Tarddiad: joncandy drwy Flickr
Taf-Od

Y Gwyddelod yn trechu yng Nghaerdydd

Gan Iestyn Harries

Ni fydd Cymru yn teithio 3,500 o filltiroedd i’r dwyrain i Rwsia haf nesaf ar ôl iddynt golli o 1-0 yn erbyn Iwerddon Nos Lun yng Nghaerdydd. Mae’r aros yn mynd ymlaen i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am 4 blynedd arall.

Dechreuodd y gêm gydag anthem i gofio. Canodd gwlad y gan fel canasent byth o’r blaen. Fe wnaeth y dorf godi to’r Stadiwm Dinas Caerdydd. Benderfynodd y FAW i beidio â chwarae’r gerddoriaeth ar ôl y digwyddiadau o ddim chwarae’r anthem allan yn Georgia ac fe wnaeth y cefnogwyr bachu sylw pob un cefnogwr pêl-droed ar draws y byd.

Roedd o’n hawdd gweld taw gem eithriadol o bwysig oedd y gêm hon gan nid oedd y chwaraewyr yn barod i wneud unrhyw gamgymeriad. Ond ar ôl i Joe Allen fynd bant o’r maes gydag anaf i’w ben fe roedd cefnogwyr Cymru yn dechrau i ofni’r gwaethaf. Gyda Joe Allen bant o’r cae a Gareth Bale yn gwylio ymysg cefnogwyr ei wlad dim ond 1 o sêr Cymru oedd yn chwarae. Ond fe wnaeth Iwerddon taro Cymru gyda gôl yn y 57 munud. James McClean sgoriodd y gôl ar ôl camgymeriad rhwng Wayne Hennessey ag Ashley Williams. Fe wnaeth Gymru gwthio a gwthio am gol i fynd a nhw i Rwsia ond nid oedd y gôl wedi dod. Roedd Iwerddon yn agos i’w Cwpan y Byd cyntaf ers 2003 ac roedd rhaid i Gymru aros 4 blynedd arall.

Ond beth sydd nesaf i Gymru?

Mae yna siarad am hyfforddwr newydd yn do di rheoli’r tîm rhyngwladol gyda chontract Chris Coleman yn gorffen haf nesaf (2018) ond fe gafodd yr hyfforddwr llawer o gefnogaeth o’i chwaraewyr gyda rhai o’r sêr y cyfarfod a Coleman ar ôl y gêm Dydd Llun a’i berswadio i aros yn rhan o’r tîm. Mae yna sôn os fydd Coleman yn penderfynu gadael taw Ryan Giggs fydd y ffefryn i ddod mewn fel hyfforddwr newydd y wlad.

Mae sôn bydd gêm ryngwladol yn erbyn Unol Dalaethau America yn dod i Gaerdydd ym mis Tachwedd, a dyma fydd gem olaf Chris Coleman?

Mae un peth y sicr, mae’r genedl wedi dod at ei gilydd yn y bencampwriaeth yma i gefnogi’r tîm ledled Ewrop. Nawr mae rhaid anghofio am Gwpan y Byd a ffocysu i fynd i Ewros 2020. Gobeithio un cam ymhellach y tro yma!

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php