Tarddiad: Number 10 drwy Flickr
Taf-Od

Y Trafodaethau Brexit: Terfyn Theresa?

Gan Tomos Evans

Tomos Evans sy’n cynnig ei farn ar berfformiad Theresa May yn nhrafodaethau Brexit hyd yn hyn.

Yr wythnos diwethaf ceisiodd Theresa May adfywio’r trafodaethau Brexit mewn ymweliad â Brwsel. Ond mae’n debyg mai ofer fu ei hymdrechion gan fod y ddwy ochr bellach yn fwy pendant eu safbwyntiau o ran y math o Brexit yr hoffent ei weld a’r bwlch yn lledaenu rhyngddynt. Mewn gwirionedd nid yw Prydain nac Ewrop yn fodlon cyfaddawdu ac mae’n berffaith amlwg i’r rhan fwyaf ohonom fod cyfaddawd yn elfen annatod o unrhyw drafodaeth.

Gyda’r “coup” Ceidwadol bellach wedi ei dawelu am y tro, mae’n debyg fod Mrs May yn ddiogel, ond am ba hyd tybed? Rhaid cofio’r ffaith i’r Ceidwadwyr golli eu mwyafrif seneddol yn yr etholiad eleni dan ei harweinyddiaeth a ffolineb fyddai meddwl y caiff hi barhau’n arweinydd am etholiad cyffredinol arall – heb sôn am ei ennill. Gwyrthiol fyddai hynny yn sicr!

Ar ôl ymbil am gymorth gan Jean-Claude Juncker ar ddechrau’r wythnos diwethaf i gyflymu’r trafodaethau Brexit, mewn gwirionedd ni chafodd y prif weinidog y canlyniad yr oedd yn ei ddisgwyl – neu o leiaf yn ei ddymuno. Yn hytrach, mae cynrychiolwyr Ewrop yn parhau i deimlo nad oes digon wedi ei gyflawni yn y trafodaethau mor belled ac yn ôl y dystiolaeth, teg fyddai’r dyfarniad hynny.

Gwelir Mrs May a’i chabinet fel jôc yn Ewrop tra bod amynedd arweinwyr grymus megis Angela Merkel ac Emmanuel Macron yn prinhau. Nid yw amser yn caniatau i’r trafodaethau barhau ar eu graddfa presennol ac nid yw Mrs May yn ymddangos parodrwydd i newid ei dulliau trafod ychwaith.

Ond yn fwy pryderus efallai ydy’r risg gynyddol y bydd ein llais ni yma yng Nghymru yn cael ei anwybyddu gan gynrychiolwyr San Steffan. Pwy, mewn cyfarfod cabinet, fyddai’n wirioneddol ystyried anghenion ffermwr defaid yng nghanolbarth Cymru, er enghraifft? Er i ddirprwy Theresa May, Damian Green, honni yr wythnos diwethaf fod y trafodaethau rhwng llywodraethau San Steffan a Chaerdydd ynghlych Brexit yn dechrau talu ffordd, gwnaeth llywodraeth Cymru gadarnhau’n go fuan yn dilyn hyn y byddent yn parhau i herio llywodraeth Theresa May bob cam o’r ffordd.

Yn ddi-os, yr unig ateb i adfer y trafodaethau Brexit a chadw economi’r Deyrnas Unedig a Chymru rhag chwalu ymhellach yw arweinyddiaeth newydd, cryfach a fydd yn medru llywio’r llong i’n cyrchfan nesaf. Ond nid wyf, drwy hynny, yn golygu Boris a’i debyg, na chwaith Corbyn a’i griw. Yn hytrach, mae angen i’r holl bleidiau gwleidyddol gyd-weithio mewn llywodraeth traws-bleidiol fel y cafwyd ddwywaith o’r blaen yn hanes Prydain; yn dilyn Cwymp Wall Street ac ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Byddai trefniant o’r fath nid yn unig yn sicrhau dêl dda i’r DU yn dilyn Brexit ond mi fyddai’n golygu fod Cymru yn ran allweddol o’r trafodaethau yn ogystal, gan leihau ar y gwenwyn gwleidyddol sydd wedi bod yn rhemp ar hyd a lled ein gwlad dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r diffyg parch a ddangoswyd gan bobl o bob cwr o’r sbectrwm wleidyddol at safbwyntiau gwleidyddol eraill wedi amlygu’r rhaniadau amlwg yn ein gwlad yn ystod yr etholiad eleni a’r refferendwm llynedd yn arbennig.

Anodd yw hi, ar hyn o bryd, i weld terfyn taclus a thwt i’r trafodaethau Brexit, heb newid cyfeiriad yn llwyr gan lywodraeth draws-bleidiol gryf; anoddach fyth yw gweld diweddglo ffafriol i Gymru.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php