Tarddiad: Wojtek Gorak drwy Flickr
Taf-Od

Y Senedd: Siwts, Swyddfeydd a Sieciau

Gan Osian Wyn Morgan

Ychydig o wythnosau yn ôl, cyfarfodais â un o aelodau’r cynulliad i drafod mater a oedd yn agos iawn i’m calon, a mater y tybiais a fyddai’n agos iawn i’w galon ef hefyd. Ymddengys, i mi, nad oedd gan yr aelod cynulliad hwnnw unrhyw angerdd dros yr hyn yr oeddwn yn ei drafod, ac nad oedd yn poeni dim amdano. Roedd yn amlwg i mi, wrth i mi eistedd yn ei swyddfa foethus yn y Senedd, nad oedd yn poeni am ei gyfrifoldebau fel aelod cynulliad, y cyfrifoldeb i gynrychioli pobl Cymru i orai ei allu.

Rwyf wedi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth am flynyddoedd bellach, ac mae’n debyg mai un o’r prif destunau gwleidyddol, sy’n cael ei drafod yn y wasg yw gwleidyddion gyrfaol – neu ‘career politicians’.

Roeddwn yn tybio mai gwleidyddion yn y Senedd yn Llundain oedd y gwleidyddion gyrfaol yma, a bod yr aelodau cynulliad yng Nghymru yn bobl foesegol a gweithgar, a oedd yn wirioneddol poeni am Gymru a’i phobl.

Er hyn, wrth i mi gerdded allan o’r Senedd ychydig o wythnosau yn ôl, pendronais am ein haelodau cynulliad ni, ac os ydynt yn wleidyddion angerddol, moesegol, sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru, neu os ydynt yn wleidyddol gyrfaol, sydd wedi ymyrryd â gwleidyddiaeth er eu lles eu hunain, er mwyn codi eu statws cymdeithasol, ac er mwyn iddynt allu ystyried eu hunain fel pobl bwysig.

Perodd y cyfarfod hwn i mi ystyried pa fath o bobl yw ein haelodau cynulliad, a chwestiynais, a yw ein haelodau cynulliad yn wleidyddol gyrfaol?

Cymerwch Dafydd Elis Thomas fel enghraifft, cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y bydd yn gadael grŵp seneddol Plaid Cymru, ac yn eistedd fel aelod seneddol annibynnol. Mae’r berthynas rhwng Dafydd Ellis Thomas Phlaid Cymru, ac arweinydd y Blaid, Leanne Wood, yn benodol, wedi bod yn wael am ychydig o flynyddoedd bellach. Cred rhai bod hyn yn ganlyniad i’r ffaith y collodd Dafydd Ellis Thomas yr etholiad i fod yn arweinydd Plaid Cymru, i Leanne Wood yn 2012. Yn ogystal i hyn, yn 2004, anfonwyd Leanne Wood allan o’r siambr y Senedd gan Dafydd Ellis Thomas, a oedd yn Llywydd y Senedd ar y pryd, oherwydd y cyfeiriodd Wood at y frenhines fel ‘Mrs.Windsor’.

Mae llawer o bobl wedi beirniadu’r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas am adael y blaid mor gynnar yn y pumed cynulliad. Pum mis yn unig sydd wedi heibio ers yr etholiadau fis Mai, a dadleua rhai na ddylai Dafydd Ellis Thomas wedi sefyll dros Plaid Cymru os oedd yn bwriadu gadael y blaid. Gan ystyried y ffaith y bod tensiynau rhwng ‘Dafydd El’ a’i blaid wedi bod yn brysur gryfhau am flynyddoedd bellach, a oedd yn ymwybodol ei fod am adael y blaid cyn iddo benderfynu ail-redeg fel aelod cynulliad Plaid Cymru fis Mai? Os nad oedd yn sicr y fyddai’n gallu aros yn ffyddiog i’r blaid drwy gydol y pumed cynulliad, a ddylai wedi sefyll o dan enw Plaid Cymru, gan gam arwain yr etholwyr a bleidleisiodd dros Blaid Cymru yn ei etholaeth?

Mae’n gwbl bosibl felly, nad oedd Dafydd Ellis Thomas yn bwriadu cynrychioli Plaid Cymru am y pum mlynedd nesaf, a defnyddiodd enw’r blaid, a’i gysylltiad gyda hi, yn ystod yr etholiad, er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y byddai’n cael ei ethol? Mae aelodau cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar Dafydd Ellis Thomas i sefyll lawr fel aelod cynulliad yn dilyn ei benderfyniad i adael Plaid Cymru, gan honni nad oes gan Dafydd Ellis Thomas, sydd yn gyn-arweinydd ar Blaid Cymru, yr hawl i barhau fel Aelod Cynulliad annibynnol, gan fod ei etholaeth wedi pleidleisio drosto oherwydd ei gysylltiadau gyda Phlaid Cymru. Gwau hyn, bwriada Dafydd Ellis Thomas barhau fel aelod cynulliad annibynnol, gan honni ei fod “mewn sefyllfa cryfach i gynrychioli pobl Dwyfor Meirionnydd” fel Aelod Cynulliad annibynnol.

Rydym bum mis yn unig i mewn i’r pumed cynulliad, ac nid Dafydd Ellis Thomas yw’r unig aelod cynulliad i adael ei blaid i eistedd fel aelod annibynnol. Ym mis Awst, gadawodd Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, grŵp senedd y blaid. Gadawodd Gill, sy’n aelod cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru, y blaid oherwydd nid oedd yn fodlon gyda’r holl ddadlau ymysg 7 aelod cynulliad UKIP. Mae’n ddadleuol fod hyn yn fwy annemocrataidd, hyd yn oed, na sefyllfa Dafydd Ellis Thomas. Roedd Dafydd Ellis Thomas yn aelod cynulliad dros etholaeth Dwyfor Meirionydd, sy’n golygu y pleidleisiodd llawer o bobl yn ei etholaeth dros ef, a oedd yn digwydd cynrychioli Plaid Cymru ar y pryd. Fodd bynnag, mae Nathan Gill yn aelod cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru, a olygai nad oedd unrhyw un wedi taro pleidlais dros Nathan Gill yn benodol, ond yn hytrach dros UKIP fel plaid.

Mae’n gwbl annemocrataidd ac anfoesegol, felly, bod Nathan Gill, a Dafydd Ellis Thomas, wedi penderfynu parhau fel aelodau cynulliad annibynnol, gan ei fod yn debygol iawn mai’r unig reswm y cawsant eu hethol yn y lle cyntaf oedd oherwydd yr oeddent yn cynrychioli eu cyn-bleidiau ar y pryd.

Awgryma hyn, i mi, y bod y ddau yma wedi defnyddio eu pleidiau ar gyfer datblygu eu gyrfaoedd gwleidyddol eu hunain, ac nad ydynt wedi blaenoriaethu’r bobl yn eu hetholaethau, a’u dyletswyddau democrataidd.

Byddwn i’n tybio nad y ddau aelod cynulliad yma, a’r aelod y cyfarfodais i ag ef ychydig wythnosau yn ôl, yw’r unig wleidyddion Cymreig sy’n rhoi eu gyrfaoedd eu hunain o flaen bywydau’r bobl y maent yn ei gynrychioli. I’r gwleidyddion hyn, ymddengys fod ryw apêl am y bywyd gwleidyddol. Y cyflogau uchel. Y statws uchel. Y swyddfeydd moethus. Onid dylai’r senedd fod yn llawn pobl angerddol, sydd wedi brwydro drwy gydol eu bywydau dros yr hyn y credent ynddo?

Yn hytrach, pryderaf bod ein senedd yn llawn pobl di-asgwrn cefn, sydd heb ymyrryd a gwleidyddiaeth oherwydd eu bod eisiau gwneud newid cadarnhaol i fywydau pobl Cymru, ond wedi ymyrryd a’r byd gwleidyddol ar gyfer y siwts, y swyddfeydd, a’r sieciau.

Rwyf yn wirioneddol poeni am gobygliadau’r ffaith ein bod yn ethol, tro ar ôl tro, gwleidyddion sy’n gweithredu dros eu lles eu hunain, yn hytrach na lles pobl Cymru. Pryderaf, os nad yw’r sefyllfa yn newid yn fuan, na fydd pobl Cymru yn cael y gynrychiolaeth y maent yn ei haeddu, ac na fyddent yn gweld y newidiadau gwleiddyol y maent eisiau eu gweld. Pryderaf na fyddent yn cael byw yn y Cymru y maent eisiau byw ynddi.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php