Taf-Od

Y Cyfrifiad a’r iaith Gymraeg

Datgelodd y Cyfrifiad 2011 lawer am sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw, Angharad Hywel sy’n adrodd

Ym mis Rhagfyr llynedd, cyhoeddwyd fod niferoedd siaradwyr Cymraeg wedi lleihau yn sylweddol. Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011, gostyngodd canran siaradwyr yr iaith ar gyfartaledd o 20.8% o’r boblogaeth yn 2001, i 19% yn 2011; dirywiad o 20,000 o siaradwyr. Ddydd Mercher diwethaf, cyhoeddwyd dadansoddiad mwy manwl o ganlyniadau bob Ward yng Nghymru. Yr un darlun a gafwyd, gyda dirywiad ym mhob ardal oni bai am  rhai wardiau yng Nghaerdydd a Sir Fynwy lle bu cynnydd yn niferoedd siaradwyr Cymraeg.

Llanrug yng Ngwynedd, gyda 88% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg, yw’r ward Gymreiciaf yng Nghymru gyfan. I’r gwrthwyneb yn hollol yn Churchstoke ym Mhowys, dim ond 4.3% o boblogaeth y pentref, sydd ar y ffin â Lloegr, sydd yn siaradwyr Cymraeg.

Dirywiad yn siaradwyr Cymraeg y Fro Gymraeg – gorllewin a gogledd Cymru, sydd wedi peri fwyaf o ofid. Erbyn hyn mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. Nid oes unrhyw Ward yn y siroedd hyn gyda 70% neu fwy o siaradwyr Cymraeg. Cymunedau yng Ngwynedd a Môn yw’r unig rhai i gofnodi 70% neu fwy o siaradwyr Cymraeg. Cyhoeddwyd fod 49 Ward yn y siroedd hyn yn cyrraedd y nod, dirywiad unwaith eto o’r 59 a gofnodwyd yn 2001.

Yn amlwg, maent yn ganlyniadau digalon iawn i gefnogwyr y Gymraeg. Ond ni ddaeth y dirywiad yn syndod i nifer helaeth. Dyma batrwm  sydd wedi ei ail-adrodd yn dilyn bob cyfrifiad, ac eithrio 2001, ar draws ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ond er holl fuddsoddiadau ariannol a deddfwriaethol yn y Gymraeg, pam nad oes modd torri’r patrwm?

Yn 2003, nododd y llywodraeth gynlluniau i gynyddu niferoedd siaradwyr 5%, 26% o’r boblogaeth yn medru’r iaith, erbyn cyfrifiad 2011. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r llywodraeth wedi buddsoddi miliynau ar filiynau o bunnoedd yn y Gymraeg ym mhob ardal o Gymru. Ynghyd a chefnogi metrau iaith a chynlluniau ieithyddol amrywiol. Ym 2011 cyhoeddwyd Mesur y Gymraeg er mwyn cefnogi’r iaith ymhellach. Yn dilyn y mesur bu newid yn fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn ogystal creuwyd swydd newydd Comisiynydd y Gymraeg  er mwyn plismona fod cyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat yn dilyn rheolau newydd y mesur. Gobeithiwyd byddai’r gwelliannau hyn yn hwb i’r iaith ac i niferoedd siaradwyr y Gymraeg. Ond yn amlwg, nid yw hynny’n wir. Oes angen i’r llywodraeth felly, ail-edrych ar bolisïau ieithyddol?

Nid y llywodraeth yn unig sydd yn pennu buddsoddiadau ariannol yn y Gymraeg, mae awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am ariannu cynlluniau ieithyddol, megis mentrau iaith. O ganlyniad, mae amrywiaeth mawr yn narpariaeth ariannol y Gymraeg ar draws y wlad. Yn ddiweddar, ar y radio, crybwyllwyd na fydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn parhau i gyfrannu’n ariannol i’r Urdd na Metrau Iaith y Sir. Mudiadau sydd yn hanfodol yn hybu’r iaith. Gyda thoriadau i gyllideb awdurdodau lleol, a fydd buddsoddiadau ariannol yn y Gymraeg yn cael ei gwthio i’r cefn?

Yn sgil cyhoeddi canlyniadau’r cyfrifiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal amryw o ralïau i gyhoeddi Maniffesto Byw; cynllun dros iaith, gwaith a chymuned. Gobaith y Gymdeithas ydy ysgogi trafodaeth gyhoeddus ledled cymunedau Cymru ynglŷn â’r blaenoriaethau i gynnal a datblygu’r Gymraeg ym mhob rhanbarth o Gymru. Yn y maniffesto, maent yn awgrymu ffyrdd o sicrhau dyfodol i’r iaith yn y cymunedau, megis awgrymiadau deddfwriaethol i wella addysg Gymraeg mewn ysgolion a sicrhau tai i Gymry Cymraeg yn enwedig yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Dywed y Gymdeithas ar eu gwefan, eu bod yn credu ‘fod modd newid tynged y Gymraeg gydag ewyllys gwleidyddol ac ymgyrchu cadarnhaol a chyfranogol’. Bydd cynrychiolwyr o’r Gymdeithas yn cyfarfod â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones ddydd Mercher 6 o Chwefror i drafod y mater ymhellach.

Nid oedd holl ganlyniadau Cyfrifiad 2011 yn ddigalon o safbwynt yr iaith Gymraeg. Bu cynnydd yn niferoedd siaradwyr Cymraeg mewn amryw o ardaloedd tu allan i gadarnleoedd yr iaith. Dim ond mewn wardiau yn Sir Fynwy a Chaerdydd bu cynnydd. Mae’r cynnydd yn yr ardaloedd hyn yn galonogol iawn, ond eto mae’n bwysig gofyn yw’r cynnydd hwn yn dod ar draul cadarnleoedd yr iaith?

Rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011, cynyddodd niferoedd siaradwyr Cymraeg Caerdydd o 32,500 i 36,700. Mae canran siaradwyr wedi aros yn sefydlog, gan gynyddu o 11% i 11.1%. Mae hyn oherwydd bod cynnydd wedi bod ym mhoblogaeth y ddinas ar y cyfan. Wrth edrych ar ardaloedd penodol yn y ddinas, megis Cathays, bu cynnydd o 10.15% i 11.4% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg. Ategir y canlyniadau hyn at y gred mai mudo torfol Cymry Cymraeg o gadarnleoedd y Gymraeg i’r Brifddinas sydd yn rhannol gyfrifol am gynnydd siaradwyr Cymraeg.

Mae’n bwysig parhau i fuddsoddi yn nyfodol yr iaith. Gyda chynnydd mewn ardaloedd anrhaddodiadol Gymreig, mae’n amlwg fod newid ar droed i’r Gymraeg. Gobaith y llywodraeth ac mae’n debyg holl siaradwyr Cymraeg, yw bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn fwy calonogol o safbwynt y Gymraeg. Ond gyda llywodraeth Prydain yn trafod peidio cynnal cyfrifiad arall oherwydd cost, a hwn oedd y cyfle olaf i gyfrifol niferoedd siaradwyr y Gymraeg?

1 Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php