Tarddiad: Matt Buck drwy Flickr
Taf-Od

Y Gwahanfur: Trebiwt a Difrod Cyfalafiaeth

Gan Morgan Owen

Rhed mur diadlam drwy Drebiwt sy’n gwahanu un rhan bron yn llwyr oddi wrth y llall. Peidied y darllenydd â’m camddeall: er nas croesir, nid di-fwlch mo’r mur hwn. Gellir yn llythrennol gerdded oddi tano mewn ambell fan, neu hyd yn oed o’i gwmpas lle mae’n dechrau ac yn diweddu. Nid ei faintioli neu ei gadernid neu unrhyw briodoledd ffisegol sy’n esbonio ei ysgaru diymwared; nid oes gwyliedydd yn ei warchod na weiren bigog yn goron ddolefus arno ‘chwaith. Pery’r mur hwn yn y meddwl yn anad dim, a ffiniau meddyliol yw’r gwytnaf oll.

Lein rheilffordd a saif rhwng Stryd Bute a Rhodfa Lloyd George yw’r gwahanfur hwn; hynny yw, y pwtyn o drac sy’n mynd o orsaf Heol y Frenhines i orsaf adfeiliedig Bae Caerdydd. Taith wirion o fer ydyw, ond mae a wnelo’r siwrne hon â mwy o lawer na thrafnidiaeth foel a diflas. Gwêl y sawl a elo hyd-ddi ddau fyd anghymarus, y naill o’r ffenest ar ei dde a’r llall o’r ffenest ar ei chwith, a’r teithiwr yntau’n araf rygnu drwy’r tir neb rhyngddynt. Er taw ystrydeb gyda’r fwyaf treuliedig yw cyffelybu pared o unrhyw fath i fur Berlinaidd didoliadol ynghyd â’i holl ensyniadau gwahaniaethol, dim ond y meddwl mwyaf barddonol a allai lunio cymhariaeth well yn y cyswllt hwn.

Soniaf beth am yr ochr ddwyreiniol. Yma y mae bloc ar ôl bloc o fflatiau unffurf eu gwedd. Codwyd y rhan fwyaf ohonynt pan ddechreuwyd ‘adfywio’ Bae Caerdydd o ddifrif ar ddiwedd y 90au. Yn ymarferol, wrth gwrs, golygodd hynny glirio gweddillion y dociau ac olion y diwydiannau trymion, ond braidd yn or-selog oedd bwyeill y datblygwyr a chollwyd y rhan fwyaf o hen adeiladau’r ardal yn ddi-angen. Fel mae’n digwydd, collwyd un o’r ychydig prin a oroesodd gwpl o fisoedd yn ôl, sef Y Lanfa, a ddymchwelwyd yn ddi-seremoni am i’w berchenogion benderfynu na fyddai ei gadw’n mor broffidiol â’i chwalu, er cystal ei gyflwr. Heddiw, mae’r fflatiau’n tyrru o amgylch y pyrth a fyddai’n ddrewllyd gan sbwriel ac yn wyllt o brysur gan longau cargo yn nydd eu bri, ond sydd bellach yn ychwanegu miloedd o bunnoedd at bris anheddau newydd y cyfoethogion absennol. Trowyd ardal dlotaf y ddinas yn ynys gaeedig briciau oren. Onid yw sothach un oes yn olud y llall na ŵyr ddim amdani? Rhaid wrth anghofiant, yn amlwg, er mwyn diwreiddio a chreu o’r newydd―neu drawsblannu.

Neu efallai fod y rhan hon o’r Bae yn dysteb i ddyfeisgarwch cyfalafiaeth sydd, er disbyddu’r dociau a’u troi’n ddiffeithwch ar ôl sugno pob diferyn o faeth ohonynt a gwasgaru’r hen drigolion i’r pedwar gwynt, wedi codi trefedigaeth o fflatiau drud o’r ulw? Ond bid a fo am hynny, gwelir ar bob llaw i’r dwyrain o’r gwahanfur bennaf llwyddiant cyfalafiaeth hwyr: unffurfiaeth lwyr a bwrw ymaith popeth neilltuol, megis hanes, traddodiad a chyffyrddiadau dynol o bob math.

Ond trown ein golygon yn awr at ochr orllewinol y gwahanfur. O gymharu â chostusrwydd llwm yr ochr ddwyreiniol, tu draw i’r trac y mae stad o dai cyngor truenus eu gwedd; unffurf unwaith eto, ond yn eu tlodi y tro hwn. Petasai’r tai hyn rywle arall yng Nghymru, fe ddichon na fyddent mor drawiadol ac ydynt yma yn Nhrebiwt am fod aml ardal dlawd yng Nghymru―nac anghofier taw un o ranbarthau tlotaf Gorllewin Ewrop yw Cymru. Eithr am fod y tlodi yma’n gyfochrog â fflatiau newydd (‘moethus’ ys dywed y datblygwyr gwancus) y Bae, dwyseir yr ergyd. Ond nid yw’r gwahanfur yn didoli pensaernïaeth y ddwy ran yn unig: truenusaf oll yw mor gaeth yw trigolion y ddwy ochr i’w rhannau hwythau, a chyn lleied o gyfathrach sydd rhyngddynt.

Ar yr ochr orllewinol dlawd mae’r boblogaeth yn groendywyll ar y cyfan; ar yr ochr ddwyreiniol gefnog, er nad yw’r boblogaeth yn unffurf, mae’n amlwg yn syth fod llai o lawer o bobl groendywyll, chwaethach rhai o gymuned groenddu hirsefydliedig Trebiwt. Chwith yw’r gwahaniaeth hwn a ddynodir mor gaeth ac absoliwt gan lein rheilffordd a hewl ffensiog! Fe’m synnir o hyd mor brin yw gweld rhywun o un ochr yn croesi i’r llall, fel pe bai ffin ‘swyddogol’ yno megis rhwng dwy wlad! Efallai y bydd ambell ddarllenwr yn gofyn, er gwaethed y sefyllfa hon, beth yw diben sôn amdani? Onid yw’n ddigon hysbys? Ydyw, i raddau; gwyddys am anghyfartaledd, arwahanu a getoeiddio a achosir gan foneddigeiddio. Ond ychydig sy’n gwybod am y perygl penodol i ni Gymry yn yr arwahanu hwn.

Nod cyfalafiaeth yw unffurfioli fel na bo gwahaniaethau rhwng defnyddwyr a phrynwyr, rhyw droi pobl y byd yn un farchnad unedig. Does dim byd newydd yn y gosodiad hwn. Amlinella’r Maniffesto Comiwnyddol―a ysgrifennwyd dros ganrif a hanner yn ôl―fel mae cyfalafiaeth yn sgubo ymaith yr hen grefftau a’u traddodiadau cysylltiedig ac yn ehangu’r farchnad a’i llenwi â nwyddau traul masgynyrchiedig. Nid yw cyfalafiaeth yn parchu cymunedau na chenhedloedd nac ieithoedd: bwrir hwynt heibio fel pob rhwystr arall i’r farchnad, oni bai am yr achlysuron hynny lle y gellir eu defnyddio at ddibenion masnachol. Nid yw cyfalafiaeth yn codi fflatiau ar esgyrn y gorffennol er mwyn achlesu pobl, ond er mwyn eu gwerthu. Gwedd ar hynny yw gwahanfur Trebiwt. Trwy wahanu pobloedd tlawd a chefnog i bob pwrpas, ehanga’r ochr ddwyreiniol gefnog o hyd yn ei hunffurfrwydd dienaid tra bo’r ochr orllewinol dlawd yn nychu fwyfwy, a’r bobl yn gadael cyn gynted ag y gallent. Yn y man, lleda’r boneddigieddio bondigrybwyll i’r ochr arall, pan fyddai honno wedi ei disbyddu a’i gadael y tu ôl, fel yr hen ddociau gynt.

Gan fod lleiafrifoedd yn ffynnu pan fo lleiafrifoedd eraill, a phan nad oes gafael hegemonig gan y mwyafrif, bydd y Gymraeg hithau’n gryfach mewn Caerdydd a Chymru lle bo cymysgedd o bobloedd yn rhydd i fod yn wahanol. Fel arall, wrth i’r unffurfioli fynd rhagddo’n ddiarbed, byddai’r pwysau ar y Gymraeg a’r Cymry ond yn cynyddu, a byddai disgwyl iddynt gymathu―fel pawb arall.

Yn y cyfamser, saif y gwahanfur fel rhybudd i bawb na chydymffurfia. Os na heriwn y gyfalafiaeth hon, cawn ein gwthio i’r ymylon fwyfwy (yn llythrennol) nes ein llyncu’n llwyr.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php