlo bod yr Undeb yn eu cynrychioli, ni fyddent yn cysylltu â’r Undeb o gwbl, felly ni fyddent yn cymryd mantais o’u hawl i ohebu’n uniaith Gymraeg gyda hwy. Os nad yw myfyrwyr Cymraeg yn teimlo eu bod yn perthyn yn yr Undeb, ni fyddent yn ymddiddori yn ei ddigwyddiadau a’i chyfleusterau, felly ni fyddent yn edrych ar y wefan, a manteisio ar ei ddwyieithrwydd.

Y pwynt yr wyf yn trio ei wneud yn fan hyn, yw nid yw llunio a lansio polisi iaith yn ddigon ar ei phen ei hun. Oni bai bod yr Undeb yn cymryd camau mawrion i wella’r berthynas rhyngddynt a myfyrwyr Cymraeg, a cheisio sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn yn yr Undeb, ni fyddent yn manteisio o gwbl ar y polisi cadarnhaol hwn sydd wedi ei lunio. Os na fydd yr Undeb yn gwneud hwn, ni fydd unrhyw un yn manteisio ar y polisi, a bydd y polisi yn ddim mwy na ffurfioldeb, er mwyn rhoi tic yn y bocs ‘dwyieithrwydd’ a chadw siaradwyr Cymraeg yn dawel am gwpl o flynyddoedd.

Fy nghyfrifoldeb i fel swyddog, felly, dros y misoedd nesaf, yw sicrhau bod camau yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr Undeb yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn ddigonol, fel y gallent fanteisio ar y polisi cryf hwn. I wireddu’r amcan hwn, bwriadaf sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC), o fewn yr Undeb, a bydd yn ymdebygu i UMCA, yn Aberystwyth, ac UMCB, ym Mangor. Bydd y corff hwn yn gyfrifol am gynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn gymdeithasol, gwleidyddol, ieithyddol, academaidd, a gyda materion lles o fewn yr Undeb a’r Brifysgol. Rwy’n ffyddiog y bydd corff o’i fath yn rhoi’r gynrychiolaeth, a’r ymdeimlad o berthyn i’r Undeb, y mae myfyrwyr Cymraeg yn eu haeddu.

Ddydd Iau diwethaf, y 1af o Ragfyr, gwnaeth pwyllgor newydd, Pwyllgor Trafod UMCC ac Integreiddio Cymdeithasol, gyfarfod yn yr Undeb er mwyn mynd ati o ddifrif i drafod y camau nesaf y bydd rhaid eu cymryd er mwyn sefydlu UMCC, a sicrhau nad yw myfyrwyr Cymraeg yn arwahanedig o’r prif gorff o fyfyrwyr yn yr Undeb.

Rwy’n falch iawn i ddweud yr oedd y cyfarfod yn un cynhyrchiol a rhagweithiol, ac yn sgil y cyfarfod rwy’n hyderus iawn y gallaf weithio gyda myfyrwyr Cymraeg, a chynrychiolwyr o’r Undeb, i gymryd y camau mawrion, hanfodol, y bydd rhaid eu cymryd, er mwyn sicrhau cydraddoldeb ieithyddol yma yn ein prifddinas, a sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn derbyn yr un gynrychiolaeth a hawliau o fewn yr Undeb, a derbynia myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth a Bangor.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php