Taf-Od

Y Cyfrifiad a’r iaith Gymraeg

Beth mae’r holl rifoedd hyn yn ei olygu? Gerallt Rhys Jones sy’n trafod y ffigyrau

Peth digon geeky a diflas mae trin a trafod ystadegau wedi cael ei weld erioed. Yn amlach na pheidio mae’r arfer ond yn cael cael ei wneud gan anoracs ac academyddion, gyda pobl ‘cyffredin’ yn malio dim amdanynt. Ond os oes gennych owns o ddiddordeb neu bryder am yr iaith Gymraeg, mae llawer o ffigyrau diweddar yn peintio darlun eitha du, ond nid yn llwyr anobeithiol, o’i dyfodol – yn enwedig ymysg ein cenhedlaeth ni o fyfyrwyr.

Ar yr olwg gyntaf, nid yw canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn rhy ysgytwol – 1.7% yn llai o siaradwyr Cymraeg dros 10 mlynedd. Dim yn newyddion da, wrth reswm – ond ‘dim ond’ 20,000 yn llai mewn niferoedd, o 582,000 i 562,000. ‘Ydych chi’n gallu siarad Cymraeg’ yn hytrach na ‘Ydych chi yn siarad Cymraeg’ a gafodd ei ofyn hefyd – nid yw’n ddarlun clir chwaith o siaradwyr o ddydd-i-ddydd.

Bydd dipyn mwy o ganolbwyntio ar ‘safonau’ o ddarpariaeth Cymraeg yn y sector gyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod

Roedd dipyn o gwymp i’w weld yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigon, ond cwymp o raddfa dipyn uwch a welir wrth edrych yn fanylach ym mhatrwm siaradwyr yn y grwpiau oedran. Yn 2001 roedd 43.7% o blant 10-14 oed yn gallu siarad yr iaith – o’r un genhedlaeth (oedolion 20-24 oed) yn 2011, dim ond 17.6% oedd yn gallu ei siarad, dros chwarter yn llai – dipyn mwy o gwymp na’r 1.7% yn gyffredinol! Mae syniad rhieni o ‘allu’ plant i siarad iaith sy’n cael ei ddysgu yn yr ysgol yn gallu bod yn gyfrifol i raddau am y newid, ond yn sicr ddim yn gyfan gwbl.

Efallai bod yr atebion gyda penderfyniadau myfyrwyr. Yn draddodiadol, mae dipyn o raddedigion newydd o brifysgolion Cymru (y grwp oedran dan sylw) yn gadael y wlad ar ôl graddio – 35% rhwng 2003 a 2007, gyda dim ond 6% yn gadael Lloegr yn yr un cyfnod – a hwnnw yn benderfyniad yn aml yn ymwneud â swyddi gwell ac enillion uwch. Yn fwy diweddar, yn mae ffigyrau o 2012 yn dangos 7,000 o fyfyrwyr yn gadael Cymru i fynd i astudio i gychwyn, cynnydd o 13% o’r flwyddyn gynt. Does dim bai o gwbl ar ddarpar-fyfyrwyr a graddedigion sy’n gadael – mae byw yn gyfforddus yn dod o flaen byw yn Gymraeg i’r rhan helaeth os yw’r dewis amlwg i’w gael.

Ond mae dipyn mwy all y Llywodraeth wneud i alluogi graddedigion uchelgeisiol Cymru fyw yn Gymraeg a byw yn gyfforddus hefyd wrth aros yn y wlad. Gyda datblygiadau diweddar o ran lle y Gymraeg mewn cymdeithas sifil, a twf y diwydiant cyfryngau Cymraeg, mae sawl ardal lle mae cynnydd nodweddiadol wedi ei weld yn nifer y siaradwyr. Yn Grangetown a Canton yma yng Nghaerdydd (cartref y ‘cyfryngis’) roedd 4% yn fwy o siaradwyr dros 10 mlynedd. Draw yng Ngwynedd, yn rhai o bentrefi cymudol (commuter) Caernarfon – Clynnog Fawr a Waunfawr – roedd 7% a 5% yn fwy yn gallu siarad Cymraeg.

Bydd dipyn mwy o ganolbwyntio ar ‘safonau’ o ddarpariaeth Cymraeg yn y sector gyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod, ond hyn a hyn all y Cymry ifanc ddibynnu ar y sector honno gyda llai o swyddi o achos y toriadau cenedlaethol ar hyn o bryd, toriadau sydd hefyd yn cael effaith ar y diwydiant cyfryngau Cymraeg. Dim ond trwy hybu datblygu sector breifat gref lle gall ‘economi Gymreig’ o bwys ffynnu y gellir gwrthdroi’r dirywiad amlwg yn ein cenhedlaeth ni. Fel arall all neb weld unrhyw fai ar Gymry ifanc sy’n gadael eu cymunedau, neu adael Cymru yn gyfan gwbl ar ôl graddio.

Ar nodyn anoracaidd i orffen felly, os na fydd Llywodraeth Cymru yn cael eu gafael ar bwerau trethiannol, yn enwedig ar y dreth fusnes a’r dreth gorfforaeth, er mwyn gwneud Cymru yn wlad mwy apelgar i ddechrau a datblygu busnes ynddi – a chymryd y Gymraeg o ddifrif ym mhob maes deddfu – dros y ddeng mlynedd nesaf, dal i ddisgyn wnaiff niferoedd siaradwyr Cymraeg. Yr unig wir obaith fyddai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yn 2014 a gorfodi newid cyfansoddiadol ar gyfer Cymru a Lloegr. Cawn weld.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php