Taf-Od

Y ras i arwain Plaid Cymru

By: Cerith Rhys Jones

Y Gweinidog – Elin Jones

Mae’n debyg mai Elin Jones yw’r ffefryn yn y ras arweinyddol ar hyn o bryd. Mae’i hymgyrch hi’n canolbwyntio ar sefydlogrwydd – dyna’r gair pwysig. Dan Elin Jones fel arweinydd ar Blaid Cymru, ni ddisgwylir newid mawr ym mholisïau’r Blaid; yr hyn sy’n bwysig iddi hi yw sicrhau fod Plaid Cymru ar dir cadarn yn dilyn etholiad siomedig fis Mai 2011, a chyfnod o adlewyrchu ers hynny.

Hi oedd y Gweinidog dros Faterion Gwledig tra’r oedd Plaid Cymru’n rhan o Lywodraeth Cymru’n Un gyda’r Blaid Lafur rhwng 2007 a 2011, ac roedd ei phenderfyniad hi i gefnogi lladd moch daear yng Ngorllewin Cymru yn un dadleuol. Bydd y sawl sy’n ei herbyn hi’n dadlau fod hyn yn un o’r rhesymau pam nad yw hi’n addas ar gyfer y rôl, gan ei bod hi felly yn rhannu’r gymuned wledig – sy’n cynnwys cadarnle traddodiadol y Blaid.

Yr hyn fydd hi’n dadlau yw fod ei phrofiadau hi fel Gweinidog, a gorfod gwneud penderfyniadau anodd, yn ei gwneud hi’n fwy cymwys na’r lleill i arwain Plaid Cymru.

O ran annibyniaeth, ei dadl hi yw fod angen darbwyllo pobl Cymru i fod o’i blaid. Ni fydd hynny’n dasg hawdd yn ôl Ms Jones. Gwêl hi Gymru’n wlad annibynnol o fewn Ewrop, gyda phobl Cymru’n sofren. Proses araf fydd hi, a bydd angen arweinyddiaeth gan Plaid Cymru; gall Ms Jones ddarparu’r arweinyddiaeth honno – dyna yw ei barn hi.

Mae Llyr Huws Gruffydd, Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru a Jocelyn Davies, Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru yn ei chefnogi hi, yn ogystal â’r cyn-aelodau poblogaidd Nerys Evans a’r Dr Dai Lloyd. Yn ychwanegol i’r rhain, mae Hywel Williams, yr Aelod Seneddol dros Arfon, Cynog Dafis, y cyn-aelod Seneddol a chyn-aelod Cynulliad, a’r Dr Dafydd Trystan, cyn-Brif Weithredwr Plaid Cymru, yn cefnogi’i hymgyrch arweinyddol hi. Hyd yn hyn, mae ganddi enwebiadau etholaethau Ceredigion (ei hetholaeth hi) ac Islwyn.

 

Y Sosialydd – Leanne Wood

Bydd nifer ym Mhlaid Cymru yn ystyried Leanne Wood i fod yn rhy radical i allu uno Plaid Cymru a sichrau llwyddiant etholiadol i’r Blaid. Yn weriniaethydd, sosialydd a chenedlaetholwraig frwd, barn rhai yw ei bod hi’n rhy gaeth i’r gwerthoedd hyn i allu argyhoeddi pobl Cymru fod y Blaid yn ‘gartref gwleidyddol naturiol’ iddyn nhw.

Ond dyna yn union yw’r hyn y dymuna Leanne Wood i Blaid Cymru fod. Ei dadl hi yw gan ei bod yn ferch o’r Cymoedd, gall hi fod yn fantais i’r Blaid wrth geisio sicrhau llwyddiant etholiadol yng Nghanol a Dwyrain De Cymru – nôd Plaid Cymru ers tro. Dysgu Cymraeg wnaeth Leanne Wood (Cymraeg yw iaith gyntaf y tri arall yn yr etholiad), a gallai hyn hefyd fod yn fantais i Blaid Cymru, o ystyried yr argymhelliad yn adolygiad mewnol diweddar y Blaid. Mae hwnnw’n awgrymu y dylid sicrhau fod Plaid Cymru’n symud i ffwrdd o’r ddelwedd ystrydebol ohoni fel plaid ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig.

Ystyrir hi’n ffefryn gan ieuenctid Plaid Cymru, gan ei bod, fel ‘mab darogan’ y Blaid, Adam Price, ar yr asgell chwith – sy’n apelio at gyfran helaeth o garfan ieuenctid y Blaid. Wrth gwrs, ystyriwyd Adam Price gan nifer fel yr ymgeisydd delfrydol ar gyfer yr arweinyddiaeth wedi i Ieuan Wyn Jones adael y swydd, ond nid yw’n ôl o’r Unol Daleithiau eto, na chwaith yn Aelod Cynulliad. Yn hytrach, mae ef wedi cyhoeddi ei fod o blaid Leanne Wood.

Dywed Mr Price mai Ms Wood sydd orau ar gyfer y swydd gan y byddai’n arweinydd egwyddorol ac angerddol, a dyna yw’r ddelwedd y mae’n ei dymuno. Mae annibyniaeth i Gymru yn gonglfaen i’w hymgyrch hi, yn ogystal ag esbonio i bobl Cymru sut y byddai annibyniaeth yn berthnasol i wella bywyd yn y wlad.

Y mae tair etholaeth wedi’i henwebu hi: Rhondda (ei hetholaeth hi), Wrecsam a Gŵyr. Yn ogystal â Mr Price, mae’r Aelodau Cynulliad Bethan Jenkins a Lindsay Whittle yn cefnogi’i hymgyrch. Yn ychwanegol, mae gan Ms Wood gefnogaeth y canlynol: cyn-Brif Weithredwr y Blaid, y Dr Gwenllian Lansdown Davies; cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth; yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wnaeth olynu Mr Price, Jonathan Edwards, a chadeirydd Undeb Brigadau Tân Cymru, Cerith Griffiths.

 

Yr Arbenigwr Polisi – Simon Thomas

Mae gan yr Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru enw da am fod yn arbenigwr ar ddatblygu polisi. Gynt yn Aelod Seneddol dros Geredigion ac yna’n Gynghorydd Arbennig i Weinidogion Plaid Cymru yn ystod Llywodraeth Cymru’n Un rhwng 2007 a 2011, Mr Thomas oedd yn gyfrifol am lunio maniffesto’r Blaid ar gyfer yr etholiad fis Mai 2011. Er mor siomedig oedd yr etholiad hwnnw i’r Blaid, mae’n debyg fod nifer yn gosod y bai yn sgwâr ar strategaethau marchnata’r blaid, yn hytrach na gwaith Mr Thomas.

Y mae rhai yn y Blaid wedi’i farnu oherwydd nad yw ei ymgyrch etholiadol yn canolbwyntio ar annibyniaeth yn yr un modd ag y mae ymgyrchoedd Elin Jones a Leanne Wood. Y mae Simon Thomas yn weriniaethwr, ond eto, nid yw e’n teimlo fod annibyniaeth yn fater craidd i’r râs etholiadol hon.

Barn Mr Thomas yw fod Ms Jones a Ms Wood yn ffocysu gormod ar faterion cyfansoddiadol tra’i fod ef o’r farn y dylid canolbwyntio ar faterion sydd yn effeithio ar fywydau pob dydd pobl Cymru. Y mae hyn er gwaethad y datblygiadau clir yn sefyllfa gyfansoddiadol yr Alban, wrth gwrs, gyda’r Prif Weinidog yno, Alex Salmond, yn symud yr Alban tuag at refferendwm annibyniaeth yn 2014.

Bydd rhai’n dadlau mai ei ymgyrch ef yw’r tawelaf o’r pedair, oherwydd ei fod, yn ôl Mr Thomas ei hun, yn canolbwyntio mwy ar siarad gydag aelodau ac etholwyr. Nid oes gan ei ymgyrch ef wefan swyddogol, yn wahanol i’r tair ymgyrch arall.

Efallai fod hyn oll yn cyfrannu at y ffaith nad oes yr un Aelod Cynulliad eto wedi cefnogi’i ymgyrch ef i olynu Ieuan Wyn Jones fel Arweinydd Plaid Cymru. Mae ganddo enwebiad gan etholaeth Mynwy, ond yr unig unigolyn uchel ei broffil sydd wedi cefnogi’i ymgyrch ef yw Owen John Thomas, yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru rhwng 1999 a 2007.

 

Yr Arglwydd – Dafydd Elis-Thomas

Fel Simon Thomas, y mae’r Arglwydd Elis-Thomas yn annhebyg o ennill yr etholiad yma. Y mae llawer o genhedlaeth hŷn y Blaid yn ei weld fel dewis doeth ar gyfer yr arweinyddiaeth, oherwydd ei brofiad helaeth yn ychwanegol at ei hanes fel Llywydd y Blaid yn ystod yr 80au.

Bydd nifer yn gwrthwynebu hynny gan ddadlau nad profiad sydd angen ar Blaid Cymru, ond radicalrwydd a gweledigaeth ffres. Serch ei wybodaeth ddiymwad o wleidyddiaeth yng Nghymru, y mae wedi wynebu beirniadaeth gref gan rai o achos ei farn ef ar y frenhiniaeth, a’i safbwynt ar annibyniaeth i Gymru.

Mae ei farn ef yn mynd yn erbyn barn Leanne Wood yn llwyr. Tra’i bod hi’n adnabyddus ymysg rhai cylchoedd gwleidyddol am foicotio agoriad swyddogol y Cynulliad gan y Frenhines, y mae Dafydd Elis-Thomas yn ymfalchïo yn rôl y Frenhines ym mywyd pobl Cymru ar hyd y blynyddoedd. Yn wir, fe wnaeth yrru Ms Wood allan o Siambr y Cynulliad yn 2004 am alw Mrs Windsor ar y Frenhines.

Gwnaeth hynny tra’n Lywydd ar y Cynulliad, ac yn rhinwedd y swydd honno, does dim amau ei fod yn derbyn parch gan nifer o wleidyddion, ar bob ochr o’r spectrwm wleidyddol. A yw hynny’n golygu fod ganddo barch ac ymddiriedaeth y bobl sy’n gwestiwn arall.

Yn o brif faterion ei ymgyrch ef yw datblygiad cynaliadwy, ac yn hynny o beth, dyna un o’r pethau sy’n derbyn sylw ar ei wefan ef. Y mae’n gadeirydd ar Bwyllgor y Cynulliad ar yr Amgylchedd ac ar Gynaliadwyedd, un o brif bwyllgorau’r Cynulliad.

Gyda chefnogaeth Arweinydd y Grŵp Plaid Cymru yng Nghaerdydd ac felly Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir yno, y Cyng. Neil McEvoy, Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cyng. Dyfed Edwards, a Diprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cyng. Eryl Williams, y mae gan Dafydd Elis-Thomas dipyn o gefnogaeth. Y mae hynny’n ychwanegol at ei enwebiad swyddogol gan ei etholaeth gartref, Dwyfor Meirionydd.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php