Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Ar benwythnos yr 20fed o Dachwedd teithiodd cymdeithasau Cymraeg prifysgolion Caerdydd, Bangor, Abertawe a’r Drindod Dewi Sant i ymuno ag Aberystwyth ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol. Mae gweithgareddau Rhyng-golegol yn draddodiad sydd wedi uno siaradwyr Cymraeg Prifysgolion Cymru am ddegawdau ac yn gyfle i hyd at 1000 o fyfyrwyr gymdeithasu, cystadlu a dathlu eu Cymreictod. Mae’r Prifysgolion yn gallu arddangos eu doniau creadigol, cerddorol a chwaraeon drwy gystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhelir yn flynyddol ym mis Mawrth a’r Ddawns Ryng-golegol ym mis Tachwedd
Y Ddawns
Y Ddawns Ryng-gol yw un o uchafbwyntiau’r sîn gerddorol Gymraeg ac eleni Dienw, Kim Hon, Bwncath a’r Cledrau oedd yn perfformio i dros 600 o fyfyrwyr o ledled y wlad yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Ar ôl rhyddhau albwm newydd, Cashews Blasus, eleni, Y Cledrau oedd yn cau’r gig Nos Sadwrn. Dywedodd Marged Gwenllian, aelod o’r Cledrau, ei bod hi a gweddill y band wedi mwynhau’r cyfle i allu perfformio unwaith eto mas draw. Ychwanegodd- “Dydy chwarae i gamera erioed wedi’n siwtio ni fel band, achos ein bod ni’n dibynnu gymaint ar egni cynulleidfa. Mae’n caneuon ni’n eitha ‘shouty’, sy’n gofyn am gynulleidfa i weiddi canu hefo ni, ac mae’r hwyl i gyd yn ddibynnol ar gynulleidfa dda, felly de ni’n andros o falch o fod nôl yn gigio.”
Aeth Marged ymlaen i bwysleisio pwysigrwydd digwyddiadau Rhyng-golegol i fyfyrwyr y wlad a thu hwnt wrth ddweud:
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n hawdd iawn byw mewn bybl yn dy brifysgol, ac anghofio am bawb y tu allan iddo fo, felly mae’n gyfle i weld dy ffrindiau eraill unwaith eto a chwrdd â’u grŵp ffrindiau nhw. Hefyd, mae rhai prifysgolion â chymdeithas Gymraeg gymharol fach (e.e. GymGym Lerpwl neu Abertawe), felly mae’n anodd iddyn nhw drefnu gig neu dwrnamaint chwaraeon mawr drwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae tynnu pawb at ei gilydd am un penwythnos gwallgo’ yn gyffro mawr bob tro.”
Blwyddyn anarferol
Oherwydd cyfyngiadau Cofid-19, fe ganslwyd Y Ddawns Ryng-golegol yn 2020 ac ychwanegodd hyn at heriau’r unigolion sy’n trefnu’r digwyddiadau. Yn ôl Lois Campbell, Llywydd y GymGym yng Nghaerdydd ac un o drefnwyr y digwyddiad: “Roedd hi’n anoddach i ni fel pwyllgor eleni, dwi’n meddwl, i wneud trefniadau ar gyfer y Ddawns Ryng-gol gan ei bod ni heb brofi unrhyw beth o’r fath o’r blaen – mewn ffordd, ro’n i’n mynd mewn i’r cwbl ‘yn ddall’ fel petai. Ar ben hyn, roedd y sefyllfa COVID-19 yn effeithio ar y trefniadau o ran trefnu bysiau ac archebu crysau t, ond dwi’n falch bod popeth wedi mynd yn hwylus yn y pen draw a’n bod ni gyd wedi medru cael penwythnos gwerth chweil.”
Er y sialensiau, profodd y digwyddiad yn un llwyddiannus wrth iddo chwarae rôl flaenllaw yn niwylliant prifysgolion y wlad unwaith eto. Yn ôl Caitlyn White, myfyrwraig ail flwyddyn ym mhrifysgol Aberystwyth, mae’r Ddawns Ryng-gol yn “cyfleu diddordeb pobl ifanc yn yr iaith Gymraeg a diwylliant y wlad. Cynigir cyfle i bobl o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd gan greu ffrindiau newydd yn enwedig ar ôl y flwyddyn a hanner diwethaf.”
“Roedd yn brofiad pleserus gweld pawb yn ôl at ei gilydd ar ôl bod ar wahân am gymaint o amser. Yn amlwg mae’r flwyddyn yn barod wedi bod yn un gwahanol i ni fel myfyrwyr yr ail flwyddyn ond mae’r Ddawns Ryng-gol yn sicr wedi bod yn uchafbwynt imi hyd yn hyn.”
Add Comment