Taf-Od

Y Ddawns Ryng-gol yn dychwelyd i Aberystwyth

Eleni gwelwyd y Ddawns Ryng-golegol yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf ers i gyfyngiadau Cofid-19 lacio. 

Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od

Ar benwythnos yr 20fed o Dachwedd teithiodd cymdeithasau Cymraeg prifysgolion Caerdydd, Bangor, Abertawe aÔÇÖr Drindod Dewi Sant i ymuno ag Aberystwyth ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol. Mae gweithgareddau Rhyng-golegol yn draddodiad sydd wedi uno siaradwyr Cymraeg Prifysgolion Cymru am ddegawdau ac yn gyfle i hyd at 1000 o fyfyrwyr gymdeithasu, cystadlu a dathlu eu Cymreictod. MaeÔÇÖr Prifysgolion yn gallu arddangos eu doniau creadigol, cerddorol a chwaraeon drwy gystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhelir yn flynyddol ym mis Mawrth aÔÇÖr Ddawns Ryng-golegol ym mis Tachwedd

Y Ddawns

Y Ddawns Ryng-gol yw un o uchafbwyntiau’r s├«n gerddorol Gymraeg ac eleni Dienw, Kim Hon, Bwncath aÔÇÖr Cledrau oedd yn perfformio i dros 600 o fyfyrwyr o ledled y wlad yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.┬á

Ar ├┤l rhyddhau albwm newydd, Cashews Blasus, eleni, Y Cledrau oedd yn cauÔÇÖr gig Nos Sadwrn. Dywedodd Marged Gwenllian, aelod oÔÇÖr Cledrau, ei bod hi a gweddill y band wedi mwynhauÔÇÖr cyfle i allu perfformio unwaith eto mas draw. Ychwanegodd-┬áÔÇ£Dydy chwarae i gamera erioed wediÔÇÖn siwtio ni fel band, achos ein bod niÔÇÖn dibynnu gymaint ar egni cynulleidfa. MaeÔÇÖn caneuon niÔÇÖn eitha ÔÇÿshoutyÔÇÖ, syÔÇÖn gofyn am gynulleidfa i weiddi canu hefo ni, ac maeÔÇÖr hwyl i gyd yn ddibynnol ar gynulleidfa dda, felly de niÔÇÖn andros o falch o fod n├┤l yn gigio.ÔÇØ

Aeth Marged ymlaen i bwysleisio pwysigrwydd digwyddiadau Rhyng-golegol i fyfyrwyr y wlad a thu hwnt wrth ddweud:

ÔÇ£DwiÔÇÖn meddwl ei bod hiÔÇÖn hawdd iawn byw mewn bybl yn dy brifysgol, ac anghofio am bawb y tu allan iddo fo, felly maeÔÇÖn gyfle i weld dy ffrindiau eraill unwaith eto a chwrdd ├óÔÇÖu gr┼Áp ffrindiau nhw. Hefyd, mae rhai prifysgolion ├ó chymdeithas Gymraeg gymharol fach (e.e. GymGym Lerpwl neu Abertawe), felly maeÔÇÖn anodd iddyn nhw drefnu gig neu dwrnamaint chwaraeon mawr drwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae tynnu pawb at ei gilydd am un penwythnos gwallgoÔÇÖ yn gyffro mawr bob tro.ÔÇØ

Blwyddyn anarferol

Oherwydd cyfyngiadau Cofid-19, fe ganslwyd Y Ddawns Ryng-golegol yn 2020 ac ychwanegodd hyn at heriau’r unigolion syÔÇÖn trefnuÔÇÖr digwyddiadau. Yn ├┤l Lois Campbell, Llywydd y GymGym yng Nghaerdydd ac un o drefnwyr y digwyddiad: ÔÇ£Roedd hiÔÇÖn anoddach i ni fel pwyllgor eleni, dwiÔÇÖn meddwl, i wneud trefniadau ar gyfer y Ddawns Ryng-gol gan ei bod ni heb brofi unrhyw beth oÔÇÖr fath oÔÇÖr blaen – mewn ffordd, roÔÇÖn iÔÇÖn mynd mewn iÔÇÖr cwbl ÔÇÿyn ddallÔÇÖ fel petai. Ar ben hyn, roedd y sefyllfa COVID-19 yn effeithio ar y trefniadau o ran trefnu bysiau ac archebu crysau t, ond dwiÔÇÖn falch bod popeth wedi mynd yn hwylus yn y pen draw aÔÇÖn bod ni gyd wedi medru cael penwythnos gwerth chweil.ÔÇØ

Er y sialensiau, profodd y digwyddiad yn un llwyddiannus wrth iddo chwarae r├┤l flaenllaw yn niwylliant prifysgolion y wlad unwaith eto. Yn ├┤l Caitlyn White, myfyrwraig ail flwyddyn ym mhrifysgol Aberystwyth, maeÔÇÖr Ddawns Ryng-gol yn ÔÇ£cyfleu diddordeb pobl ifanc yn yr iaith Gymraeg a diwylliant y wlad. Cynigir cyfle i bobl o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd gan greu ffrindiau newydd yn enwedig ar ├┤l y flwyddyn a hanner diwethaf.ÔÇØ

ÔÇ£Roedd yn brofiad pleserus gweld pawb yn ├┤l at ei gilydd ar ├┤l bod ar wah├ón am gymaint o amser. Yn amlwg maeÔÇÖr flwyddyn yn barod wedi bod yn un gwahanol i ni fel myfyrwyr yr ail flwyddyn ond maeÔÇÖr Ddawns Ryng-gol yn sicr wedi bod yn uchafbwynt imi hyd yn hyn.ÔÇØ

[mks_button size=”small” title=”Nansi Eccott” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/nansi-eccott/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″]┬á[mks_button size=”small” title=”Taf-od” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/taf-od/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″] ┬á