Tarddiad: RAY drwy Flickr
Taf-Od

Y pedwaredd flynedd o elw i’r Brifwyl

Gan Osian Wyn Morgan

Yr wythnos diwethaf, gwnaeth Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol gyfarfod yn Aberystwyth, er mwyn trafod materion ynghylch y Brifwyl. Yn y cyfarfod, cyhoeddwyd y gwnaethpwyd elw o £6,000 yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy yn Awst eleni. Golyga hyn mai hon yw’r bedwaredd flwyddyn yn olynol lle mae’r Brifwyl wedi gwneud elw. O ganlyniad i hyn, mae’r sefydliad mewn sefyllfa well nag y mae wedi bod ers blynyddoedd, yn ôl Dr Alwyn Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio y Brifwyl.

I rai, mae’r ffaith y gwnaeth yr Eisteddfod, a gynhaliwyd yn y Fenni rhwng y 31ain o Orffennaf, a’r 6ed o Awst eleni, elw o’r ŵyl yn dod fel syndod. Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn ardal gymharol ddi-gymraeg, gyda 9.9 y cant yn unig o drigolion Sir Fynwy yn medru’r Gymraeg, yn ôl cyfrifiad 2011. Yn sgil y cyhoeddiad am yr elw a wnaethpwyd yn y Brifwyl, mae’n bosib ystyried y Brifwyl eleni fel llwyddiant ariannol.

Fodd bynnag, gellir ei ystyried yn llwyddiant diwylliannol ysgubol yn ogystal. Mae’r brifwyl wedi gadael ei hôl ar yr ardal, sydd â demograffig gymharol ddi-gymraeg. Ers mis Awst, mae galw mawr am wersi Cymraeg wedi ei amlygu yn yr ardal, a dywed yng Nghyfarfod y Cyngor bod cefnogaeth y bobl leol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y Brifwyl. Yn dilyn yr Eisteddfod, dywedodd Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod:

“Da ni wedi cael lot o bobl leol yn dod, pobl ddi-gymraeg, ystod eang o oedran ac mae pawb yn dweud bod awyrgylch arbennig yma”

Dywedodd Peter Fox, arweinydd y cyngor, “Rwy’n meddwl bod Sir Fynwy wedi croesawu’r cyfle yma gyda breichiau agored ac mae’r awyrgylch ar y Maes wedi bod yn gyfeillgar iawn. Mae ‘na rhyw fath o gydnabyddiaeth o natur Seisnigaidd Sir Fynwy efallai, ond mae ‘na barodrwydd yma i groesawu’r iaith.”

Teg fyddai dweud mai llwyddiant diamheuol oedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni felly, ac wrth edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod, ymddengys bod trigolion Ynys Môn eisoes yn ymbaratoi at wythnos lwyddiannus arall, erbyn i’r Brifwyl gael ei gynnal yno yn 2017.

Mae pobl Môn eisoes wedi cyrraedd eu targed o godi £300,000 o bunnoedd, er bod 8 mis i fynd tan y Brifwyl. Fodd bynnag, er bod trigolion Môn wedi cyflawni eu targed mewn cyn lleied o amser, penderfynwyd gan y Cyngor na fydd targed newydd yn cael ei osod. Dywedodd y Prif Weithredwr, Elfed Roberts:

“Unwaith y mae rhywun yn gosod nod i bwyllgor apêl, mae’n ddoeth sticio at y nod honno”, gan awgrymu na fyddai’n deg i osod targed uwch, gan ystyried pa mor galed y mae trigolion yr ynys wedi gweithio i gyrraedd y targed gwreiddiol o £300,000.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php