Source: Wikimedia Commons via Google Images
Taf-Od

Yr Etholiad Sydyn yng Nghymru: Pa bleidiau sy’n arwain?

Gan Liam Ketcher

Gydag etholiadau lleol wedi gorffen ar ganlyniadau yn bellach wedi eu dadlennu, mae’r pleidiau gwleidyddol yma yng Nghymru yn awr yn paratoi tuag at yr ‘etholiad sydyn’ a fydd yn digwydd ar 8fed o Fehefin. Prif nod dros gael etholiad sydyn, ydy cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer Brexit. Ers y refferendwm gwreiddiol yn ôl yn fis Mehefin 2016, mae Brexit wedi bod yn bwnc canolog yn holl drafodaethau a digwyddiadau gwleidyddol y wlad. Ond beth olygir etholiad sydyn i ni yma yng Nghymru.

Yn ôl y pôlau piniwn, mae’r Torïaid ymhell ar y blaen yng Nghymru. Ac mae arolwg gan y Sunday Times yn awgrymu bod y Torïaid yw’r blaid gryfaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r canlyniadau yn rhoi’r prif bleidiau yma yng Nghymru yn y canrannau yma, sef y Torïaid gyda 45%, y blaid Lafur gyda 25%, Plaid Cymru 6%, y Democrataidd Rhyddfrydol 4% ac UKIP ar 1%. Wedyn mae’r ffigyrau yn parhau i godi wrth ystyried y nifer a fydd yn pleidleisio. Mae hyn yn rhoi’r Torïaid yn bell yn y blaen gyda 56%. Yn amlwg mae’r sefyllfa yn wahanol yn yr Alban gan fod plaid Theresa May yn dod yn ail i blaid Nicola Sturgeon yr SNP. Er bod yr ystadegau yn dangos bwlch mawr, credaf fod yma yng Nghymru ydy’r ras agosaf yn ystod yr etholiad sydyn ym mis Mehefin.

Mae pleidiau Jeremy Corbyn (Llafur) a Leanne Wood (Plaid Cymru) dal i frwydro’n gryf dros seddu yng Nghymru. Daeth Jeremy Corbyn yma i Gaerdydd pythefnos yn ôl i geisio cadw ei sedd yma yn y Brifddinas. Dadlau Jo Stevens, llefarydd Llafur ar Gymru, bod y syniad na all ei phlaid hi ennill etholiad cyffredinol heb gymorth pleidiau eraill yn “nonsens llwyr”. Ond ar y llaw arall mae Mike Payne, Cadeirydd Llafur Cymru yn dadlau bod Carwyn Jones yn derbyn mwy o ymddiriedaeth yng Nghymru nag arweinydd y blaid Jeremy Corbyn, fe all hyn gael effaith mawr ar ganlyniadau’r etholiad gan fod Mr Corbyn wedi derbyn llawer o farnau yn y gorffennol.

Mae Leanne Wood ar y llaw arall yn arweinydd cryf sydd am wthio i Gymru gael ei gynnwys yn y farchnad sengl ar ôl i Brydain gadael yr Undeb Ewropeaidd. Maent hyn yn hanfodol yn ôl arweinydd y blaid, er mwyn diogelu swyddi yma yng Nghymru, a rhoi’r hawl i bobl i symud. Dywedodd: ““Byddai gadael y Farchnad Sengl yn ddinistriol iawn i Gymru ac yn rhoi swyddi mewn perygl, gallai Cymru ddilyn esiampl Norwy, sydd o fewn y Farchnad Sengl ond y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.” Yn sicr, mae’n gwbl bosib cael trefniant o’r fath i Gymru. “Felly does dim rheswm pam na ddylai trefniant o’r fath fod yn bosibl ar gyfer Cymru hefyd.”

Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May ei bod hi am wrthod cymryd rhan mewn unrhyw dadlau sydd am gael eu darlledu ar y teledu. Mae hyn wedi cychwyn dadl rhwng arweinyddion y pleidiau eraill i barhau gyda’r dadleuon ar y teledu, ac mae ITV wedi cadarnhau y bydda nhw’n darlledu dadl rhwng arweinyddion pob plaid gyda neu heb Theresa May.

Er
pleidleisiodd Cymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n siŵr dyma’r bleidlais
bwysicaf yn ddiweddar i’r Cymry ac yn sicr i’r DU.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php